Symud i'r prif gynnwys

Actores Gymreig yn ennill gwobr ryngwladol

Y perfformiad gorau mewn ffilm Brydeinig gan Catrin Stewart

Catrin Stewart sydd wedi derbyn y wobr am y perfformiad gorau yn Ngwyl Ffilm Ryngwladol Caeredin am ffilm Gymraeg a leolir yn y Llyfrgell Genedlaethol. Mae Y Llyfrgell wedi ei seilio ar nofel Fflur Dafydd o’r un enw ac wedi ei chyfarwyddo gan Euros Lyn, ei ffilm hir gyntaf.

Caiff y wobr ei rhoi am y perfformiad gorau mewn ffilm hir Brydeinig ac roedd y rheithgor eleni yn cynnwys y sêr rhyngwladol Kim Cattrall, Clancy Brown ac Iciar Bollain. Yn ôl y tri roeddent yn teimlo fod perfformiad Catrin yn haeddu canmoliaeth uchel,

“Roedden ni am gydnabod perfformiad gwych Catrin Stewart yn Y Llyfrgell. Mae’r cymhlethdod a’r cynildeb angenrheidiol i chwarae cymeriadau sydd yn efeilliaid yn heriol a llwyddodd i gyflawni hyn a chyflwyno’r ddwy rôl mewn modd unigryw.”  

Cafodd y ffilm ei dangosiad cyntaf yn Ngwyl Ffilm Ryngwladol Caeredin a derbyniodd adolygiadau gwych. Caiff ei dangos y tro cyntaf yng Nghymru mewn digwyddiad arbennig yn ystod Eisteddfod Genedlaethol y Fenni ym mis Awst. 

Yn y ffilm “thriller” hon mae Catrin, sy’n adnabyddus i lawer yn sgil ei pherfformiadau yn Dr Who and Stella, yn chwarae’r efeilliaid Nan and Ana, sy’n awyddus i ddial ar lofrudd ei mam yn ystod un noson gythryblus yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Mae Catrin ar hyn o bryd yn rhan o gynhyrchiad y West End o waith George Orwell, 1984, ac roedd wrth ei bodd gyda’r newyddion,
“Diolch Caeredin! Mae cael y wobr hon yn anrhydedd enfawr. Dyma fy ffilm hir gyntaf ac roedd yn her wych i gael chwarae dau gymeriad ochr yn ochr. Roedd yn gret cael gweithio gydag Euros Lyn ac roedd sgript Fflur Dafydd mor gyffrous. I fi’n bersonol roedd yn arbennig iawn i allu gwneud ffilm yn y Gymraeg, ac rwy’n ofnadwy o falch o’r hyn sydd wedi ei greu. Diolch yn fawr!”

Dyma’r tro cyntaf i berfformiad yn yr iaith Gymraeg gael ei wobrwyo a chred yr awdur Fflur Dafydd fod hyn yn adlewyrchu’r hyder cynyddol yn y sector greadigol yma yng Nghymru,

“Wedi sgwennu’r llyfr yn wreiddiol ar gyfer Gwobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol doedd dim amheuaeth mai Cymraeg fyddai’r ffilm hefyd. Mae llwyddiant Catrin yn profi y gall unrhyw waith creadigol, os yw o safon uchel, groesi ffiniau ieithyddol. Ar ran pawb sydd ynghlwm â’r gwaith hoffwn longyfarch Catrin ar ei gwobr – mae’n dalent prin ac yn llawn haeddu’r clod.”

Caiff y ffilm ei dangos yn sinema’r Fenni ar nos Lun, 1 Awst, ac mae tocynnau ar werth drwy swyddfa docynnau’r Eisteddfod Genedlaethol. Yn dilyn yr Eisteddfod caiff y ffilm ei dangos yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth, Canolfan Chapter, Caerdydd a Chanolfan Gelfyddydol Pontio, Bangor (5-11 Awst) a chaiff lleoliadau eraill ar draws Cymru eu cyhoeddi’n fuan. 

Hon yw’r drydedd ffilm i gael ei gwneud gan Cinematic, cynllun talent newydd Ffilm Cymru Wales. Dyfeisiwyd a datblygwyd Cinematic mewn partneriaeth â’r BFI Film Fund, BBC Films, Creative Skillset, Edicis, a Soda Pictures ac S4C. Mae’r cynllun hwn yn cefnogi talent creu ffilmiau newydd yng Nghymru, gyda’r bwriad o greu cynhyrchiadau cyfoes, deinamig ac arloesol a dyma’r cyntaf i gael ei ffilmio yn yr iaith Gymraeg.  Soda Pictures sydd â’r hawliau dosbarthu yn y DG ac Iwerddon, ac S4C fydd yn gyfrifol am ei darlledu rywdro yn y dyfodol.


Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:

Deian Creunant ar 01970 636419 / 07855 276740 neu deian@fbagroup.co.uk
Dylan Jenkins ar 01970 636428 neu dylan@fbagroup.co.uk
Kate Patten ar 01970 636401 neu katep@fbagroup.co.uk

I archebu tocynnau ar gyfer y dangosiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol ewch i www.eisteddfod.cymru neu ffoniwch 0845 4090 800

I weld hysbyseb ar gyfer y ffilm Y Llyfrgell

Ffilm Cymru Wales
Mae Ffilm Cymru Wales yn cefnogi datblygu diwylliant ffilm creadigol, mentrus a chynhwysol. Drwy gynnig nawdd a chyngor proffesiynol, ‘rydym yn cefnogi talent sy’n ymddangos a thalent sydd eisoes wedi ei sefydlu yn y byd gwneud ffilmiau i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd, i archwilio syniadau newydd er mwyn hyrwyddo gwerth ffilm i’r eithaf, ac i ymgysylltu â’r manteision addysgol ac economaidd y mae ffilm yn eu cyfrannu i ddiwylliant cyfoethog Cymru.