Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn dathlu Awr Ddaear WWF 2016
14.03.2016
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ymuno â miloedd o adeiladau a strwythurau eiconig ledled y byd, o Bont Harbwr Sydney i Times Square yn Efrog Newydd, trwy gymryd rhan yn Awr Ddaear WWF – y dathliad byd-eang o’n planed wych.
Mae Awr Ddaear WWF yn weithred drawiadol wrth ddiffodd goleuadau sy’n hoelio sylw’r byd ar ein planed a’r angen i’w gwarchod.
Am 8.30pm ar nos Sadwrn 19 Mawrth, bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn diffodd ei oleuadau i gefnogi ymgyrch Awr Ddaear.
Mae cannoedd o filoedd o bobl ledled Cymru a miliynau ledled y byd yn cymryd rhan yn Awr Ddaear bob blwyddyn. Y llynedd, cymerodd mwy na hanner miliwn o bobl ran yng Nghymru yn ogystal â 235 o ysgolion ledled y wlad, gan anfon neges rymus o gariad at ein planed.
Dywedodd Huw Williams, Pennaeth Ystadau a Gwasanaethau Atodol Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
"Fel sefydliad sy'n ceisio cyrraedd nod Cymru yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, rydym yn llwyr ymroddedig i'r egwyddor o ddatblygu cynaliadwy. Mae ein cyfraniad i Awr y Ddaear yn symbol o'r ymrwymiad hwn ac yn fwy nag addas fod un o adeiladau mwyaf eiconig Cymru yn rhan o’r ymgyrch”
Meddai Anne Meikle, Pennaeth WWF Cymru:
“Rydyn ni wrth ein bodd y bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cymryd rhan yn Awr Ddaear eleni ac yn gobeithio y bydd yn ysbrydoli llawer o bobl eraill i gymryd rhan hefyd. Drwy gymryd un cam syml, sef diffodd eich goleuadau, byddwch yn ymuno â miliynau o bobl o bob cwr o’r byd yn y dathliad arbennig hwn.”
Bydd y newid yn yr hinsawdd yn cael effaith enfawr ar ein planed. Drwy gymryd camau bach i fyw mewn ffordd fwy cynaliadwy, gallwn helpu i fynd i’r afael ag ef. Mae cymryd rhan yn Awr Ddaear yn weithred symbolaidd i gefnogi gwarchod ein planed wych. Gyda’n gilydd gallwn sicrhau newid.
Gall pawb gofrestru ar gyfer Awr Ddaear WWF 2016. Ewch i wwf.org.uk/earthhour i gofrestru ac i roi’ch hun ar y map – a chofiwch ddiffodd eich goleuadau am awr am 8.30pm ar nos Sadwrn 19 Mawrth!
Gwybodaeth bellach
Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk
Nodiadau i olygyddion
Ymunwch â’r sgwrs ar Twitter gyda’r hashnod #LightsOutCymru a thrwy ddilyn @wwfcymru
Ynghylch Awr Ddaear
Mae Awr Ddaear, sy’n cael ei threfnu gan WWF, yn fudiad llawr gwlad byd-eang sy’n uno pobl i warchod y blaned. Digwyddiad y llynedd oedd y mwyaf hyd yma, wrth i gannoedd o filiynau o bobl gymryd rhan mewn 162 o wledydd a 7,000 o drefi a dinasoedd, niferoedd sy’n record, ynghyd ag adeiladau a strwythurau byd enwog, o Dŷ Opera Sydney i Times Square yn Efrog Newydd. Yn 2016 cynhelir Awr Ddaear ar nos Sadwrn 19 Mawrth rhwng 8.30pm a 9.30pm. wwf.org.uk/earthhour
Ynghylch WWF
WWF yw un o sefydliadau cadwraethol annibynnol mwyaf y byd, gyda mwy na phum miliwn o gefnogwyr a rhwydwaith byd-eang sy’n weithredol mewn mwy na chant o wledydd. Trwy ein hymwneud â’r cyhoedd, busnesau a llywodraethau, rydym yn canolbwyntio ar ddiogelu byd natur, gan greu atebion i’r problemau amgylcheddol mwyaf difrifol mae ein planed yn eu hwynebu, er mwyn i bobl a natur ffynnu. Cewch wybod mwy am ein gwaith, yn y gorffennol a’r presennol ar wwf.org.uk.