Cofio dros Heddwch
11.01.2016
Cynhelir arddangosfa Cofio dros Heddwch yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth rhwng 16 Ionawr – 9 Ebrill 2016.
Mae’r arddangosfa hon yn adrodd hanes Llyfr Cofio Cenedlaethol Cymru o’r Rhyfel Byd Cyntaf, rhai o’r enwau sydd ynddo, a sut ei defnyddiwyd er mwyn cofio dros heddwch.
Mae Llyfr Cofio Cenedlaethol Cymru o’r Rhyfel Byd Cyntaf yn dal enwau 35,000 o filwyr – yn ddynion a merched – a roddodd eu bywydau yn y Rhyfel.
Mae’r unigolion sydd yn y llyfr wedi eu rhestru fesul catrawd a bataliwn ochr yn ochr ag enwau’r rhai a allai’n hawdd fod wedi marw gyda nhw.
Bydd yr arddangosfa hefyd yn dechrau ymchwilio themâu pellach project Cymru dros Heddwch, yn benodol y cwestiwn canolog, sef: yn y can mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf, sut mae Cymru wedi cyfrannu at yr ymgais i sicrhau heddwch?
Meddai Martin Pollard, Prif Weithredwr Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru:
“Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un o brif bartneriaid prosiect Cymru dros Heddwch, ac maent wedi bod yn allweddol wrth ddod â’r Llyfr Cofio Cenedlaethol i gynulleidfa eang. Mae gweithio gyda’n gilydd ar arddangosfa ‘Cofio dros heddwch’ wedi golygu fod y Llyfr a’i hanes ar gael i’r cyhoedd am y tro cyntaf ac y gall gael ei arddangos ochr yn ochr a copi digidol chwiliadwy wedi ei greu gan y Llyfrgell. Rydym yn falch iawn o gael y cyfle i wneud y cofnod pwysig hwn ar gael i gymunedau ar draws Cymru”
Meddai Linda Tomos, Llyfrgellydd Cenedlaethol Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Rwyf yn falch iawn fod Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi medru cefnogi’r arddangosfa ar gwaith arloesol o ddigido Llyfr y Cofio. Bydd y ddau yn sicrhau ein bod yn parhau i anrhydeddu’r aberth i’r rhai sydd wedi eu henwi yn y Llyfr ac ail ddweud eu straeon unigol.”
Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn awyddus i ddarganfod mwy o wybodaeth am rai o’r enwau sydd yn ymddangos yn y Llyfr Coffa Cenedlaethol fel y Preifat Trevor Lewis, Corfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin.
Ganed Trevor yn Aberystwyth ac aeth i Ysgol y Sir/Ysgol Ardwyn, Aberystwyth. Cafodd ei benodi’n llyfrgellydd dan hyfforddiant yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ym mis Awst 1912.
Ar 27 Hydref 1915 gadawodd y Llyfrgell gan ymuno â Chorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin. Cafodd ei anafu’n wael yn Ffrainc ar 8 Awst 1916. Fei’i trosglwyddwyd i Ysbyty Hampstead ond bu farw ar 20 Medi yn ugain oed.
Ei angladd ef oedd yr un cyntaf yn Aberystwyth yn sgil y Rhyfel Mawr, ac adroddwyd yr hanes yn y Cambrian News:
“Being the first local funeral of a hero from the front, considerable interest was taken and there was general manifestation of sorrow, the streets being lined along the route and the blinds of houses and businesses were drawn.”
Fe’i claddwyd ym mynwent y dref.
Ymunwch â ni Dydd Sadwrn 30ain Ionawr pan gynhelir Diwrnod Agored i grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr fydd yn rhoi rhagflas o’r arddangosfa ac yn gyfle i drawsgrifio’r Llyfr ac i ddarganfod mwy am sut i ddefnyddio a chreu adnoddau ar-lein ar thema rhyfel a heddwch.
Gwybodaeth bellach
Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk
Nodiadau i’r golygydd
Mae Cymru dros Heddwch yn brosiect gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru ac mae'r arddangosfa a’r trawsgrifio yn cael eu datblygu ar y cyd â'r Llyfrgell Genedlaethol. Mae Cymru dros Heddwch yn brosiect pedair blynedd sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri ac sy'n cael cefnogaeth gan ddeg o sefydliadau partner gan gynnwys y Llyfrgell Genedlaethol, prifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd, a mudiadau fel yr Urdd a Chymdeithas y Cymod. Mae'r prosiect hwn yn flaengar wrth geisio dechrau trafodaeth am faterion heddwch er lles cenedlaethau'r dyfodol.
Nifer cyfyngedig o le sydd ar gael ar gyfer y Diwrnod Agored. I archebu lle ymwelwch â www.cymrudrosheddwch.org neu ebostiwch walesforpeace@wcia.org.uk neu ffoniwch 029 2082 1051.
www.walesforpeace.org / www.cymrudrosheddwch.org
Caerdydd/Cardiff 029 20821051 Bangor 01248 672104
#cofiodrosheddwch
#rememberingforpeace
Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 Commemoration Programme/Rhaglen Goffau
Mae cynllun Cymru dros Heddwch yn ran o’r raglen swyddogol – Cymru’n Cofio 1914-18 sy’n cael ei arwain gan ymgynghorydd arbenigol ar y Rhyfel Byd Cyntaf, yr Athro Syr Deian Hopkin.
www.walesremembers.org/ www.cymruncofio.org