Symud i'r prif gynnwys

DATGANIAD I’R WASG
22-7-2015


Trysorfa ar-lein: 15 miliwn o erthyglau papur newydd
hanesyddol ar gael ar wefan ddiwygiedig


Mae 15 miliwn o erthyglau o dros 120 o deitlau papur newydd a gyhoeddwyd yng Nghymru rhwng 1804 ac 1919 bellach ar gael i’w darllen ar wefan ddiwygiedig Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Papurau Newydd Cymru Arlein.


Mae digwyddiadau pwysig megis gwrthryfel y Siartwyr ym 1839 a Diwygiad 1904-1905 ymhlith y straeon sy’n cael sylw, gydag adroddiadau manwl am y Rhyfel Mawr (1914-1918). Mae manylion bywyd bob dydd hefyd yn cael eu cofnodi, o oedfaon capel i gyngherddau, eisteddfodau a gemau chwaraeon.


Mae’r wefan, a lansiwyd yn 2013, yn un rhad ac am ddim.  Mae’n cynnwys cyhoeddiadau Cymraeg a Saesneg ac yn ddiweddar mae 400,000 o dudalennau ychwanegol wedi’u cyflwyno, gan gynnwys rhai teitlau newydd.


Mae dyluniad y wefan wedi’i ddiweddaru ac mae sawl nodwedd newydd.  Mae’n bosib i bori yn ôl delweddau, boed yn gartŵnau, graffiau, mapiau neu ffotograffau ac mae modd i gysylltu erthyglau gyda’r gwyddoniadur ar-lein, Wikipedia.  Mae’r wefan hefyd yn addasu i faint y sgrîn sy’n cael ei defnyddio, punai’n gyfrifiadur, tabled neu’n ffôn symudol.  


Mae’r dull chwilio ‘boolean’ ar gael, sef y gallu i chwilio yn fanwl am wybodaeth gan ddefnyddio’r geiriau ‘a’, ‘neu’ neu ‘nid’ ynghyd â’r pwnc dan sylw.  Am y tro cyntaf, mae’n bosib cyfyngu chwiliadau yn ôl iaith y cyhoeddiad ac mae’n bosib chwilio fesul blwyddyn.


Mae’r Llyfrgell yn parhau i ddatblygu’r wefan ac mae pob adborth yn cael ei groesawu.  Mae’n bosibl cynnig sylwadau trwy ddefnyddio’r ddolen ‘Cysylltu â ni’ ar y wefan.


Meddai Dr Dafydd Tudur, Rheolwr Mynediad Digidol Llyfrgell Genedlaethol Cymru:


“Mae ’na drysorfa o wybodaeth am fywyd ym mhob cwr o Gymru dros gyfnod o ganrif a mwy ar gael ar y wefan hon, sy’n adnodd ymchwil hawdd ei ddefnyddio a rhad ac am ddim.

“Mae’n rhwydd dod o hyd i rywbeth sydd o ddiddordeb trwy chwilio am enw, lle neu bwnc a’n gobaith yw y bydd yr adnodd hwn o fudd mawr i Gymru yn addysgol, economaidd a chymdeithasol.”

Diwedd

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Hannah Thomas ar hannehelinor@googlemail.com neu 07810 794853 neu Lydia Whitfield yn Effective Communications ar LWhitfield@effcom.co.uk neu 07890 953402

Nodiadau’r golygydd:

  • Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi’i lleoli ar Allt Penglais, Aberystwyth.  Mae arwyddion i’r Llyfrgell o’r prif ffyrdd i mewn i’r dref.
  • Mae mynediad i’r Llyfrgell yn rhad ac am ddim.  Mae’r Llyfrgell ar agor Llun-Gwener, 9.30am-6.00pm a rhwng 9.30am-5.00pm ar ddydd Sadwrn.
  • Ariennir Papurau Newydd Cymru Arlein yn rhannol gan Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol a’r Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru.