Llythyrau a aeth yn angof yn datgelu hanes heb ei nodi yn y DU
11.04.2016
- I ddathlu 500 mlynedd o’r gwasanaeth post, mae’r Post Brenhinol yn lansio ymgyrch yn annog pobl i chwilio am y llythyrau a aeth yn angof sy’n datgelu hanes cymdeithasol a diwylliannol cudd y wlad
- Mae’r cwmni’n gofyn i bobl chwilio yn eu llofftydd neu mewn siediau am lythyrau neu gardiau post sy’n rhoi hanes personol bywyd yn y DU o genedlaethau yn ôl i’r cyfnod presennol
- Bydd yr hanesydd teledu a Phrif Guradur Palasau Brenhinol Hanesyddol, Lucy Worsley, yn darllen ac yn rhoi trefn ar y llythyrau. Mae’n awyddus i dderbyn llythyrau neu gardiau post sy’n cofnodi bywyd teuluol, teithio a rôl menywod ymysg themâu eraill
- Bydd panel o feirniaid yn dewis trawstoriad cyfoethog o lythyrau sy’n arddangos darn o fywyd yn y DU trwy’r oesau, a gaiff ei rannu gyda’r genedl
- Eisoes, fe gyfranodd Amgueddfa Genedlaethol Cymru a’r Llyfrgell Genedlaethol enghreifftiau o lythyron yn eu arcifau. Ymhlith rhein:
- Llythyr oddiwrth David Davies o ‘rhywle yn Ffrainc’ ar Mai 29ain 1916 i’w gyn-athro Ysgol Sul yng Nghapel cynulliadfaol Zoar ym Merthyr Tydful. Yn y llythyr, mae’n son ei bod yn byw mewn beudy efo wyth milwr arall ynghŷd â moch a ieir.
- Llythyr oddiwrth Cymro Owen Ladd yn Canada ar Mai 1af 1915 at gŵr o’r enw ‘Mr.Francis’ i’w hysbysu ei bydd yn hwylio ar long y Lusitania. Bu farw Ladd chwe diwrnod yn ddiweddarach. Mae’r llythyr yn cynnwys y llinell proffwydol a thrist: “Of course, if we encounter any German torpedoes you’ll have to claim on the German Emperor.” Roedd Ladd yn bwriadu ymweld a’i deulu yng Nghymru wedi allfudo i Canada yn 1911 i ymuno a’i frawd oedd yn fasnachwr coed yn Winnipeg.
- Gellir cyflwyno llythyrau arlein neu drwy gyfeiriad Rhadbost arbennig
Dywedodd Lucy Worsley, yr hanesydd teledu, a Phrif Guradur Palasau Brenhinol Hanesyddol, “Un o elfennau gorau fy ngwaith fel hanesydd yw darganfod llawysgrif nad oes neb wedi ei ddarllen ers degawdau, os nad canrifoedd. Mae pob agwedd ar wneud hynny yn wefr, o ddehongli’r llawysgrifen, i’r ffaith fod gan hen ddogfennau eu harogl unigryw eu hunain.
“Rwy’n methu aros i ddarllen yr holl lythyrau a’r cardiau post, ac i rannu balchder y teuluoedd sydd wedi dod o hyd i stori i ddweud wrthym. Rwy’n awyddus iawn i ddechrau rhoi hanes cymdeithasol cudd ein gwlad at ei gilydd.”
Meddai Pedr ap Llwyd, Cyfarwyddwr Casgliadau a Rhaglenni Cyhoeddus, Llyfrgell Genedlaethol Cymru "Mae hi wedi bod yn wir fraint gweithio gyda'r Post Brenhinol ar y prosiect rhagorol hwn a chael cyfle i rannu cyfoeth ein casgliadau gyda gweddill Cymru"
Pan fydd pobl yn dod o hyd i ddarn o hanes, gallant lanlwytho eu llythyrau neu gardiau post naill ai arlein neu trwy anfon llungopi i Freepost Letters of our Lives i gael eu dogfennu fel rhan o’r prosiect cyfareddol hwn.
