LENS 2016: Gwrthdaro
Ar ddydd Sadwrn 5 Tachwedd, cynhelir LENS 2016 yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Gŵyl ffotograffiaeth na ddylai neb sydd â diddordeb mewn ffotograffiaeth ei methu. Thema eleni yw Gwrthdaro.
O’i dyddiau cynnar fel digwyddiad i hyrwyddo casgliadau delweddau gweledol y Llyfrgell, mae’r Ŵyl wedi tyfu a datblygu dros y ddegawd a fu i fod yn fforwm drafod bwysig i ffotograffwyr proffesiynol a lleug, ac yn gyfle i fwynhau cyflwyniadau gan rai o gewri’r lens.
Mae siaradwyr eleni yn cynnwys:
John Bulmer
Roedd John Bulmer yn arloeswr ffotograffiaeth lliw yn y 1960au cynnar gan weithio i gylchgrawn y Sunday Times o’r rhifyn cyntaf oll hyd at y 1970au.
Jon Tonks
Ffotograffydd Prydeinig yw Jon Tonks sy’n byw yng Nghaerfaddon, Lloegr. Mae ei waith wedi’i ddangos yng nghylchgronau’r New York Times a’r Sunday Times, cylchgronau penwythnos y Guardian a’r ‘FT’, Monocle, TIME LightBox, cylchgrawn y Saturday Telegraph, British Journal of Photography a llawer mwy.
Abbie Trayler-Smith
Ffotograffydd dogfennol a phortreadol yw Abbie Trayler-Smith sydd â’i gwaith yn tynnu ar ymateb ac ymgysylltu emosiynol â’i thestun. Ei swydd gyntaf oedd honno i’r Daily Telegraph yn Llundain lle treuliodd 8 mlynedd yn ymwneud â newyddion a digwyddiadau o bwys ledled y byd, gan gynnwys rhyfel Irac, argyfwng Darfur a’r tswnami yn Asia.
Ffotoaber (diweddariad)
Yn nhymor yr hydref 2016 bydd Aberystwyth yn llenwi unwaith eto gyda thipyn o weithgaredd ffotograffig wrth i chweched gŵyl FfotoAber gael ei chynnal. Eleni eto bydd her y ffotomarathon yn dychwelyd yn ogystal â'r gystadleuaeth boblogaidd i ysgolion. Caiff lluniau buddugol eu arddangos eto yn siopau a chanolfannau'r dref.
Alison Baskerville
Daw Alison Baskerville o Brydain ac mae’n ffotograffydd dogfennol sy’n defnyddio ffotograffiaeth i ymgysylltu â materion cymdeithasol. Trwy roi llwyfan i ddatblygu sgyrsiau ehangach, gallai hyn gychwyn rhyw fath o newid cymdeithasol a chodi mwy o ymwybyddiaeth o’r rheiny nad oes modd yn aml i’w cynrychioli.
Will Troughton
Bydd ein Llyfrgellydd Delweddau Digidol yn cyflwyno newyddion o gasgliadau’r Llyfrgell.
Sgwrs Oriel Mametz gyda Aled Rhys Hughes
Mae’r arddangosfa hon yn benllanw saith mlynedd o brofiadau gweledol a gafodd Aled yng Nghoedwig Mametz. Yn ystod yr ymweliadau blynyddol ym mis Gorffennaf ceisiodd greu delweddau sy’n llawn o’r hyn a welodd, a deimlodd ac a glywodd wrth ymlwybro drwy olion igam ogam hen ffosydd a thrwy’r isdyfiant rhemp
Meddai Linda Tomos, Llyfrgellydd Cenedlaethol:
‘Mae penwythnos Lens wastad yn ddigwyddiad difyr a phleserus i bawb sy’n ymddiddori mewn ffotograffiaeth. Rydym yn llwyddo i ddenu ffotograffwyr proffesiynol ac amatur a rheini sydd â diddordeb mewn hanes cymdeithasol. Mae’n siaradwyr blaenorol wedi cynnwys ffotograffwyr byd-enwog fel Phillip Jones-Griffiths a David Hurn.’
Gwybodaeth Bellach
Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk Tocynnau
01970 532548
#Lens2016