Symud i'r prif gynnwys

Clod aruchel i Lyfrgell Genedlaethol Cymru am ennill Gwobr Gwirfoddoli Archifau ARA 2016

16.08.2016

Mae ‘Ein Helpu i Gyflawni’, cynllun Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC) i ehangu mynediad i archifau lleol trwy ddatblygu tîm o wirfoddolwyr medrus, wedi ennill gwobr genedlaethol aruchel, sef Gwobr Gwirfoddoli Archifau 2016. Wedi’i noddi gan y Gymdeithas Archifau a Chofnodion (y DU ac Iwerddon) a phartneriaid sector, mae’r wobr flynyddol hon yn cydnabod gwaith eithriadol a wneir gan wirfoddolwyr o fewn gwasanaeth archif sefydliadol.

‘Enwebiad Diguro’

Ym marn y beirniaid, ‘Ein Helpu i Gyflawni’ oedd yr enillydd amlwg.  Bu’r cynllun yn ymgysylltu â gwirfoddolwyr er 2012 gan gynnwys pob oedran a chefndir, yn y gred bod cymryd rhan mewn gweithgaredd diwylliannol yn gallu hybu sgiliau, ymrwymiad, hunan-barch ac uchelgais, ynghyd ag ehangu sgiliau gweithle a chymdeithasol cyfranogwyr, tra ar yr un pryd yn helpu i wneud casgliadau cenedlaethol LlGC yn fwy cyraeddadwy i gynulleidfa ehangach. Mae’r cynllun wedi targedu grwpiau penodol - yr ifanc a’r di-waith a phobl hŷn - ac o blith swyddogaethau’r gwirfoddolwyr y mae trawsgrifio testun, creu cronfeydd data, digido, ymchwil, tasgau cadwraeth a chyflwyniadau cyhoeddus.  

Dyma a ddywedodd y beirniaid:

“’Ein Helpu i Gyflawni’ oedd yr enwebiad cryfaf mewn maes cystadleuol iawn.  Yn 2015-16 yn unig, bu 65 o wirfoddolwyr prosiect yn cymryd rhan yn y cynllun gan gyflawni gwaith gwirfoddol oedd yn cyfateb i fwy na 1,000 diwrnod o’u hamser.  Cwblhawyd 10 prosiect a thasg ganddyn nhw; mae 10 arall yn dal ar droed.  Yn ogystal, bu 769 o wirfoddolwyr ar-lein yn cymryd rhan yn ‘Cynefin’, prosiect arloesol i geo-gyfeirio Mapiau Degwm Cymru.  Mae ‘Ein Helpu i Gyflawni’ wedi golygu cydweithio a chymorth cymunedol ar raddfa eang, amrediad eang o wirfoddolwyr, ac mae wedi elwa o gael cymorth staff archifo proffesiynol yn y Llyfrgell Genedlaethol, yn ogystal â chefnogaeth reolaethol o’r radd flaenaf.  Mae’r cynllun hefyd wedi llwyddo ar lefel unigol: mae oddeutu 20% o wirfoddolwyr wedi symud ymlaen i waith cyflogedig.”

Rhoddodd y beirniaid ganmoliaeth hefyd i’r partneriaid lu a fu ynghlwm wrth y cynllun, yn eu plith Jobcentre Plus, Shaw Trust, Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Ceredigion, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Prifysgol Aberystwyth, adran gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Sir Ceredigion, Cymdeithas Cyfeillion LlGC, Prosiect ‘Cynefin’ (cydweithrediad rhwng Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru a LlGC) a Chasgliad y Werin Cymru.

‘Ysbrydoledig’

Bydd y gwirfoddolwyr buddugol yn derbyn eu gwobr ar 4 Tachwedd yn  Aberystwyth, cyn lansiad yr ymgyrch flynyddol genedlaethol Archwiliwch eich Archif /  Explore Your Archive.

Dywedodd Geoff Pick, Cadeirydd ARA:

“Mae archifau’n cynnwys deunydd crai ein gorffennol, yn unigol a chyfunol.  Maent yn amrywio’n fawr ac yn cynnwys miloedd o adneuon ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, o gorfforaethau mawr a chyrff y llywodraeth i ddaliadau cymunedol.  Dibynnant ar staff proffesiynol medrus ac ymroddedig yn ogystal â llawer o wirfoddolwyr am eu cadwraeth, trawsgrifio, catalogio a hygyrchedd.   Pan welwn brosiectau ysbrydoledig megis ‘Ein Helpu i Gyflawni’, cawn ein hatgoffa hefyd o sut y gall ein harchifau, a’r sgiliau sydd eu hangen i’w rheoli, ysgogi a chymell pobl yn y gymuned ehangach i agor cyfleoedd newydd iddynt eu hunain yn eu bywydau.”

