Symud i'r prif gynnwys

Corwynt yn trawo Aberystwyth

17.11.2016

Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn falch o nodi nad oes neb wedi cael anaf yn y Llyfrgell na dim niwed ychwaith wedi’i achosi i’r casgliadau cenedlaethol gan gorwynt nerthol a drawodd Aberystwyth yn gynharach heddiw, er i rywfaint o ddifrod gael ei wneud i’r adeilad ac i geir y staff.

Dywedodd Pedr ap Llwyd, Cyfarwyddwr Casgliadau a Rhaglenni Cyhoeddus y Llyfrgell:

“Gallai pethau fod wedi bod llawer iawn gwaeth. Ni anafwyd neb ond yr ydym wedi gorfod symud rhan o’n casgliadau i ran arall o’r Llyfrgell oherwydd y difrod a wnaed i do’r Llyfrgell. Rydym yn ddiolchgar i’r staff am ymateb mor ragorol i’r argyfwng, ac y mae’n dda dweud fod contractwyr yma’n barod yn trwsio’r difrod gwaethaf”.