Symud i'r prif gynnwys

Pam fod Sefydliadau Cenedlaethol yn goleuo ar gyfer Shine yr Hydref hwn?

Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn goleuo’n felyn yn ystod mis Hydref i helpu i wneud anableddau cudd yn fwy gweladwy.

Mae'r elusen Shine yn galw ar ei gefnogwyr a'r cyhoedd i #GoYellow yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Spina Bifida a Hydrocephalus 24-31 Hydref ac yn enwedig ar ddiwrnod cenedlaethol Spina Bifida a Hydrocephalus, Dydd Mawrth 25 Hydref er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o'r cyflyrau hyn.

Bydd y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn un o wyth lleoliad mawreddog fydd yn goleuo ar gyfer yr achos yn ystod yr wythnos.

Mae Shine, sy'n dathlu ei hanner canmlwyddiant eleni yn rhedeg gwasanaethau ac yn ymgyrchu dros fwy na 11,000 o aelodau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Bydd cefnogwyr Shine yn cael hwyl wrth godi arian o amgylch y thema #GoYellow, a bydd logo'r elusen hefyd yn bownsio o gwmpas cyfryngau cymdeithasol i weld pa mor bell y gall fynd.

Tu ôl i'r hwyl mae yna neges ddifrifol. Mae'r elusen yn galw am well mynediad i wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer pobl sydd â Spina bifida a Hydrocephalus, dau gyflwr cymhleth. Yn benodol, maent am wella mynediad i ganolfannau iechyd, fel gall yr angen i weld llawer o arbenigwyr gael eu gweld ar un diwrnod, a thrwy hynny leihau cost, straen a gwella canlyniadau i gleifion.

Mae’r sefydliadau eraill o gwmpas y DU fydd yn goleuo yn ystod yr wythnos yn cynnwys Y Senedd, Bae Caerdydd; Neuadd y Ddinas, Caerdydd; Neuadd San Siôr, Lerpwl; Leeds Arena; Neuadd y Ddinas Belfast; Neuadd y Ddinas Norwich a Rhodfa hanesyddol Peterborough.

Mae Spina Bifida a Hydrocephalus yn gyflyrau sydd yn bygwth bywydau, sy'n gallu effeithio ar ddatblygiad plentyn, sgiliau echddygol, a gallu i ymdopi â bywyd bob dydd. Gall hyn gael effaith enfawr ar y teulu cyfan. Mae gan lawer o blant Spina Bifida a Hydrocephalus - sydd hefyd yn gallu digwydd yn nes ymlaen mewn bywyd – ac yn golygu nifer o lawdriniaethau a chymhlethdodau. Gall cymryd asid ffolig, gyda fitamin B8, dri mis cyn beichiogi tan y pedwerydd mis o feichiogrwydd leihau'r risg o faban yn datblygu namau ar y tiwb nerfol.

Mae Shine yn ymateb i fwy na 14,500 o geisiadau am gymorth bob blwyddyn, ac yn darparu cefnogaeth arbenigol o'r cyfnod cyn geni a thrwy gydol oes i unrhyw un sy'n byw gyda Spina Bifida a / neu Hydrocephalus, yn ogystal â rhieni, teuluoedd, gofalwyr a staff gofal proffesiynol.
Am fwy o wybodaeth ac i gymryd rhan ewch i www.shinecharity.org.uk

Gwybodaeth Bellach

Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk
Debra Chand debra.chand@shinecharity.org.uk