Aber-fan
15.09.2016
Hydref Du | Black October
Ar fore dydd Gwener, 21 Hydref 1966, tarawyd pentref glofaol bychan yn ne Cymru gan drychineb enbydus. Gorchuddiwyd y cwm o amgylch Aber-fan gan domenni uchel o wastraff o bwll glo Merthyr Vale gerllaw, ac, ychydig wedi 9 o’r gloch y bore, dechreuodd ‘Tip 7’ symud.
Ymhen munudau rhuthrodd tirlithriad anferth o gerrig a llwch glo i lawr y mynydd gan droi’n hylif wrth gymysgu â’r dŵr oddi tano, a dinistrio popeth yn ei lwybr. Chwalwyd dau fwthyn fferm a nifer o dai gan 1,000 tunnell o rwbel glo cyn rhwygo drwy ochr Ysgol Gynradd Pantglas.
Lladdwyd 144 yn y drychineb, 116 ohonynt yn blant, a chafwyd ymateb emosiynol dwfn drwy Gymru gyfan a thrwy’r gymuned ryngwladol.
Wrth i weddill y byd gydymdeimlo â’r rhai a oedd wedi colli anwyliaid daeth miloedd o bobl i helpu gyda’r gwaith o geisio achub y rhai a oedd wedi’u claddu dan y rwbel, a chyfranodd eraill yn ariannol at yr achos.
Dros gyfnod o hanner can mlynedd ers yr Hydref du hwnnw ym 1966 mae myrddiynau o feirdd, llenorion, ffotograffwyr, cerddorion, actorion a gwŷr a gwragedd y cyfryngau ac unigolion eraill, wedi mynegi galar a hiraeth yn eu ffordd unigryw eu hunain.
Trefnir arddangosfa yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth o’r 17 o Fedi 2016 hyd at y 14eg o Ionawr 2017 a fydd yn edrych ar yr ymateb i’r digwyddiad enbyd, gan roi cyfle i’r Llyfrgell ei hun goffáu drachefn.
Yn yr arddangosfa gwelir:
- Amrywiaeth o ffotograffau o’r drychineb a’r dyddiau a ddilynodd
- Llenyddiaeth goffa, yn cynnwys barddoniaeth, erthyglau ac ysgrifau
- Casgliad o stills o raglenni newyddion ITV Cymru Wales
- Gosodwaith glo sydd wedi’i greu yn arbennig ar gyfer yr arddangosfa hon er mwyn coffáu o’r newydd, hanner can mlynedd yn ddiweddarach
Yn ystod y cyfnod hwn, bydd cyfle hefyd i weld casgliad ffotograffau gan I.C. Rapoport fel rhan o arddangosfa Y Dyddiau Du sy’n coffau trychineb Aber-fan ac yn cofnodi ymdrechion y trigolion i ddygymod â bywyd wedi’r drychineb.
Meddai’r Ffotograffydd I. C. Rapoport:
“Yn Efrog Newydd gwyliais adroddiad ar ôl adroddiad ar y newyddion o Aber-fan gyda’m mab pedwar mis oed yn gorwedd wrth fy ymyl, a chefais fy ergydio yn drwm gan y drychineb. Roedd gennyf ddymuniad anorchfygol i dynnu lluniau o’r pentref glofaol hwnnw yng Nghymru—wedi i’r dorf gyntaf o newyddiadurwyr roi’r gorau i adrodd hanes y drychineb—dymuniad i dynnu lluniau o’r bywyd a fyddai’n ei dilyn”
Ychwanegodd Linda Tomos, y Llyfrgellydd Cenedlaethol:
“Mae’n briodol iawn fod y Llyfrgell yn coffau trychineb Aber-fan drwy’r arddangosfa arbennig hon. Er bod hanner canrif wedi mynd heibio y mae’r digwyddiad dal yn fyw iawn ym meddyliau bob un ohonom, ac y mae’r galar yn aros. Wrth ymweld â’r arddangosfa nid yn unig y byddwn ni’n sylweddoli maint y drychineb i’r genedl gyfan, ond hefyd fe allwn ni geisio dirnad ymhellach maint y golled i’r teuluoedd a gollodd eu plant a’u hanwyliaid; wrth reswm, ni allwn ddirnad yn llwyr maint y golled”
Gwybodaeth Bellach
Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk
#Aberfan