Prydain ar ffilm yn datgelu gorffennol gweledig Cymru: Bywyd gwledig
Mae’r BFI wedi cyhoeddi Bywyd Gwledig, sef rhyddhau ar-lein fwy na 750 o ffilmiau o’r cyfnod rhwng 1900 a 1999, a llawer ohonynt heb eu gweld ers eu dangos am y tro cyntaf. Mae’r ffilmiau’n rhan o brosiect Prydain ar Ffilm y BFI sy’n datgelu hanesion cudd a straeon angof pobl a llefydd o bob cwr o Brydain Fawr, o archifau ffilm a theledu allweddol y DU sydd ar gael am ddim ar BFI Player drwy gyfrwng map rhyngweithiol. Hefyd bydd y ffilmiau o’r archif yn ymweld â mwy na 125 o leoliadau o bob cwr o’r wlad ar gyfer digwyddiadau a sgrinio arbennig.
Mae Bywyd Gwledig yn cofnodi’r newid yng nghefn gwlad ac mewn bywyd gwledig, gan dynnu sylw at weithgareddau, digwyddiadau a thraddodiadau sydd wedi goroesi hyd heddiw, yn ogystal ag arferion, sgiliau a chrefftau sydd wedi dirywio neu ddiflannu erbyn hyn. Ewch ar daith drwy’r 1960au yng Ngogledd Cymru i ddysgu am yr arfer 150 o flynyddoedd oed, ‘Coprau Poeth’, sydd bellach wedi diflannu ond a oedd i’w weld ar un adeg yn nhref hynafol Biwmares (1929); beth am fwynhau unwaith eto stori fawr gwylliaid Llanymawddwy a’r campau mawr cyn y rhyfel yn Y Fenni, ac ymgolli mewn cynhaeaf euraid yn Nhrebetyn ger Y Bontfaen.
Dywedodd Robin Baker, Prif Guradur Archif Genedlaethol y BFI:
“Mae’r ffilmiau yma’n gofnod na welwyd ei debyg o’r blaen o’n treftadaeth wledig ni a’i holl gyfoeth yn ystod yr 20fed ganrif. Mae’n brofiad aruthrol, eu gwylio nhw, ac yn wefreiddiol. Bydd y bobl sy’n byw ac yn gweithio yng nghefn gwlad yn rhyfeddu o weld sut roedd eu cyndadau nhw’n byw. Fel llawer o bobl eraill sy’n byw yn y ddinas, fe gefais i fy ngeni a’m magu yng nghefn gwlad ac mae’r casgliad yma o ffilmiau’n gyfle i ni i gyd brofi hanes cymdeithasol rhyfeddol a real iawn cefn gwlad Prydain. Mae’n bortread grymus o gonglfaen ein bywyd cenedlaethol ni sy’n cael ei esgeuluso’n aml.”
Mae’r ffilmiau yn Bywyd Gwledig yn dyddio o’r cyfnod rhwng 1900 a 1999 ac wedi dod o gasgliadau Archif Genedlaethol y BFI ac Archifau Ffilm Rhanbarthol a Chenedlaethol y DU, gyda’r cynnwys yn rhoi sylw i bob cwr o’r DU. Mae cyfle i bawb archwilio cefndir gwledig Cymru drwy ddefnyddio map Prydain ar Ffilm, sy’n datgelu ffilmiau a dynnwyd ym mhob sir bron. Ers lansio Prydain ar Ffilm, mae mwy na 6 miliwn o bobl wedi ymweld â’r safle er mwyn darganfod mwy am dreftadaeth eu gwlad. Gyda’r casgliad newydd hwn, erbyn hyn mae mwy na 5,000 o ffilmiau i’w gweld ar-lein - 97% ohonynt am ddim. Erbyn 2017, diolch i gyllid y Loteri Genedlaethol a chefnogaeth Mudiad Esmée Fairbairn, bydd 10,000 o ffilmiau a theitlau teledu o’r cyfnod rhwng 1895 a’r presennol ar ffurf ddigidol newydd ac ar gael i’w gweld.
