Symud i'r prif gynnwys

Antur ar bob tudalen...

03.03.2016

I ddathlu Diwrnod y Llyfr (3 Mawrth), bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth yn agor arddangosfa newydd: ‘Antur ar bob tudalen’.

Gadewch i ni fynd â chi ar antur i fyd y llyfr yng nghwmni rhai o gymeriadau mwayf anturus llenyddiaeth; y Twrch Trwyth, Twm Siôn Cati, Eric Jones, SuperTed a Barti Ddu.  Boed yn yr awyr, ar y tir, yn y gofod neu ar y môr, mae antur ar bob tudalen…

“Dechreua ar yr antur ar unwaith, ar y tudalen cyntaf, a deil hyd y tudalen olaf…” Helynt Coed y Gell

Mae gwreiddiau’r stori antur Gymreig wedi’u plannu’n ddwfn yn y straeon canoloesol gwaedlyd a’r chwedlau.  Pa antur well na cheisio cipio rasel, crib a siswrn o rhwng clustiau’r Twrch Trwyth?  

Erbyn 1911 cyhoeddwyd yr enghraifft gyntaf o nofel antur Gymraeg, sef Dirgelwch yr Anialwch gan E. Morgan Humphreys.  Hon yw’r nofel a osododd y sylfaen i’r  teitlau antur a welwyd yn hwyrach yn y Gymraeg.  Ers hynny mae nifer o awduron Cymru, fel Mike Young, T. Llew Jones, R. Lloyd Jones, Roald Dahl, Dafydd Parri ac Elgan Philip Davies, wedi bod yn brysur yn ysgrifennu am anturiaethau, rhai gwir a dychmygol.

Dywedodd Linda Tomos, Llyfrgellydd Cenedlaethol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Fel rhan o’r Flwyddyn Antur,  mae'r Llyfrgell yn  trefnu digwyddiadau ac arddangosfeydd creadigol a fydd  yn rhoi mwynhad i gynulleidfaoedd hen a newydd. Cofiwch ddefnyddio  #FyAnturFawr i gofnodi eich  antur chi yn y Llyfrgell ".

Ymunwch â ni ar ddydd Sadwrn y 5 Mawrth rhwng  2.00p.m a 4.00p.m wrth i ni ddathlu agor ein harddangosfa ddiweddaraf ‘Antur ar bob tudalen’ gyda’r cymeriad Cyw poblogaidd, Ben Dant.

Bydd cyfle i deuluoedd i gymryd rhan mewn helfa drysor; gwrando ar stori gyda Ben Dant a chael tynnu eu llun gyda Ben Dant yng Nghaffi Pen Dinas.

Gwybodaeth Bellach

Elin- Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk

Mae'r arddangosfa yn rhad ac am ddim ac mae ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn 9.30a.m a 5.00p.m. o 3 Mawrth 2016 tan 4 Chwefror 2017. Casglwch eich Llyfryn Gweithgareddau Antur sy’n rhad ac am ddim o’r dderbynfa.

Eitemau Arbennig
1. argraffiad cyntaf o chwedl ganoloesol J. R. R. Tolkien, Farmer Giles o Ham, wedi'i lofnodi gan yr awdur ac yn ymroddedig i Gwyn Jones.
2. argraffiad cyntaf o The Hobbit
3. llawysgrifau gwreiddiol ar gyfer y nofel gyntaf yng nghyfres  Y Llewod gan Dafydd Parri, Y Llewod a'r Dagr Haearn
4. llawysgrifau gwreiddiol ar gyfer dau o chwedlau morwrol poblogaidd R. Lloyd Jones  Atgofion Hen Forwr a Ynys y Trysor.