Mynediad i ddiwylliant ar flaenau eich bysedd trwy wasanaeth llyfrgell ddigidol newydd
23.03.2016
Mae gwasanaeth llyfrgell ddigidol newydd wedi cael ei lansio gan Lywodraeth Cymru sy'n galluogi pobl i lawrlwytho e-lyfrau, e-gylchgronau, e-lyfrau llafar, a llawer mwy pryd bynnag a lle bynnag y maent eisiau.
Mae ystod eang o adnoddau digidol ar gael ar wefan Llyfrgelloedd Cymru a gall unrhyw un sy'n aelod o'i wasanaeth llyfrgell leol ac sydd â charden llyfrgell gael mynediad i'r adnoddau am ddim.
Wrth gyhoeddi'r gwasanaeth newydd, dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates:
“Mae hon yn enghraifft wych o sut rydym yn helpu gwasanaethau llyfrgell i addasu er mwyn diwallu anghenion cwsmeriaid modern a denu defnyddwyr newydd. Byddwn yn annog pobl i ymweld â'r wefan, gweld beth sydd ar gael, a dechrau gwneud y mwyaf o'r diwylliant a'r adnoddau sydd ar gael ar flaenau eich bysedd.”
Mae'r gwasanaeth digidol wedi'i ddatblygu gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru a'r awdurdodau lleol. Hefyd mae'n caniatáu mynediad i wasanaethau digidol Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gan gynnwys papurau newydd, cyfnodolion, a deunydd cyfeirio ar-lein, y gall unrhyw un sy'n aelod o Lyfrgell Genedlaethol Cymru eu cyrchu o bell.
Dywedodd Linda Tomos, Llyfrgellydd Cenedlaethol:
“Rwyf wrth fy modd bod Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a llyfrgelloedd Cymru i ddarparu mynediad digidol i wasanaethau llyfrgell. Mae angen inni fod ar gael i'n defnyddwyr ar adeg ac mewn man sy'n gyfleus iddynt.
Yn ogystal â llyfrau digidol a'r cylchgronau, mae gan y gwasanaeth llyfrgell ddigidol chwiliad catalog Cymru Gyfan, fel y gallwch chwilio am lyfr yn unrhyw lyfrgell yng Nghymru, ynghyd ag ymuno â'ch llyfrgell leol ar-lein os nad ydych yn aelod eisoes.
Gwybodaeth Bellach
Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk