Symud i'r prif gynnwys

Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Wrth ymateb i adroddiad ‘Craffu Cyfrifon 2015-2015’ y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, dywedodd Linda Tomos, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd:

“Mae’r Llyfrgell yn falch o nodi fod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (PCC) wedi croesawu cynllun gweithredu’r Llyfrgell wrth ymateb i ganfyddiadau adolygiad PricewaterhouseCoopers.

“Fel y mae’r PCC yn nodi, bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn ymgymryd â gwaith ar lywodraethiant yn y dyfodol a fydd yn ystyried ymateb y Llyfrgell i’r adolygiad hwn. Bydd hwn yn cynnwys y prosesau sydd yn eu lle’n ymwneud â datgan buddiant ar lefel y Bwrdd ac atal gwrthdaro buddiannau rhag digwydd.

“Mewn perthynas â dilyn achos yn erbyn contractwyr a fu’n gyfrifol  am y tân yn y Llyfrgell yn Ebrill 2013, mae’r costau cyfreithiol ynghyd â’r gwahanol lwybrau y gellid eu dilyn, wedi’u hystyried gan staff hŷn y Llyfrgell a’r Bwrdd a chyda swyddogion Llywodraeth Cymru. Credwn y byddai aelodau’r cyhoedd yn disgwyl i ni ddilyn y llwybr yma i fyny a cheisio iawn am y difrod a wnaed.
“Mae’r Llyfrgell wedi bod yn ymwybodol ac yn parhau i fod yn ymwybodol o’r risgiau posibl. Fe sicrhaodd gweithredu cyfreithiol cyflym yn syth ar ôl y tân ein bod wedi osgoi talu £50,000 a oedd yn ddyledus dan y cytundeb.

“Mae cyfanswm y costau cyfreithiol oddeutu £75,000 a’n gobaith yw y gellid derbyn rhywfaint o’r swm hwn yn ôl gan y cwmni sy’n nwylo’r diddymwyr.

“Fel rhan o’r prosesau rheoli risg, mae’r Llyfrgell wedi gwneud asesiad o’r gost a’r risg debygol pe bawn yn dwyn achos yn erbyn  yswirwyr y cwmni neu ymgynghorwyr eraill.

“Byddai’r Llyfrgell ond yn cychwyn ar y llwybr hwn ar ôl derbyn cydsynied Llywodraeth Cymru a Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, ac ymrwymiad y byddai’r costau’n cael eu talu.

“Yn nhermau yswiriant ac Indemniad Llywodraeth, mae’r Llyfrgell wedi dilyn y rheolau cydnabyddedig yn gaeth, ond byddem yn croesawu trafodaeth gyda Llywodraeth Cymru er mwyn gweld sut y medrent gael eu gwella a sicrhau eu bod yn gweithio’n fwy effeithiol.

“Mewn perthynas â phensiwn a thâl diswyddo, mae’r taliadau hynny yn cymharu’n deg â’r rhai sydd wedi’u cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru. Mae newidiadau i’r cynllun eisoes wedi’u gweithredu yn dilyn trafodaethau gyda’r Undebau. Mae’r broses o adolygu hyn ymhellach wedi cychwyn ac y mae’r rheolwyr hŷn yn ystyried agweddau ar gyfraith cyflogaeth sy’n berthnasol i dâl diswyddo

“Mae’r Llyfrgell yn gweithredu cynllun pensiwn buddiant diffiniedig traddodiadol. Yn wahanol i’r rhan fwyaf o’r cynlluniau sy’n y sector gyhoeddus, fe gafodd cynllun y Llyfrgell ei asesu gan Actwari yn 2013 fel un a oedd wedi’i gyllido’n llawn. Bydd yr adolygiad nesaf yn digwydd yn 2016 a bydd y Llyfrgell yn edrych ar y canlyniadau wrth ystyried newidiadau posibl sydd angen eu gwneud i’r trefniadau pensiwn”.

Cyhoeddwyd ar ran Llyfrgell Genedlaethol Cymru gan  Alastair Milburn, Effective Communication amilburn@effcom.co.uk; 07813 857328 / 029 20830 8311