Aberystwyth yn dathlu canmlwyddiant geni Roald Dahl!
Yn 2016, bydd pobl ar draws y byd yn dathlu Canmlwyddiant geni Roald Dahl, un o ffigyrau llenyddol mwyaf arwyddocaol yr ugeinfed ganrif. Mae ei gyfraniad at feysydd llenyddiaeth plant, barddoniaeth a sgriptio heb ei ail ac mae ei straeon clyfar, doniol a thanseiliol yn parhau i ddifyrru plant ledled y byd.
Mae dathliadau canmlwyddiant Roald Dahl yn cydfynd â ‘Chymru: Blwyddyn Anturiaeth’ yn 2016 ac ‘roedd Roald Dahl ei hun yn gyfarwydd iawn ag anturiaeth, fel plentyn yn ymgymryd â phob math o ddireidi yn y siop losin leol yn Llandaf neu fel peilot ifanc yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Mae Aberystwyth yn ymuno yn y dathliadau gyda chyfres o weithgareddau yn cael eu cynnal gydol yr haf yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Ceredigion.
Bydd Canolfan Mileniwm Cymru a’r Elusen Aloud yn cyflwyno Gwlad y Gân: Canmlwyddiant Roald Dahl, Dydd Llun 6 Mehefin, 11am yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Ymunwch â miloedd o blant o Gymru gyfan i ddathlu bywyd un o chwedleuwyr gorau’r byd, Roald Dahl. Gan ddefnyddio caneuon o weithiau perthnasol a darlleniadau gan enwogion o rai o’i lyfrau mwyaf adnabyddus, mae’r cyngerdd gwbl ryngweithiol hwn yn rhan o’r Dathliadau Canmlwyddiant Roald Dahl ehangach.
Mae Theatr Sell a Door yn cyflwyno James and the Giant Peach yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth 26 – 31 Gorffennaf. Mae stori glasurol Roald Dahl yn dilyn hynt a helynt y James ifanc anturus a’i ffrindiau - Miss Spider, Old-Green-Grasshopper, Centipede, Ladybird ac Earthworm. Yn dechrau ar ddiwedd y stori, yn nhraddodiad yr holl straeon gorau, mae James a’i ffrindiau yn byw mewn carreg eirinen wlanog enfawr ym Mharc Canolog Efrog Newydd, ond y wir stori yw sut y bu iddynt gyarredd yno, wedi teithio’r holl ffordd o Glogwyni Gwynion Dofr. Ymunwch â James a’i ffrindiau trychfil newydd ar eu taith syfrdanol llawn gelynion, peryglon a chyffro, sy’n mynd â nhw hanner ffordd rownd y byd mewn eirinen wlanog enfawr sy’n byrlymu gyda ffrindiau, cerddoriaeth a chwerthin. Mae James and the Giant Peach yn addas ar gyfer y teulu i gyd - gallwn warantu ymweliad gwych â’r theatr!
Bydd MusicFest Aberystwyth yn cynnig dau berfformiad arbennig iawn o farddoniaeth Roald Dahl fel rhan o ŵyl MusicFest Aberystwyth 2016, ar 24ain a 25ain Gorffennaf. Ar ddydd Sul 24ain Gorffennaf bydd Ensemble Magnard yn perfformio cyfansoddiad gan Martin Butler o rigwm Roald Dahl sef Dirty Beasts ar gyfer pumawd chwyth, piano ac adroddwr. Bydd y cyngerdd hefyd yn cynnwys Pedwarawd Solem ac yn ogystal â Dirty Beasts fe nodweddir Pedwarawd Llinynnol Rhif 8 yn C leiaf Op.110 gan Shostakovich, Cerddoriaeth Haf Barber ar gyfer pumawd chwyth a Phedwarawd Llinynnol yn A leiaf Op.13 gan Mendelssohn.
Ar ddydd Llun 25 Gorffennaf bydd Amgueddfa Ceredigion yn cyflwyno perfformiad ar gyfer plant a’u teuluoedd o ‘Revolting Rhymes and Marvellous Music!’. Bydd y grŵp siambr bywiog a deinamig ENSEMBLE MAGNARD gyda’r adroddwraig REBECCA KENNY yn archwilio byd barddoniaeth Roald Dahl trwy gerddoriaeth offerynnol fyw a theatr. Yn eu cyflwyniad o stori adnabyddus Little Red Riding Hood, cewch fynd gyda nhw a’r cyfansoddwr Paul Patterson i fewn i’r fforest ddwfn ar anturiaeth gerddorol ryngweithiol. Byddwch yn cyfarfod â rhai o’ch hoff gymeriadau cyfarwydd ac efallai credwch eich bod yn gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd ond cymerwch ofal - ym myd cyfareddol dychymyg Roald Dahl nid yw dim byd cweit fel yr ymddengys!
Bydd staff Amgueddfa Roald Dahl yn ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru i gynnal gweithgaredd arbennig yn ystod yr haf 2016. Bydd rhagor o fanylion yn ymddangos ar eu gwefan ac yn y cyfryngau cymdeithasol.
Bydd Anni Llŷn, Bardd Plant Cymru, ar gael i groesawu holl blant direidus Canolbarth Cymru am sesiwn llawn hwyl a barddoni gwirion yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar 26ainAwst 10am – 12 canol dydd! Bydd cyfle i edrych o gwmpas yr arddangosfa a chael eich ysbrydoli gan yr arbenigwr mewn drygioni ei hun, Roald Dahl. Byddwch yn barod i rigymu, i greu llinellau gwirion ac i chwerthin llond eich bol mewn gweithdy sy’n addas ar gyfer plant 7-11oed.
Ymunwch â Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar gyfer te parti Roald Dahl ar ddydd Sadwrn 10fed Medi. Cynhelir gweithdai ysgrifennu creadigol ar gyfer Plant (Blwyddyn 5 a 6) yn ystod y dydd hefyd ac anogir plant i gael eu hysbrydoli gan y Cawr Mawr Mwyn (BFG) Roald Dahl i greu eu cewri Cymreig eu hunain.
I archebu tocynnau ar gyfer unrhyw un o’r gweithgareddau hyn neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r isod:
Amgueddfa Ceredigion: 01970 633088
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth: 01970 62 32 32 www.aberystwythartscentre.co.uk
Llyfrgell Genedlaethol Cymru: 01970 632 933 www.llyfrgell.cymru
MusicFest Aberystwyth: 01970 612 034 musicfestaberystwyth.org musicfest@aber.ac.uk