Symud i'r prif gynnwys

HELP! - Ry'n ni'n cael ein meddiannu!

Chredwch chi byth  ond os dewch chi draw i Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth  ar Ddydd Iau Tachwedd 10fed, bydd plant wedi meddiannu’r sefydliad ac yn gwneud y gwaith y mae staff y Llyfrgell yn ei wneud fel arfer.

Mae'r gweithgareddau'n rhan o Ddiwrnod Meddiannu Kids in Museums, sef diwrnod pan fydd plant a phobl ifanc yn meddiannu amgueddfeydd, orielau a sefydliadau celfyddydau drwy Gymru gyfan. Yn y Llyfrgell Genedlaethol bydd disgyblion Ysgol y Felin, Llanelli yn cymryd cyfrifoldeb dros amrywiol dasgau yn gyhoeddus a thu ôl i’r llenni.

Plant Llanelli fydd yn stampio a didoli eitemau wrth iddynt gyrraedd y casgliad, cyrchu llyfrau ac eitemau eraill o’r casgliad ar gyfer darllenwyr, yn hongian arddangosfa, digido eitemau o’r casgliad, monitro diogelwch yr adeilad, gweithio yn y dderbynfa a thywys ymwelwyr o gwmpas ein arddangosfeydd.
Mae Kids in Museum yn elusen annibynnol sy’n gweithredu ar draws gwledydd Prydain i geisio gwneud amguddfeydd ac orielau yn llefydd mwy croesawgar i blant a theuluoedd.

Meddai  Rhodri Morgan, Swyddog Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Mae casgliadau amrywiol Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn berthnasol i addysg pob plentyn yng Nghymru, ac mae'r diwrnod arbennig hwn yn gyfle i rai ohonynt flasu'r profiad unigryw o gael gofalu am, a rheoli mynediad at, rhai o drysorau pwysicaf ein gwlad."

Meddai Helen Wynne, Pennaeth Ysgol y Felin:

“Rydym fel ysgol yn temlo hi'n fraint cael bod yn rhan o'r prosiect 'Diwrnod Meddiannu' sy'n rhan o raglen ehangach 'Kids in Museums', ac  yn ddiolchgar i staff y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth am y croeso brwd. Mae'r cyfle i fynychu'r Llyfrgell Genedlaethol yn cynnig profiadau uniongyrchol i blant cynradd wrth iddynt brofi a dysgu am rai o drysorau pwysicaf ein gwlad ynghyd a meithrin cyfrifoldebau am ddyletwyddau'r Llyfrgell o ddydd i ddydd.”

Gwybodaeth Bellach

Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC) yw llyfrgell fwyaf Cymru ac ynddi cedwir cof cenedl. Fel llyfrgell adnau cyfreithiol mae ganddi’r hawl i dderbyn copi am ddim o bopeth sy’n cael ei gyhoeddi ym Mhrydain ac Iwerddon. Mae 4,000 o gyhoeddiadau newydd yn cael eu casglu bob wythnos i ychwanegu at gasgliad y Llyfrgell Genedlaethol o:

  • 6 miliwn o lyfrau a phapurau newydd
  • 950,000 o ffotograffau
  • 60,000 o weithiau celf
  • 1.5 miliwn map
  • 7 miliwn troedfedd o ffilm
  • 40,000 o lawysgrifau
  • 250,000 awr o fideo
  • 1,900 metr ciwbig o archifau

Mae gwasanaethau Llyfrgell Genedlaethol Cymru i gyd yn rhad ac am ddim i ddinasyddion Cymru ac nid ydyw’n gwahaniaethu ar sail gallu neu anallu i dalu. Mae croeso i blant a phobl ifanc o bob cefndir i ddefnyddio’r Llyfrgell a defnyddio’i gwasanaethau, boed hynny drwy ddod i Aberystwyth neu ar-lein. Mae'r Llyfrgell hefyd yn cynnal gweithdai mewn ardaloedd ar draws Cymru sy’n ateb gofynion y cwricwlwm o ran cynnwys a sgiliau, ac sy'n cyflwyno'i chasgliadau i bobl ifanc, rhieni ac athrawon. Trefnir y gwaith mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, ymgynghorwyr addysg, a sefydliadau ac ysgolion unigol gyda'r nod o sicrhau bod cymaint â phosib o blant a phobl ifanc Cymru yn medru elwa o weithio gyda chasgliadau cyfoethog y Llyfrgell.

