Symud i'r prif gynnwys

Dathlu Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Ar y 14eg o Fai bydd Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas - diwrnod  i ddathlu bywyd a gwaith y bardd Cymreig. Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn nodi'r achlysur gydag arddangosfa gyffrous: Dan y Wenallt.

Bydd yr arddangosfa yn agor ar 14 Mai a bydd yn rhedeg am wythnos – gan roi cyfle i ymwelwyr i weld eitemau o gasgliadau llawysgrifau, gweledol a phrint y Llyfrgell, sy’n  adlewyrchu poblogrwydd parhaus Dan y Wenallt. Yn gynwysedig yn yr arddangosfa bydd enillydd #barnybobl #DyddDylanDay, sef y llinfap enwog gan Dylan Thomas o'r pentref dychmygol Llareggub.

Mae'r arddangosfa hefyd yn cynnwys sgript y ddrama radio, y sgôr gerddorol gan ei gyfaill o blentyndod Daniel Jones, argraffiadau printiedig, a ffotograffau a dynnwyd yn ystod ffilmio cynhyrchiad clasurol Andrew Sinclair.

Dywedodd Linda Tomos, Llyfrgellydd Cenedlaethol Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

"Rwy'n teimlo'n gyffrous bod rhai o'n derbynion sydd heb gael eu harddangos o’r blaen yn rhan o’r arddangosfa dros dro hon er mwyn cofnodi Diwrnod Rhyngwladol Dylan”

Yn ystod y ddegawd ddiwethaf mae'r Llyfrgell wedi gwneud ymdrechion sylweddol i gyfoethogi ei chasgliad Dylan Thomas, ac yn awr yn darparu ystod eang o ddeunydd i ymchwilwyr a darllenwyr sy’n awyddus i ddysgu mwy am y bardd a'i waith. Mae drafftiau o'i weithiau, rhestrau geiriau a llythyrau oddi wrth Thomas yn datgelu llawer am y ffordd yr ysgrifennodd ac yn dangos ei allu eithriadol fel awdur.

Mae'r arddangosfa hon, sy’n canolbwyntio ar un o'i weithiau mwyaf oesol, yn dangos apêl Dan y Wenallt - o berfformiadau cynnar hyd heddiw ac yn adlewyrchu llwyfan, ffilm,  ac addasiadau a dehongliadau niferus.

Ymysg y llawysgrifau sy'n cael eu harddangos mae llythyr a dderbyniodd y Llyfrgell yn ddiweddar, gan Dylan Thomas at Elizabeth Reitell.  Anfonwyd y llythyr sydd wedi ei gyfeirio o’r Boat House ym mis Mehefin 1953, yn fuan ar ôl  i Dylan ddychwelyd o’i daith o amgylch America, a llai na phum mis cyn ei farwolaeth.

Ychwanegodd Siân Bowyer, Archifydd Cynorthwyol Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

"Mae tystiolaeth yn awgrymu bod y llawysgrif hon ac un arall sydd eisoes yn ein casgliadau yn eiddo yn flaenorol i un casglwr, ac rydym yn hynod o falch o uno’r eitemau hyn a  wahanwyd am ryw reswm flynyddoedd lawer yn ôl."

Bydd yr arddangosfa hon sy’n rhad ac am ddim ar agor rhwng Mai 14-21.

Gwybodaeth bellach

Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk