Prifysgol Aberystwyth a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cydweithio ar astudiaeth o radicaliaeth yng Nghymru
Bydd y modd y mae radicaliaeth yng Nghymru wedi newid yn cael ei astudio fel rhan o brosiect ymchwil newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Bydd yr astudiaeth yn ystyried y gwahanol ddulliau a ddefnyddiwyd gan Fyddin Rhyddid Cymru, Meibion Glyndŵr a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Y nod yw edrych ar gyfranogiad sifil ar gyrion cymdeithas a dadansoddi pam mae rhai mathau o ymgysylltu â dinasyddion yn fwy derbyniol gan gymdeithas nag eraill.
Caiff yr astudiaeth, sy’n cwmpasu'r 30 mlynedd o 1962 tan 1992, cyfnod sy’n cael ei ystyried gan rai yn un cythryblus yn hanes modern Cymru, ei chynnal gan Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear y Brifysgol a’i chyllido gan Ganolfan Hyfforddi Ddoethurol Cymru.
Un o nodweddion unigryw'r prosiect fydd y cydweithio agos rhwng y Brifysgol a'r Archif Wleidyddol Gymreig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Y gobaith yw y bydd yr ymchwil hefyd yn sail i arddangosfa yn 2019 i gyd-redeg gyda hanner can mlwyddiant arwisgiad Tywysog Cymru.
Dywedodd Dr Rhys Dafydd Jones o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear;
"Mae'r ysgoloriaeth yn ymdrin â dau fater cyfoes: y pwyslais ar werth cyfranogiad sifil ar y naill law a'r ofn o radicaliaeth ar y llall. Yn amlach na pheidio, mae cymdeithas yn ystyried ymgysylltiad dinesig megis gwirfoddoli fel peth da. Ond y cwestiwn y byddwn yn mynd i'r afael ag e yw beth yw'r gwahaniaeth rhwng gweithredoedd sy'n cael eu hystyried yn rhai "da" a'r rhai sy'n fwy radical ac felly’n cael eu hystyried fel rhai "drwg". Mae hwn yn gwestiwn arbennig o berthnasol wrth edrych ar grwpiau dan sylw a'u gosod yng nghyd-destun Cymru heddiw. "
"Er bod llawer o'u gweithredoedd yn cael eu hystyried fel rhai radical neu'n eithafol ar y pryd, mae yna, fodd bynnag, angen i ddeall y radicaliaeth hon o fewn cyd-destun ehangach, gyda llawer o'r hyn yr oeddent yn galw amdano megis datganoli gwleidyddol a mwy o hawliau i'r Gymraeg, wedi’u gwireddu ac yn rhan o brif ffrwd cymdeithas a disgwrs yng Nghymru," ychwanegodd.
Bydd yr ymchwil yn cael ei wneud gan Rhodri Evans, sy’n raddedig o Brifysgol Aberystwyth ac yn gyn-ddisgybl o Ysgol y Preseli, fel rhan o’i ddoethuriaeth.
"Mae'r pwnc hwn wedi bod o ddiddordeb mawr i mi ar hyd yr amser ac yn un yr wyf yn teimlo'n angerddol yn ei gylch”, meddai Rhodri.
"Mae'r mater o gyfranogiad sifil gyda grwpiau ymylol yn bwnc sy'n aml wedi cael ei esgeuluso o ran hanesyddiaeth Cymru ac rwy'n gobeithio y bydd fy ngwaith yn gymorth i daflu goleuni ar weithgareddau oedd yn cael eu hystyried yn filwriaethus ar y pryd, ond o’u gosod yng nghyd-destun heddiw, a fu’n ganolog wrth lunio'r Gymru rydym yn ei hadnabod heddiw,” ychwanegodd.
Dywedodd Rob Phillips or Archif Wleidyddol Gymreig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru;
"Rydym yn hynod falch o fod wedi gallu cydweithio â Phrifysgol Aberystwyth ar y prosiect hwn ac yn credu y gall y gwaith ymchwil arwain at ffyrdd arloesol ac apelgar o ddod â'r drysorfa o wybodaeth a gedwir yn ein harchifau yn fyw.
"Ein gobaith yw y bydd canlyniadau'r ymchwil yn arwain at arddangosfeydd ffisegol a digidol yn 2019, sydd mewn sawl ffordd yn addas gan y bydd yn nodi 50 mlynedd ers arwisgo Tywysog Cymru yng Nghaernarfon, digwyddiad a brofodd yn ganolbwynt i lawer o'r gweithgareddau a fydd yn cael eu hastudio yn ystod y ddoethuriaeth hon."
Fideo Astudiaeth o Radicaliaeth yng Nghymru
Gwybodaeth Bellach
Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk
Prifysgol Aberystwyth www.aber.ac.uk
Wedi’i sefydlu yn 1872, mae Aberystwyth yn brifysgol addysgu ac ymchwil flaenllaw. Yn ôl yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2016, Aberystwyth oedd y brifysgol orau yng Nghymru o ran boddhad cyffredinol, ac roedd yn un o’r deg uchaf yn y Deyrnas Unedig. Mae ymhlith 40 prifysgol gorau’r DU mewn tabl cynghrair a gyhoeddwyd gan y Times Higher Education yn 2016 ac yn ôl y Sunday Times University Guide 2015, mae Aberystwyth yn safle 35 yn y DU o ran ‘Ansawdd Ymchwil’. Mae’n gymuned o 12,000 o fyfyrwyr a 2,300 o staff, a’i nod yw creu cyfleoedd, ymchwil rhagorol sy’n creu effaith, addysgu sy’n ysbrydoli, meithrin cysylltiadau â’r byd, gweithio mewn partneriaeth a buddsoddi yn ein dyfodol. Elusen gofrestredig rhif 1145141.
Yr Archif Wleidyddol Gymreig www.llyfrgell.cymru/archifwleidyddolgymreig
Mae’r Archif Wleidyddol Gymreig yn rhaglen yn y Llyfrgell Genedlaethol i gasglu a hyrwyddo defnydd o archifau gwleidyddol. Mae’r casgliad archifau gwleidyddol yn cynnwys papurau personol gan Aelodau Seneddol, Aelodau’r Cynulliad, Aelodau Senedd Ewrop, Arglwyddi ynghyd ag archifau mudiadau gan gynnwys archifau’r prif pleidiau, grwpiau ymgyrchu, mudiadau ymgyrchu ar gyfer refferenda, grwpiau busnes, mudiadau llafur ac eraill. Un o’r casgliadau pwysicaf yw’r casgliad deunydd ymgyrchu – taflenni etholiadau ac ymgyrchoedd ers 1837.
Llyfrgell Genedlaethol Cymru www.llyfrgell.cymru
Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC) yw llyfrgell fwyaf Cymru ac ynddi cedwir cof cenedl. Fel llyfrgell adnau cyfreithiol mae ganddi’r hawl i dderbyn copi am ddim o bopeth sy’n cael ei gyhoeddi ym Mhrydain ac Iwerddon. Mae 4,000 o gyhoeddiadau newydd yn cael eu casglu bob wythnos i ychwanegu at gasgliad y Llyfrgell Genedlaethol o:
- 6 miliwn o lyfrau a phapurau newydd950,000 o ffotograffau
- 60,000 o weithiau celf
- 1.5 miliwn map
- 7 miliwn troedfedd o ffilm
- 40,000 o lawysgrifau
- 250,000 awr o fideo
- 1,900 metr ciwbig o archifau