A oes gennych CHI y brwdfrydedd, y diddordeb a’r sgiliau i ddenu mwy o bobl i fwynhau’u trysorau diwylliannol?
02.09.2016
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru’n chwilio am bobl newydd i ymuno â Bwrdd Ymddiriedolwyr y Llyfrgell Genedlaethol ac i helpu i ddenu mwy o bobl i werthfawrogi a mwynhau’r cyfoeth o drysorau diwylliannol sydd o dan ei gofal.
Fel un o’r chwe Llyfrgell Adnau Gyfreithiol yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon, mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn gofalu am gasgliad rhyfeddol o drysorau diwylliannol, o baentiadau a ffotograffau i archifau, llyfrau, storïau a deunydd clyweledol. Hi sy’n gwarchod cof diwylliannol ein gwlad. Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn gartref i 6 miliwn o lyfrau, 1.5 miliwn o fapiau, 950,000 o ffotograffau a 50,000 o ddarnau celf.
Mae Bwrdd Ymddiriedolwyr y Llyfrgell Genedlaethol a’r Llywodraeth Genedlaethol yn chwilio am Is-Lywydd a thri Ymddiriedolwr ac yn awyddus i benodi pedwar unigolyn brwd, ymroddedig ac ysbrydoledig i’r swyddi hyn.
Y Bwrdd yw corff llywodraethu’r Llyfrgell Genedlaethol ac yn gyfrifol am bennu cyfeiriad strategol y corff cenedlaethol pwysig hwn ac am gynnal safonau uchel o ran atebolrwydd cyhoeddus.
Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates, sydd hefyd yn gyfrifol am Ddiwylliant a’r Celfyddydau yng Nghymru:
“Rydyn ni’n chwilio am bobl newydd a deinamig i ymuno â Bwrdd y Llyfrgell Genedlaethol a fydd yn adlewyrchu amrywiaeth a diddordebau’r Gymru fodern. Dyma gyfle rhagorol i bobl sydd ag angerdd a gweledigaeth i ymuno â’r Bwrdd a helpu i arwain a chefnogi’r Llyfrgell Gen.
“Mae hwn yn gyfle gwych i bawb, o hen lawiau i gyw ymddiriedolwyr, i gyfrannu ac i ennill profiad gwerthfawr a buddiol.”
Dywedodd hefyd: “Rwy’n awyddus i weld y Llyfrgell yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella’n gwasanaethau cyhoeddus ymhellach a’u gwneud mor ddeniadol a hygyrch â phosib i bawb.
“Rwyf am weld mwy o ymwelwyr nag erioed yn manteisio ar y gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan y Llyfrgell Genedlaethol, boed hynny’n bersonol neu drwy ddefnyddio technoleg ddigidol, a defnyddio’i chasgliadau i greu eu hanturiaethau eu hunain. Rwy’n awyddus hefyd i weld y Llyfrgell Genedlaethol yn cysylltu ag amrywiaeth o gymunedau ledled Cymru, yn enwedig â’r bobl hynny nad ydyn nhw erioed wedi ymweld â’r Llyfrgell o’r blaen ac sy’n teimlo nad yw’n lle iddyn nhw.”
Meddai Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol, Rhodri Glyn Thomas, “Mae’n ddyddiau cyffrous ar y Llyfrgell Genedlaethol. Rydyn ni’n wynebu heriau mawr ond hefyd yn wynebu cyfleoedd newydd. Rydyn ni’n chwilio am unigolion brwd i ymuno â ni ar y daith hon ac i gyfrannu at greu dyfodol llewyrchus a chreadigol i’r Llyfrgell.”
Mae’r swyddi hyn yn rhai gwirfoddol a di-dâl, ond telir unrhyw gostau rhesymol a ysgwyddir wrth wneud gwaith y Llyfrgell. Bydd swydd yr Is-Lywydd yn golygu 3-4 niwrnod o waith y mis a bydd gofyn i’r Ymddiriedolwyr fod ar gael am o leiaf 12 diwrnod y flwyddyn.
Sut i ymgeisio
Cewch fwy o wybodaeth a ffurflenni cais ar gyfer swyddi’r Is-Lywydd a’r Ymddiriedolwyr yn:
www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
www.gov.wales/publicappointments
Y dyddiad cau yw 23 Medi 2016. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn dechrau ar eu swyddi o 1 Rhagfyr 2016.