‘Hyder’

Dyma a ddywedodd un o wirfoddolwyr ‘Ein Helpu i Gyflawni’ :

“Drwy’r profiad hwn, rydw i wedi gwneud ffrindiau gyda phobl hyfryd ac o’r un meddylfryd â mi.  Mae hyn wedi rhoi llawer o hyder i mi - bellach ‘d yw’r gweithle ddim yn codi ofn arna i - rwy’n teimlo fy mod yn perthyn.”

Dywedodd un arall:

“Rwyf wedi cwblhau bron i dair blynedd a hanner o wirfoddoli.  Yn ystod yr amser hwnnw, rwyf wedi mwynhau’r profiad yn fawr iawn.  Rwy’n hoffi’r awyrgylch gyffredinol o dawelwch a llonyddwch.  Mae hyn yn bwysig i fi gan fod fy epilepsi yn deillio o straen yn bennaf.  Dydw i ddim yn siŵr a yw fy hyder newydd yn helpu fy nghyflwr [ond] mae’r ffaith bod fy iechyd wedi gwella rhyw ychydig yn sicr yn codi fy hyder.”

Meddai Linda Tomos, Llyfrgellydd Cenedlaethol:

“Mae’n fraint ac yn anrhydedd i ni ennill y wobr arbennig yma. Rwyf yn falch iawn fod y bartneriaeth gref rhwng ein gwirfoddolwyr, staff a phartneriaid i wneud ein archifau yn fwy hygyrch wedi cael ei gydnabod fel arfer da. Mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi ymroi i ddatblygu’r syniad arloesol hwn sydd yn helpu pobl i wella safon eu bywydau ac ennill sgiliau newydd yn y gweithle ynghyd â dysgu mwy am ein diwylliant a’n treftadaeth.

“Maes Cryf Iawn”
Yn ogystal â  ‘Ein Helpu i Gyflawni’, canmolodd y beirniaid brosiectau rhagorol a redwyd gan Archifau a Threftadaeth Swydd Stafford, Archifdy Cernyw, Explore York Libraries and Archives Mutual Ltd a Dearne Valley Landscape Partnership a gyrhaeddodd y rhestr derfynol.

Nodiadau i olygyddion

Am fwy o fanylion, cysylltwch â: Elin Hâf  yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar 01970 632471 neu post@llgc.org.uk

neu Jon Elliott yn ARA, ar: jon.elliott@archives.org.uk neu 07587 635402

Dyma seithfed flwyddyn Gwobr Gwirfoddoli Archifau a noddir gan ARA.  Y buddugwyr blaenorol yw GM1914, Manceinion Fwyaf yn 2015; St Mark a St John, Plymouth yn  2014; Canolfan Hanes Hull yn 2013; Archifau Dinas Wolverhampton yn 2012; Archif Tsieineaidd Manceinion yn 2011; ac Archifdy Suffolk yn 2010. Am fwy o fanylion am ARA a’i weithgareddau, ewch i: www.archives.org.uk

Gwobr flynyddol Gwirfoddoli Archif yw’r unig un o’i bath yn y sector archifau ac mae’n cael ei dyfarnu gan yr ARA mewn partneriaeth â’r Archifau Cenedlaethol (y DU), Llywodraeth Cymru a Chyngor yr Alban ar Archifau.  Rhoddir y wobr am brosiect gwirfoddol-ganolog sydd ar waith y flwyddyn flaenorol (yn yr achos hwn 2015), er y gall llawer prosiect barhau i mewn i 2016, fel yn achos ‘Ein Helpu i Gyflawni’.  Mae’r gwirfoddolwyr yn neilltuo oddeutu chwarter miliwn o oriau gwaith bob blwyddyn i’r sector archifau a chofnodion.   Yn dâl am hynny, mae’r gwirfoddolwyr yn derbyn hyfforddiant a chymorth gan staff proffesiynol i ddatblygu sgiliau a chyfleoedd newydd. 

Cyhoeddodd ARA ei Bolisi Gwirfoddoli yn 2011, a roddodd fodolaeth i’r wobr.  Cymeradwyir y polisi gan y rhan fwyaf o’r cyrff archifau a chadw cofnodion.  Mae’r wybodaeth ddiweddaraf ar bolisïau ARA ar wirfoddoli i’w gweld ar: www.archives.org.uk

Mae ARA yn derbyn grant blynyddol oddi wrth UK National Archives / Archifau Cenedlaethol y DU, gyda rhan ohono yn mynd tuag at gefnogi gweithgareddau gwirfoddol ym maes archifo. 

Y dyddiad cau am geisiadau ar gyfer Gwobr Gwirfoddoli Archif 2017 fydd dechrau mis Mehefin 2017, a chyhoeddir yr enillydd yn fuan ar ôl hynny.