Symud i'r prif gynnwys

Prosiect yn gofyn am gymorth i warchod enwau Caeau

Hanner miliwn o enwau caeau, dyna ydy amcangyfrif y Llyfrgell Genedlaethol o'r enwau caeau sydd wedi eu cofnodi yn nogfennau’r Degwm. Mae prosiect Cynefin Cymru yn digido 1200 o fapiau a 30,000 o ddogfennau ac wedi rhoi’r cyfan ar lein er mwyn galluogi’r cyhoedd i gymryd rhan yn y broses o’u cofnodi.

Yn ôl Einion Gruffudd, Rheolwr Prosiect Cynefin:

“Mae dros 26,000 o enwau caeau eisoes wedi eu cofnodi gan wirfoddolwyr, ond mae’n disgwyl bod dros hanner miliwn o gofnodion yno i gyd.”
Bydd yn trafod yr wybodaeth yma yng nghynhadledd Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru yn Llanelwedd ddydd Sadwrn 3 Hydref 2015.

Ychwanegodd Einion Gruffudd:

“Dyma gofnod unigryw o’n hanes a’n diwylliant Cymraeg; mae mwyafrif helaeth yr enwau yma yn Gymraeg, hyd yn oed mewn ardaloedd rydyn ni’n eu hystyried yn ddi-gymraeg heddiw. Mae’r enwau yn aml yn cyfeirio at hen ffordd o fyw, fel cae dwy bladur, cae ychen, ac ati. Gallwn weld patrymau ieithyddol a thafodieithoedd yn barod yn y data sydd gennym, ond rydyn ni’n gobeithio cael llawer mwy o ddata dros y flwyddyn nesaf.”

Cyfraniad mawr cynefin.cymru ydy ei gwneud yn llawer haws i bobl ddarganfod yr hen enwau lleol. Pan fo tai a strydoedd newydd yn cael eu hadeiladu, mae traddodiad da yng Nghymru o ailddefnyddio enwau caeau, ond mae’n bwysig bod datblygwyr yn gallu cael at yr wybodaeth yn hwylus neu mae perygl i’r enwau gael eu hanghofio.

Bydd y prosiect hefyd yn gymorth i bobl sy’n prynu fferm newydd a heb fod yn gwybod enwau’r caeau; mae gwybodaeth o’r 1840au ar gael ar gyfer tua tri chwarter caeau Cymru ar y wefan hon.
Mae croeso cynnes i bawb ymuno er mwyn achub yr enwau hyn – yn enwedig trawsysgrifwyr, pobl sydd â diddordeb mewn darllen dewlweddau o hen ddogfennau, ac wrth gwrs unrhyw un sydd â diddordeb mewn mapiau. Mae’r cyfleon i gyd ar wefan cynefin.cymru.

Gwybodaeth Bellach

Einion Gruffudd: 01970 632 842 einion.gruffudd@llgc.org.uk
Elin-Hâf 01970 632471 post@llgc.org.uk

Nodiadau i Olygyddion

  • Mae delweddau i gyd-fynd a’r erthygl ar gael ar gais.
  •  Cynefin: Mapio Ymdeimlad o Le yng Nghymru
  • Arweinir y prosiect hwn gan Archifau Cymru mewn partneriaeth gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chasgliad y Werin. Ariennir y prosiect yn bennaf gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru trwy’r Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Archifau Cymru.
  • Dechreuodd prosiect Cynefin ym mis Tachwedd 2014, a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Medi 2016. I gael rhagor o wybodaeth ewch i'r wefan cynefin.cymru; dilynwch Cynefin ar twitter,@ProsiectCynefin, neu cysylltwch â cynefin@llgc.org.uk neu 01970 632 416.