Un o weision Wolf Hall yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Bydd ymddangosiad hir-ddisgwyliedig yr addasiad o Wolf Hall, Hilary Mantel ym mis Ionawr yn baratoad perffaith ar gyfer arddangosfa bwysig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Go brin fod ymddangosiad byr y Cymro Siôn Prys yng nghyfrol Mantel, Bring up the Bodies yn adlewyrchu ei wir statws yng nghylch cartref Thomas Cromwell: roedd yn briod ag un o deulu Cromwell, a threuliai lawer o’i amser yn gwasanaethu'r Brenin a’i Ysgrifennydd. Prys gofnodai dystiolaeth hereticiaid a groesholid, a gasglai dystiolaeth i gefnogi ysgariad cyntaf Harri VIII, ac a weinyddai ddiddymiad rhai o’r mynachlogydd cyfoethocaf. Mae’n bosibl mai ef oedd un o weision mwyaf didostur Cromwell yn Wolf Hall.
Ond roedd ochr arall i’w gymeriad. Roedd Prys hefyd yn ‘Gymro’r Dadeni’, yn falch o hanes ei genedl, ac yn gasglwr brwd o lawysgrifau hynafol. Diogelodd y llawysgrif Gymraeg hynaf, Llyfr Du Caerfyrddin, yn ei lyfrgell bersonol, ac ef hefyd a gyhoeddodd y llyfr printiedig Cymraeg cynharaf, Yny lhyvyr hwn, yn Llundain yn 1546. Efallai’n wir iddo gael gafael ar drysorau’r mynachlogydd trwy ddulliau amheus, ond fe ddiogelodd gyfrolau a fyddai efallai wedi eu dinistrio fel arall, ac fe’u defnyddiodd i ysgrifennu ‘amddiffyniad hanes Prydain’.
Bydd arddangosfa newydd, sy’n agor yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ddiwedd y mis hwn, yn edrych o’r newydd ar fywyd a gwaith Siôn Prys. Dangosir rhai llyfrau nodiadau yn ei law, ynghyd â rhai o’r llawysgrifau gwerthfawr y bu iddo eu diogelu (neu eu dwyn?) o hen lyfrgelloedd y mynachlogydd. Bydd rhai o’r llawysgrifau hynny’n dod i Aberystwyth mewn cadwynau, y cadwynau hynny a’u cysylltodd i silffoedd Eglwys Gadeiriol Henffordd am rai cannoedd o flynyddoedd.
Bydd hwn yn gyfle prin i ail-greu byd y Cymro Tuduraidd yn ei wahanol agweddau. Gan nad ymddengys i Siôn Prys gomisiynu llun o’i hunan, gwahoddir ymwelwyr â’r arddangosfa i greu eu portread eu hunain o’r gweinyddwr di-wyneb...
Gellir gweld ‘Llenor a lleidr? Syr Siôn Prys a’r llyfrau Cymraeg cyntaf’, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru rhwng 31 Ionawr – 27 Mehefin 2015.
Gwybodaeth pellach post@llgc.org.uk 01970 632 534