Mae Bywyd Gwledig yn cyflwyno cofnod gwefreiddiol a dadlennol o bobl cefn gwlad Prydain a’r newid sydd wedi bod yng nghefn gwlad, gan dynnu sylw at draddodiadau cadarn fel pasiantau pentrefi, sioeau fferm a gwyliau’r cynhaeaf, Dawnswyr Morris a Breninesau Mai. Hefyd mae Bywyd Gwledig yn ein goleuo ni am arferion lleol rhyfedd fel gorymdaith lanternau Noson Punky Gwlad yr Haf, dawns cnau coco Bacup neu Goeden Ddymuniadau Ardboe. Mae yma ffeiriau a gwyliau o bob math, yn ogystal â dathliadau tymhorol dirifedi, ac mae’r sefydliad Prydeinig gwych hwnnw, tafarn y pentref, yn elfen gref ynddynt i gyd. Mae treftadaeth hyfryd y gweithgareddau gwledig wedi’i chofnodi ar ffilm am ddigwyddiadau chwaraeon; mae helfeydd (a’r rhai sy’n gwrthwynebu helfeydd) a rasio ceffylau i’w gweld ochr yn ochr ag ychwanegiadau mwy diweddar fel croesfoduro. Mae gwyliau delfrydol yn y wlad wedi’u cofnodi mewn ffilmiau amatur hiraethus ac mae cofnodion teithio’n cynnig golygfeydd hudolus i ddenu mwy o gerddwyr. Ceir hefyd ffilmiau sy’n astudio hanes amrywiol ffermio a thechnegau amaethyddol, o hadu i gynaeafu. Dyma ffilmiau sy’n rhoi gwybodaeth hanesyddol gyfoethog am y ffordd roeddem yn byw y tu allan i’r trefi a’r dinasoedd mawr, gyda thirluniau a phobl a allai fod wedi cerdded allan o dudalennau nofelau Thomas Hardy, Walter Scott, John Betjeman neu Catherine Cookson.
Dyma rai o’r uchafbwyntiau o’r casgliad o ffilmiau sydd ar gael am Gymru:
Gogledd Cymru
Cyfres o ddramâu doniol wedi’u lleoli yn Llanymawddwy yn y 1920au a’r 1930au: Early film-making at Welsh camp (1929), Farmer John (1930), Jack Reforms (1931), We Regret (1932) - gwaith John W Meredith a ddeuai, gyda’i gamera a’i gydweithwyr, o Swydd Stafford i fwynhau trip gwersylla blynyddol ar Fferm Penygeulan.
Gwylliaid Cochion Mawddwy/The Bandits of Mawddwy - Yn 1935, gweithiodd John W Meredith gyda’r trigolion lleol, y Parchedig H E Hughes a Richard Elis Jones, i greu ffilm sy’n adrodd stori’r llen gwerin am wylliaid gwallt coch a oedd yn enwog ym Mawddwy yn yr 16eg ganrif.
On the Isle of Anglesey Topical Budget 950-2 (1929) – Ffilm newyddion Topical Budget o Fiwmares. Roedd Helfa Ynys Môn yn denu sylw’r newyddion am ei bod yn cynnal traddodiad 150 o flynyddoedd oed - taflu darnau arian wedi’u cynhesu, sef ‘Coprau Poeth’, i bobl leol ar ddiwedd yr helfa.
Land of Song (1960) – Ffilm dwristaidd fer am Gymru yn rhoi sylw i ‘gopaon mawreddog mynyddoedd Eryri – cartref ysbrydol y Cymry’ a llawer o dirnodau twristaidd eraill. Gwnaed y ffilm gan wneuthurwyr Lanry - “the bleach that has no equal.”
Highlights of the Royal Welsh Show – Rhyl (1956) – Mae’n fis Gorffennaf 1956 ac mae Sioe Frenhinol Cymru yn y Rhyl. Mae Miss Wrecsam wedi cipio coron y Forwyn Laeth ac mae’r cobiau a’r teirw’n ennill rhubanau.
North Wales, England: The Land of Castles and Waterfalls (1907) - Ffilm sy’n gofnod teithio wedi’i chreu gan Reilffordd Llundain a’r Gogledd Orllewin (LNWR), a gysylltai drefi prydferth a llefydd o ddiddordeb rhwng Caer a Betws-y-coed, gyda’r golygfeydd allan o drên yn symud. Cynhyrchwyd y ffilm yn wreiddiol fel hysbyseb i reilffordd LNWR ac fe’i dangoswyd yn 1909 yn Arddangosfa White City.
De Cymru
Cheshire Territorials at Abergaveny (1913) – Gwyliau o fath i aelodau’r fyddin wrth gefn yn Stockport, sy’n mwynhau dipyn o firi rhwng ymarferion yn ystod pythefnos o hyfforddiant haf yn y Fenni. Roedd y teitl wedi’i gamsillafu.
Premier at Neath Gaumont Graphic No. 772 (1921) - Cafodd Mr Lloyd George, a dderbyniodd Ryddid Tref Castell-nedd, groeso aruthrol. Mae band milwrol yn arwain gorymdaith o filwyr a merched sy’n gweithio/nyrsys tra bo Mr David Lloyd George, sy’n eistedd mewn car agored, yn chwifio ei law ar y dorf.
Haymaking - Trebettyn, Cowbridge (1949) – Haf hirfelyn: mae teulu’r Iles yn torri’r cynhaeaf am y tro cyntaf ar y fferm maent wedi symud iddi ychydig cyn y Nadolig yn 1948 ac mae bachgen sy’n gwisgo cap ysgol yn mwynhau ei hun i’r eithaf yn gyrru’r tractor sy’n tynnu llond wagenni o wair i’r ysgubor. Mae Mrs Iles yn galw’r gweithwyr blinedig a sychedig i’r ffermdy am de ac maent yn ymlwybro dros y caeau, a llefrith yn cael ei nôl yn ffres gan y buchod.
