Brodwaith y Betws
04/08/2016
Mae gwaith celf tecstilau cymunedol sy’n archwilio hanes a threftadaeth Cwm Garw a Chwm Llynfi ar arddangos yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mae prosiect Brodwaith y Betws, a ariennir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, wedi bod yn cydweithio gyda Celfyddydau Cymuned Cwm a Bro, gan weithio gyda gwirfoddolwyr lleol o ddau ddyffryn i'r gogledd o Ben-y-bont ar Ogwr - cymoedd Garw a Llynfi - i greu gwaith celf unigryw. Mae merched o'r cymunedau hyn wedi bod yn archwilio a dehongli eu hanes cyfunol, wrth gydblethu hanes eu cymunedau gyda'u hatgofion personol.
Nod y prosiect oedd ail-greu harddwch a hanes mapiau degwm drwy gyfrwng tecstilau. Cafodd mapiau degwm eu creu ar gyfer bron pob plwyf yng Nghymru yn ystod y 1840au ac maent yn darparu darlun gwych i ni o'r dirwedd ddaearyddol yn ogystal â thirwedd gymdeithasol ar y pryd. Mewn ymateb i'r mapiau hardd yma, creodd y ddwy gymuned gwaith celf gydweithredol sy'n cynnwys cofnodion personol o lwybrau, a oedd yn cynrychioli naill ai teithiau corfforol neu emosiynol, neu gyfuniad o'r ddau.
Dywedodd cynrychiolydd o Sefydliad y Merched Tir Iarll, Llangynwyd:
"Dyna beth oedd profiad gwych! Cawsom ni gyd amser da yn dysgu am a chofio amseroedd yng Nghwm Llynfi. Wrth ymchwilio i’r hanes, a dod â lleoedd yn ôl yn fyw trwy nifer o weithgareddau celf a chrefft, fe greodd agosatrwydd bendigedig o fewn y grŵp. Rydym wedi dysgu cymaint. Mae'r paneli tecstilau sydd wedi bod ar arddangos yn neuadd y pentref wedi denu diddordeb llawer o’r ymwelwyr sy'n dod i'r cwm."
Mae'r tecstilau yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, ffotograffau gyda phwythau lliw wedi ei ychwanegu gan wirfoddolwyr. Creodd y gwirfoddolwyr darnau unigol i grynhoi moment arwyddocaol yn eu bywydau, megis achlysuron teuluol, carnifalau a digwyddiadau chwaraeon, teithiau i'r ysgol a gwaith, neu deithiau cerdded ysbrydoledig a hoff olygfeydd. Mae tirnodau hanesyddol a phobl ddylanwadol o'r cymunedau hefyd wedi ennill lle ar y gweithiau celf.
Cafodd prosiect Brodwaith y Betws ei weithredu gan yr artistiaid Becky Adams ac Alison McGann, ac roedd y prosiect yn gydweithrediad rhwng Celfyddydau Cymuned Cwm a Bro a phrosiect mapiau degwm Cynefin.
Adlewyrchodd Alison: "Mae cymaint o straeon, atgofion a phaneidiau o de wedi cael eu rhannu yn ystod y prosiect hwn, yn ogystal â llawer o gariad a chwerthin."
Bydd y gweithiau celf yn cael eu harddangos yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru o 8 Awst hyd at 31 Awst 2016.
Gwybodaeth Bellach
Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk
Nodiadau ar gyfer golygyddion
- Mae prosiect Brodwaith y Betws yn un o chwe phrosiect lleol ar draws Gymru sy’n cael eu rhedeg gan brosiect Cynefin.
- Mae prosiect Cynefin yn digido dros 1,200 o fapiau degwm Cymru o’r 1840au, ac yn darparu mynediad iddynt yn rhad ac am ddim ar-lein. Arweinir y prosiect gan Archifau Cymru mewn partneriaeth gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Casgliad y Werin. Ariennir y prosiect yn bennaf gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, gyda chefnogaeth wrth Isadran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Archifau Cymru.
- Am fwy o wybodaeth ewch i wefan cynefin.cymru; dilynnwch @ProsiectCynefin; neu cysylltwch â cynefin@llgc.org.uk / 01970 632 416.