Symud i'r prif gynnwys

Dathliadau Canmlwyddiant Roald Dahl yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

19.07.2016

Fel rhan o ddathliadau Canmlwyddiant geni Roald Dahl, bydd rhai o lawysgrifau gwreiddiol Roald Dahl i'w gweld yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth yr haf hwn.

Noddir yr arddangosfa yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gan Lywodraeth Cymru, fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant geni Roald Dahl a gynhelir yng Nghymru drwy gydol 2016.

Bydd tudalen gyntaf llawysgrif ddrafft 'James and the Giant Peach', dwy dudalen ddrafft o drawsgrifiad 'James and the Giant Peach' a darlun  gan Nancy Ekholm Burkert, 'The peach being flown by seagulls' 1961; lluniad inc wedi ei liwio a phensil, yn cael eu harddangos drwy gydol misoedd yr haf.

Dywedodd Linda Tomos, Llyfrgellydd Cenedlaethol Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

"Rydym yn falch iawn o gael arddangos rhai o'r llawysgrifau gwreiddiol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac yn edrych ymlaen at gwrdd â llawer o ymwelwyr newydd wrth i ni ddathlu canmlwyddiant Roald Dahl yn y Llyfrgell."

Dywedodd Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith sydd hefyd yn gyfrifol dros Ddiwylliant, Twristiaeth, a Threftadaeth yng Nghymru:

"Mae dathlu canmlwyddiant Roald Dahl wedi rhoi cyfle i bobl ar draws Cymru ddod i adnabod prif storïwr y byd yn well ac i ddathlu trwy gân, cerddoriaeth, dawns ac wrth gwrs -  darllen ac ysgrifennu. Eleni, rydym yn dathlu Blwyddyn Antur yng Nghymru sy'n yn cyd-fynd yn berffaith gyda llysgennad mor wych ar gyfer antur - ac mae digon o anturiaethau i'w cael wrth i ni edrych ymlaen at ei ben-blwydd ym mis Medi. Dw i'n falch iawn bod y Llyfrgell Genedlaethol wedi llwyddo i sicrhau bod y llawysgrifau hyn i gael eu harddangos, ac mae’r digwyddiadau yn ystod tymor yr Haf yn swnio yn wych”

Ychwanegodd Linda Tomos:

"Mae cyfraniad Roald Dahl at feysydd  llenyddiaeth plant, barddoniaeth a sgriptio a’i straeon clyfar, doniol a thanseiliol yn parhau i ddifyrru plant ledled y byd.”

Bydd yr Archifydd, Rachel White, o'r Amgueddfa a Chanolfan Stori Roald Dahl yn ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru i gynnal digwyddiad arbennig ar gyfer plant ar y 10fed Awst. Bydd hyn yn gyfle i archwilio’r hyn sydd yn yr archif ac edrych ar rai o gyfrinachau rhyfeddol y tu ôl i straeon rhyfeddol Roald Dahl. Addas i blant 8+ oed gyda mynediad am ddim trwy docyn.

Bydd Anni Llŷn, Bardd Plant Cymru, ar gael i groesawu holl blant direidus Canolbarth Cymru am sesiwn llawn hwyl a barddoni gwirion yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar 26ain Awst 10am – 12 canol dydd! Bydd cyfle i edrych o gwmpas yr arddangosfa a chael eich ysbrydoli gan yr arbenigwr mewn drygioni ei hun, Roald Dahl. Byddwch yn barod i rigymu, i greu llinellau gwirion ac i chwerthin llond eich bol mewn gweithdy sy’n addas ar gyfer plant 7-11oed. Cynhelir y gweithdy drwy gyfrwng y Gymraeg. Mynediad am ddim.

Cynhelir gweithdai ysgrifennu creadigol gyda Bethan Gwanas ar gyfer Plant (Blwyddyn 5 a 6), dydd Sadwrn, 10 Medi, ac yn ystod y dydd bydd y plant yn cael eu hannog i gael eu hysbrydoli gan y Cawr Mawr Mwyn (BFG) Roald Dahl i greu eu cewri Cymreig eu hunain.  Bydd te part i ddathlu’r canmlwyddiant i ddilyn y gweithdy.  Croeso i bawb wisgo i fyny i ychwanegu at naws y digwyddiad!

Gwybodaeth bellach

Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk

Datganiad i’r wasg perthnasol

# RoaldDahl100Cymru
# RoaldDahl100Wales
#FyAnturFawr
#FindYourEpic