Merthyr Vale and Aberfan: Coronation festivities (1953) - Mae strydoedd llydan y pentrefi glofaol yn berffaith ar gyfer partïon stryd a baneri ac mae’r coroni yn 1953 yn dod â phawb allan i ddathlu.
Mae Archif Sgrin a Sain Cymru wedi ymuno â’r BFI fel rhan o brosiect Prydain mewn Ffilm.
Dywedodd y Swyddog Datblygu Ffilmiau, Iola Baines:
“Mae trysorau gwirioneddol o Gymru yng nghasgliad Bywyd Gwledig Prydain ar Ffilm. Cynhaeaf euraid, hanesion y gwylliaid, cneifio defaid, cofnodion teithio hyfryd – maen nhw i gyd yn dweud cymaint wrthym ni am ein hanes ni a’r ffordd wledig o fyw. Mae datgelu treftadaeth ffilm fel hyn yn gyfle i ni rannu’r cipolwg yma ar y gorffennol gyda’r cyhoedd yn ehangach.”
RHYDDHAU DVDs y BFI
- Mae Andrew Grieve’s On the Black Hill (1987) yn seiliedig ar nofel arobryn Bruce Chatwin ac mae’n bortread o deulu gwledig sy’n ffermio tir prydferth y ffin yng Nghymru. Gyda Bob Peck (Jurassic Park) a Gemma Jones (Bridget Jones’s Diary) – bydd yn cael ei rhyddhau ar DVD ar 22 Awst 2016
- GWEITHGARWCH LEDLED Y DU
Bydd Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm y BFI yn cynnal mwy na 160 o ddigwyddiadau sgrinio mewn 129 o leoliadau. Mae’r manylion llawn a gwybodaeth am sut i archebu’r digwyddiadau hyn ar gael yn www.britainonfilmscreenings.org.uk
CYMRU - SINEMAES YR EISTEDDFOD: Dangos ffilmiau Cymraeg o’r archif a gweithdai yng ngŵyl ddiwylliannol enwog y byd, yr Eisteddfod, yn y Fenni rhwng 29 Gorffennaf a 5 Awst.
ARCHIFAU AR OLWYNION, Cymru a Gorllewin Lloegr: Bydd rhaglen helaeth o ddangos archifau gwledig ledled Cymru a Gorllewin Lloegr yn teithio i Sioeau Amaethyddol a Gwyliau. Bydd Archif ar Olwynion yn dangos ffilmiau o’r archif – yn y llefydd ble cawsant eu ffilmio – mewn sioeau amaethyddol ledled yr ardal. Mae’r dyddiadau sydd wedi’u cadarnhau’n cynnwys y canlynol:
- 17 i 19 Mehefin – tair sioe sirol ym Malvern
- 18 a 21 Gorffennaf – Sioe Frenhinol Cymru, Llanfair-ym-Muallt
- 6 Awst – Sioe Croesoswallt
- 20 Awst – Sioe Minsterley
- 10 Medi - Sioe Kington
- 17 Medi - Gŵyl Ellesmere
PRYDAIN AR FFILM A DATGLOI’R DREFTADAETH O FFILMIAU
Prydain ar Ffilm yw un o’r prosiectau archifol mwyaf, a mwyaf cymhleth, i’w roi ar waith erioed ac mae’n rhan o raglen Datgloi Treftadaeth Ffilm y BFI (2013-17). Mae datgloi treftadaeth ffilm i bawb yn y DU ei mwynhau yn flaenoriaeth strategol allweddol i'r BFI a ‘Prydain ar Ffilm’ yw lansiad cyhoeddus y rhaglen waith helaeth, sydd wedi bod ar droed ers dros dair blynedd. Gan greu partneriaeth gydag Archifau Ffilm Rhanbarthol a Chenedlaethol a chasgliadau deiliaid hawliau ledled y DU, mae’r gwaith hwn wedi cynnwys rhaglen soffistigedig o gasglu data a’u catalogio, copïo i safonau archifol, gwarchod manwl ar ddeunyddiau gwreiddiol, chwilio’n drwyadl drwy archifau ledled y wlad, offer newydd cwbl fodem a chyfleusterau storio digidol, a throsglwyddo ffilmiau i lwyfan ar-lein y BFI, sef BFI Player. Mae Datgloi Treftadaeth Ffilm a Phrydain ar Ffilm yn digwydd diolch i gyllid o £15 miliwn gan y Loteri Genedlaethol a chefnogaeth ychwanegol gan Fudiad Esmée Fairbairn.