Symud i'r prif gynnwys

Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Llysgenhadaeth yr Ariannin

Dydd Mawrth, 2 Awst 2016

Mewn seremoni ar faes Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau heddiw fe gyflwynodd Llysgennad yr Ariannin rodd gwerthfawr o lyfrau’n ymwneud â Phatagonia i’w hychwanegu at y casgliadau cenendlaethol.

Meddai’r Llysgennad, R. Carlos Sersale di Cerisano:

“Mae perthynas Cymru â’r Ariannin yn un mor eithriadol o bwysig i’r ddwy wlad, ac y mae tystiolaeth o hynny i’w weld yn amlwg ar Faes yr Eisteddfod heddiw. Mae’r ewyllys da sy’n bodoli rhwng y ddwy wlad yn rhywbeth i’w drysori ac y mae medru rhoi rhodd fel hyn i’r Llyfrgell Genedlaethol yn gydnabyddiaeth o’r berthynas unigryw sy’n bodoli rhyngom”.

Wrth gyflwyno copi cain o lun Kyffin Williams o’r ‘Machlud dros Ddyffryn Camwy’ i’r Llysgennad er mwyn nodi’r achlysur hwn dywedodd Rhodri Glyn-Thomas, Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol:

“Mawr yw ein dyled i lysgenhadaeth yr Ariannin am eu haelioni a’u hewyllys da tuag at y Llyfrgell a phobl Cymru. Mae heddiw’n rhannol yn ddathliad pellach o ddycnwch y Cymry a’r Gymraeg i oroesi yn wyneb helbulon a chaledi o bob math. Diolch i bobl yr Ariannin am y croeso twymgalon y mae’r Cymry sy’n teithio i Batagonia wedi’i brofi dros nifer o genedlaethau, ac am eu hewyllys da tuag at y Gymraeg”.

Gwybodaeth bellach

Elin-Hâf 01970 632471

post@llgc.org.uk