Staff y Llyfrgell Genedlaethol i dderbyn Cyflog Byw
Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw’r cyflogwr diweddaraf yng Nghymru i ymrwymo i dalu Cyflog Byw i’w staff. Yn dilyn trafodaethau â chynrychiolwyr undebau, fe gyhoeddodd y Llyfrgell y bydd ei holl staff yn derbyn o leiaf y Cyflog Byw o £7.65 yr awr o 1 Ionawr 2015 ymlaen (£7.85 yr awr o 1 Ebrill).
Fe ymwelodd Ken Skates, Dirprwy Weinidog â’r Llyfrgell heddiw er mwyn nodi’r garreg filltir bwysig hon.
“Mae’n fater o degwch sylfaenol y dylai pobl gael cyflog sy’n ddigon i fyw arno,” meddai’r Prif Weithredwr a Llyfrgellydd, Dr Aled Gruffydd Jones.
“Er gwaethaf sefyllfa ariannol heriol y Llyfrgell rydym yn falch o allu cynyddu cyflogau'r staff hynny sydd ar y bandiau isaf drwy ymateb yn gadarnhaol i darged Cyflog Byw Llywodraeth Cymru. Wrth i’r broses ailstrwythuro fynd rhagddi rydym yn cael ein hatgoffa o ba mor hanfodol ydy hi ein bod ni’n gallu talu cyflog cystadleuol i’n gweithwyr er mwyn cadw staff da sydd â sgiliau prin yn ogystal â denu staff newydd i’n plith” meddai.
Mae’r Dirprwy Weinidog yn croesawu penderfyniad y Llyfrgell:
“Rydym wedi ymrwymo i weld y Cyflog Byw yn cael ei gyflwyno i’r sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector ac yr ydym yn ei weld fel blaengaredd pwysig wrth fynd i’r afael â materion sy’n gysylltiedig â chyflog isel a thlodi. Rwy’n hapus iawn fod un o’n prif sefydliadau wedi gweithio â’r undebau i roi i aelodau staff hynod werthfawr gychwyn mor bositif i’r flwyddyn newydd” meddai.
Ar ran yr undebau llafur (FDA, PCS a Prospect) dywedodd Gareth Howells, Prif Swyddog Negodi Prospect yng Nghymru:
“Rydym yn hapus iawn fod y llyfrgell wedi cytuno i un o gonglfeini cais cyflog yr undebau llafur am eleni. Mae hyn yn dangos gwerth gweithio mewn partneriaeth rhwng yr undebau a rheolwyr y Llyfrgell. Yn dilyn cyfnod anodd yn hanes y Llyfrgell, rydym yn gobeithio y bydd hyn nawr yn gychwyn ar bennod newydd ym mherthynas y Llyfrgell â’r undebau llafur”.
-Diwedd-
Am fanylion pellach cysylltwch â elwyn.williams@llgc.org.uk 01970 632818
Ffotograffau ar gael o post@llgc.org.uk