Dywedodd David Gold, pennaeth materion cyhoeddus y Post Brenhinol: “Nid oes llawer o destunau hanesyddol yn fwy diddorol i’w darllen na llythyrau personol. Daw llythyrau personol o’r galon ac, o ganlyniad, maent yn aml yn rhoi manylion i ni nad ydynt wedi eu cynnwys mewn dogfennau swyddogol. Ein gobaith yw y bydd y llythyrau a’r cardiau post y daw pobl o hyd iddynt o gymorth i ni ddatblygu darlun o fywyd i gymunedau trwy’r oesoedd – yn ei lawn liwiau!”
Gellir cyflwyno unrhyw fath o lythyr neu gerdyn post i’r prosiect cyhyd â’i fod wedi ei ysgrifennu â llaw. Mae rhai o’r llythyrau a ganfuwyd gan y tîm yn ddiweddar yn cynnwys:
Mae Lucy ac archifwyr ‘Llythyrau ein Bywydau’ yn y Post Brenhinol yn arbennig o awyddus i dderbyn dogfennau ar y canlynol:
- Teulu – Llythyrau sy’n dangos y rhyngberthynas rhwng unigolion, eu perthnasau ac adegau hanesyddol
- Rôl menywod – Rôl menywod ar yr aelwyd fel rheolwyr y cartref; eu rôl gynyddol yn y gweithle ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf sydd, dros amser, wedi arwain at fwy o gydraddoldeb yn y gweithle
- Cariad a chyfeillgarwch – Fe wnaeth twf llythrennedd a diwylliant llewyrchus llythyrau roi ffordd i ffrindiau llythrennog gynnal a dwysáu eu perthynas
- Teithio – Fe wnaeth coetsis mawr, cychod camlas, llongau stêm, trenau a theithio drwy’r awyr ganolfannau gwyliau glan môr a’r byd yn agored i ddefnyddwyr
- Cyflawniadau personol/ eiliadau sy’n newid bywydau – Mae’r 100 mlynedd diwethaf yn arbennig wedi arwain at ehangu sgiliau a chyfleoedd, gyda symudedd cymdeithasol yn trawsnewid y wlad
- Pobl o bwys – Llythyrau am bobl a effeithiodd ar y ffordd yr ydym yn byw ein bywydau heddiw
- Adegau mewn hanes – Cyfrif llygad dystion, neu ddisgrifiadau o ddigwyddiad penodol sy’n cofnodi cyfnod hanfodol neu dyngedfennol mewn hanes
- Rhyfel a gwrthdaro - Yn ystod cyfnodau o ryfel, ysgrifennu llythyrau oedd/yw'r brif ffordd o gyfathrebu rhwng milwyr a’u hanwyliaid, sydd yn helpu i leddfu poen gwahanu
- Diwylliant poblogaidd – Daeth newidiadau diwylliannol a chymdeithasol sylweddol yn sgil arloesi yn y cyfryngau torfol gan arwain at ddyfodiad y diwylliant pop neu gasgliad o syniadau sy’n treiddio i fywyd bob dydd y gymdeithas
- Allfudo a mewnfudo – P’un ai dros dro, yn yr hirdymor, neu’n anwirfoddol, gall llythyrau ddangos hanes mewnfudo/allfudo a’r effaith ar y rheiny sy’n gysylltiedig a’u teuluoedd
Daeth ysgrifennu llythyrau yn fwy poblogaidd yn y DU yn ystod y 18fed ganrif, ond cynyddodd ei boblogrwydd yn sylweddol ym 1840 wrth gyflwyno’r Post Ceiniog Cyffredinol. Gwnaeth y Post Ceiniog - oedd yn dâl unffurf o un geiniog i ddosbarthu post rhwng dau fan, waeth beth oedd y pellter - y gwasanaeth post yn hygyrch i’r boblogaeth gyfan. O ganlyniad, cynyddodd meintiau post yn gyflym, gan gyrraedd dros biliwn erbyn 1875.
Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, arweiniodd gwahanu oherwydd rhyfel at anfon y nifer fwyaf erioed o lythyrau at anwyliaid oedd yn ymladd dramor. Ar ei anterth, roedd 12 miliwn o eitemau'r wythnos yn cael eu trin gan y Post Brenhinol.
Gwybodaeth Bellach
Elin-Hâf 01970 632471 or post@llgc.org.uk