Symud i'r prif gynnwys

Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn Coffáu Dewrder Milwyr Cymru gyda Rhaglen o Ddigwyddiadau Canmlwyddiant Brwydr Coedwig Mametz

Mae arddangosfa ffotograffiaeth sylweddol yn nodi canmlwyddiant Brwydr Mametz - un o frwydrau mawr  a mwyaf gwaedlyd a ymladdwyd gan filwyr Cymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf - yn agor yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru y penwythnos hwn.

Ar y 10fed o Orffennaf, 1916, yn ystod Brwydr Mametz, cafodd bron i 4,000 o filwyr o’r 38ain Adran Gymreig un ai eu lladd, eu hanafu neu eu colli.   

Wedi’i ysbrydoli gan y tirlun pwysig hwn yn hanes Cymru, ynghyd â gwaith arloesol David Jones, mae’r ffotograffydd Aled Rhys Hughes wedi mynd ati i geisio ateb y cwestiwn: oes gan y tirlun  hwn gof o’r hyn a  ddigwyddodd yma gan mlynedd yn ôl?

Ym 1937, y goedwig ym Mametz oedd canolbwynt cerdd In Parenthesis David Jones, sef hanes ei brofiadau ingol ef ei hun yn y frwydr, a ddechreuodd ddechrau mis Gorffennaf 1916 pan oedd ymosodiad y Somme ar ei anterth.  Yn yr un modd, ysbrydododd  y brwydro ffyrnig   nifer o arlunwyr a beirdd a oedd yn gwasanaethu ym Mametz, gan  gynnwys Siegfried Sassoon, Robert Graves, David Jones a Llewelyn Wyn Griffith, i rannu’u profiadau â’r byd.

Yn ogystal â bod yn fardd uchel ei barch, roedd David Jones (1895-1974) yn arlunydd celfydd a greodd ddyfrlliwiau, darluniau eglurhaol ac arysgrifau, ac mae’r Llyfrgell yn gartref i gatalog sydd wedi’i neilltuo i’w waith, sy’n cynnwys llawysgrifau, gohebiaeth, deunydd sy’n gysylltiedig â’i weithiau artistig, eiddo personol, llythyrau at ei gyfeillion a golygyddion, a llawer mwy drachefn.  Adneuwyd  y casgliad yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1975, ac fe’i prynwyd wedyn yn 1978.

Dangosir eitemau o’r archif hwn ochr yn ochr â delweddau syfrdanol Aled Rhys Hughes o’r olygfa, sydd hyd yn oed heddiw yn gwisgo creithiau brwydro.

Dywedodd Aled Rhys Hughes: “Mae’r arddangosfa hon yn benllanw saith mlynedd o brofiadau gweledol a brofais yng Nghoedwig Mametz.  Yn ystod yr ymweliadau blynyddol ym mis Gorffennaf ceisiais greu delweddau sy’n llawn o’r hyn a welais, a deimlais ac a glywais wrth ymlwybro drwy olion igam ogam hen ffosydd a thrwy’r isdyfiant rhemp.  Gwnaethpwyd rhai o’r delweddau yn ymatebion uniongyrchol i eiriau ac ymadroddion o In Parenthesis, ac eraill i enwau llefydd penodol.  Ond yn y pen draw delio gyda’r syniad o dirwedd a chof yw’r prif bwrpas, thema sy’n hollbresennol yn fy ngwaith.”

Caiff Aled Rhys Hughes ei gynnwys yn y drafodaeth, Dau Safbwynt ar David Jones, gydag Anne Price-Owen, Ysgrifennydd Cymdeithas David Jones, ar yr 2ail o Fedi i drafod bywyd David Jones fel arlunydd, milwr, ac awdur ‘In Parenthesis’.  Mae Aled hefyd yn cynnal teithiau tywys Cymraeg a Saesneg o’r arddangosfa ar y 19eg o Hydref.

Dathlodd Opera Cenedlaethol Cymru 70 mlynedd eleni gyda pherfformiad cyntaf yn y byd o In Parenthesis, sef addasiad y cyfansoddwr Prydeinig ifanc, Iain Bell, o’r gerdd epig.  Dangosir recordiad o’r perfformiad byw hwn o gynhyrchiad cyfnod gan David Pountney yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn y Llyfrgell ddydd Sadwrn, yr 16eg o Orffennaf.

Mae rhaglen goffáu’r Llyfrgell yn rhan allweddol o Raglen Cymru'n Cofio 1914-1918, Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Pedr ap Llwyd, Cyfarwyddwr Casgliadau a Rhaglenni Cyhoeddus, “Prif ffocws ein rhaglen yn y Llyfrgell yn Aberystwyth, ac yn safleoedd ein partneriaid cymunedol, fydd y digwyddiadau ym 1914-18 a gafodd effaith benodol Gymreig. Ein bwriad yw cefnogi ymchwil i dreftadaeth ddogfennol Cymru er mwyn tynnu sylw at hanesion y Rhyfel Byd 1af a fu’n gudd, ac i ddatblygu gwell dealltwriaeth o’r cyfnod yma mewn hanes. Mae hyn yn gyfle pwysig i gynnal gweithredoedd ymgysylltu cymunedol wedi’u hanelu at bob oedran, drwy ymchwilio etifeddiaeth amlochrog effaith y Rhyfel: ar iaith, crefydd, diwylliant, gwleidyddiaeth, celf a cherddoriaeth. Gwahoddwn bawb i gymeryd rhan yn y rhaglen yma.”