Rhaglen Gyfuno Llywodraeth Cymru
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cefnogi rhaglen 'Cyfuno: Trechu tlodi trwy ddiwylliant' Llywodraeth Cymru. Menter ydyw sy'n cysylltu cyrff diwylliannol yn nes at ei gilydd drwy Ardaloedd Arloesi er mwyn ysbrydoli pobl ifanc ac oedolion. Mae’r rhaglen Cyfuno’n anelu at chwalu rhwystrau fel bod modd i bawb elwa ar gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol. I gael rhagor o wybodaeth ewch i Trechu Tlodi Trwy Ddiwylliant

Ysgol y Felin, Llanelli
Mae ein hysgol ni yn darparu amgylchedd diogel ac ysgogol lle gall yr holl ddisgyblion aeddfedu a dysgu. Rydym yn darparu ystod eang o gyfleoedd ar gyfer yr holl ddisgyblion. Cyfleoedd sydd nid yn unig yn ateb eu gofynion addysgol ond sydd hefyd yn eu cynorthwyo i ddatblygu'n unigolion annibynnol a chyfrifol. Byddent yn cael eu hannog i gyrraedd â'u llawn potensial a hynny o fewn ethos o gydweithredu a goddefgarwch. Ein prif nod yw sicrhau fod pob unigolyn yn cyrraedd ei lawn potensial a hynny o fewn amgylchedd ysgogol a gofalgar.

Gwasanaeth Addysg, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Sefydlwyd Gwasanaeth Addysg LLGC yn 2002. Ei brif waith yw:

  • Cyflwyno rhaglen o weithgareddau addysgol o safon uchel sy’n hyrwyddo LlGC a’r casgliad cenedlaethol drwy’r cwricwlwm ysgol.
  • Cynyddu ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc o hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru.
  • Hwyluso mynediad at wybodaeth i’r rhai mewn addysg ac addysgwyr, a’u cynorthwyo i gael y gorau o’n casgliadau drwy ddehongli gwybodaeth sydd yn y casgliad cenedlaethol.
  • Cynyddu presenoldeb y Llyfrgell, ac ymwybyddiaeth o’r sefydliad a’r gwaith mae’n gwneud, ar draws Cymru.
  • Cynorthwyo LlGC i gyflawni’r pum blaenoriaeth strategol yn Gwybodaeth i Bawb: Cynllun Strategol Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 2014 - 2017.
  • Cynhyrchu adnoddau dysgu digidol o safon uchel sy’n cynorthwyo athrawon i gyflwyno’r cwricwlwm yng Nghymru, a chyhoeddi’r rhain ar Hwb.
  • Rheoli prosiectau amrywiol sy’n cynnig mynediad at y casgliadau i blant, pobl ifanc ac oedolion.
  • Cyfrannu at gefnogi agenda cynhwysiad cymdeithasol a lleihau anghydraddoldeb Llywodraeth Cymru drwy weithio mewn ardaloedd difreintiedig.

Ers 2007 mae gwasanaeth Addysg LlGC wedi bod yn cyflwyno casgliadau’r Llyfrgell mewn ardaloedd ar draws Cymru fel rhan o’i rhaglen estyn allan. Caiff y prosiectau hyn eu cynllunio a’u cyflwyno mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, ysgolion a sefydliadau eraill, a’u teilwra i ateb anghenion y defnyddwyr, yn ogystal ag ateb gofynion y cwricwlwm o ran cynnwys a sgiliau.