Darganfod y 'Greal Sanctaidd' yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth yn falch i gyhoeddi bydd Cwpan Nanteos yn cael ei harddangos yn gyhoeddus yn y Llyfrgell o dydd Sadwrn 18fed o Fehefin ymlaen.
Y darn bregus hwn o bren yw’r cyfan sy’n weddill o ddysgl masarn hynafol a adnabyddir fel Cwpan Nanteos.
Mae union darddiad y Cwpan yn ddirgelwch mawr, ond yn ôl y traddodiad credir iddo ddod o Abaty Ystrad Fflur i feddiant teulu Powell Nanteos yn ystod Diddymiad y Mynachlogydd. Yn ôl yr hanes, bu i saith mynach Sistersaidd ddianc o’r abaty gyda’r Cwpan yn eu meddiant a chael lloches ym Mhlasty Nanteos. Pan fu farw’r olaf o’r brodyr ymddiriedwyd y Cwpan i ofal teulu’r Poweliaid sydd wedi’i drysori a’i ddiogelu hyd heddiw.
Meddai Pedr ap Llwyd, Cyfarwyddwr Casgliadau a Rhaglenni Cyhoeddus Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“O’r diwedd y mae’r crair hynafol uchel ei barch wedi dychwelyd adref i Gymru ac i Geredigion a bydd ei arddangos yn caniatáu i ymwelwyr weld y gwrthrych dirgel. Beth bynnag yw ei darddiad – ai hwn yw’r Greal Sanctaidd neu rhan o’r Wir Groes neu gwpan cymun o Ystrad Fflur? – bydd bob ymwelwyr yn gorfod dod i’w casgliadau eu hunain ynghylch beth yn union yw’r cwpan hynafol. Yn wir y mae hwn yn wrthrych rhyfeddol a bydd yn ychwanegiad diddorol iawn i’n casgliadau cenedlaethol. Rydym yn ddiolchgar iawn i deulu Mirylees am ymddiried y Cwpan i’r Llyfrgell”
Yn ôl un traddodiad, Cwpan Nanteos yw’r Greal Sanctaidd, y Cwpan yr yfodd Crist a’i ddisgyblion ohono yn y Swper Olaf.
Ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg honnir bod grym iacháu goruwchnaturiol yn perthyn i’r Cwpan. Yn ôl pob sôn, byddai’r Cwpan yn cael ei roi ar fenthyg i gleifion, ac ernes werthfawr, megis arian neu oriawr drud, yn cael ei adael yn Nanteos, a hynny er mwyn sicrhau ei ddychweliad diogel i Nanteos. Yr arfer oedd y byddai’r dioddefus yn yfed o’r Cwpan hwn neu hyd yn oed yn cnoi darn ohono, a hynny er mwyn cynyddu effaith y grym honedig.
Arddangoswyd y Cwpan yn gyhoeddus am y tro cyntaf yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan a hynny yng nghyfarfod y Cambrian Archaeological Society yn 1878, ac yn fuan wedyn lledaenodd yr hanes am ei rinweddau iachaol. Ym 1901, fe drefnodd George Eyre Evans, hanesydd lleol o Aberystwyth, daith o gwmpas Ystrad Fflur a Nanteos gan boblogeiddio’r Cwpan a lledaenu’r storiâu am ei rinweddau. Cynyddwyd y diddordeb yn y Cwpan gyda phobl o bedwar ban byd yn ymweld â Nanteos i’w weld gan roi eu ffydd yn ei rym honedig.
Gwerthwyd Nanteos gan y Poweliaid ym 1967, ac aethpwyd â’r Cwpan gyda’r teulu i Rhosan ar Wy. Yn 2014, lladratwyd y Cwpan o gartref un o’i berchnogion cyn ei ddarganfod eto bron i flwyddyn yn ddiweddarach.
I gyd fynd â’r arddangosfa, bydd Yr Athro David Austin yn cyflwyno darlith yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar y 9fed o Orffennaf: ‘Strata Florida and its Sacred Landscape : a context for the Nanteos Cup’
Mae’r cwpan yn cael ei arddangos yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru o’r 18fed o Fehefin, Dydd Llun i dydd Gwener , 9.30a.m. – 6.00 p.m a Dydd Sadwrn 9.30 a.m - 5.00 p.m.
Gwybodaeth Bellach
Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk
Digwyddiadau Cysylltiedig
Bydd yr arddangosfa yn cael ei hagor yn swyddogol gan Lywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Rhodri Glyn Thomas ym mhresenoldeb Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru dydd Sadwrn 9fed o Orffennaf am 3.30p.m.