Prif adnodd y Llyfrgell ar gyfer ymchwilio i’r Rhyfel Byd Cyntaf yw’r Profiad Cymreig o’r Rhyfel Byd Cyntaf / Rhyfel Byd 1914-1918

Dyma gasgliad o dros 200,000 o dudalennau o bapurau newyddion, archifau, lluniau, a llawysgrifau o archifau a chasgliadau arbennig Cymru.

Ers 2014, cynhaliwyd hefyd lawer o arddangosfeydd ‘pop-up’ bach, pwrpasol, gydag arddangosfeydd arlein perthnasol, cyhoeddiadau, trafodaethau, a digwyddiadau o gwmpas ffocws y coffáu Cymreig ac mae mwy yn yr arfaeth ar gyfer y ddwy flynedd nesaf.

Adnodd cynhwysol i blant ysgol dros Gymru yw Cymru yn y Rhyfel, sy’n eu galluogi i ddatblygu bywgraffiadau o’r enwau ar eu cofgolofnau rhyfel lleol ac i ddysgu mwy am effaith y rhyfel ar Gymru.
Nod y prosiect yw i geisio darganfod mwy am fywydau’r dynion a’r menywod o Gymru aeth i ryfel, gyda ffocws arbennig ar y rheini sy’n cael eu cofio ar gofgolofnau Cymru. Mae gwefan ac app Cymru yn y Rhyfel hefyd yn cynnwys llinell amser o brif ddigwyddiadau’r rhyfel a gwybodaeth cyfeiriol ar wahanol theatrau’r rhyfel, oll gyda blas Cymreig penodol.  

Digwyddiadau Cysylltiedig

02.07.16 – 03.12.16 Mametz: Aled Rhys Hughes & David Jones -  Ffotograffau o Goedwig Mametz wedi eu hysbrydoli gan gerdd enwog David Jones, In Parenthesis, yn archwilio’r syniad o dirlun a chof. Dangosir eitemau o archif David Jones ochr yn ochr â’r delweddau trawiadol yma sydd hyd yn oed heddiw yn dangos creithiau’r frwydr.

Dydd Gwener, Gorffenaf 8, 7.30yh Ffilm: ‘Battle of the Somme’
Pan gafodd ei ffilmio a’i dangos ym 1916, The Battle of the Somme oedd y ffilm ddogfen fawr gyntaf erioed am ryfel, a chafodd effaith drawsnewidiol ar agweddau pobl at y sinema a ffilm yn gyffredinol. Aeth bron i ugain miliwn o bobl i weld y ffilm yn y flwyddyn gyntaf, hanner poblogaeth Prydain ar y pryd, a llawer ohonynt yn gobeithio cael cipolwg ar rywun annwyl ar y sgrîn. Gan mlynedd yn ddiweddarach, byddwn yn dangos y ffilm unigryw hon o gasgliad yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol i goffáu Brwydr y Somme, drwy ganiatâd caredig yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol. Cerddoriaeth gan Laura Rossi. Mynediad am ddim drwy docyn. Ffilm fud gyda cherddoriaeth. (72 munud)

Dydd Sadwrn, Gorffenaf 16, 7yh In Parenthesis
Recordiad o berfformiad byw yw hwn o addasiad Iain Bell, y cyfansoddwr ifanc Prydeinig, o’r gerdd epig gan y bardd, y llenor a’r artist Cymreig, David Jones. Comisiynwyd In Parenthesis i goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r Preifat John Ball a’i gyd-filwyr yn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn cael eu hanfon i’r Somme. Mae cynhyrchiad cyfnod David Pountney yn coffáu ac yn dwyn i gof ddigwyddiadau’r Somme. Mynediad trwy docyn £10.00.

Dydd Mercher, 7 Medi -  1.15yh Dwy Olwg ar David Jones – Aled Rhys Hughes ac Anne Price-Owen Aled Rhys Hughes (ffotograffydd a churadur yr arddangosfa Mametz) ac Anne Price-Owen (Ysgrifennydd Cymdeithas David Jones) fydd yn trafod David Jones a’i waith fel artist, milwr ac awdur In Parenthesis. Mynediad am ddim drwy docyn.

Dydd Mercher, y 19eg o Hydref, 1.15yh a 2.30yh:  Sgyrsiau oriel yn Gymraeg a Saesneg yng nghwmni’r ffotograffydd a’r curadur, Aled Rhys Hughes.  Mynediad am ddim drwy docyn. 

Gwybodaeth Bellach

Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk