Symud i'r prif gynnwys

Prosiect Sbardun yn harddu’r Llyfrgell Genedlaethol

Cafodd ffenestr gwydr lliw hardd a grëwyd gan fyfyrwyr Sbardun o Sir Benfro le blaenllaw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

Mae'r ffenestr gwydr lliw'n dangos delweddau cysylltiedig â gwerth darllen a gogoniant Sir Benfro.
Wedi'i chreu gan fyfyrwyr o ysgolion Pennar, Golden Grove, y Santes Fair, Hakin a Hubberston, roedd y ffenestr ymysg chwech o brosiectau crefft a gynhaliwyd yn ddiweddar yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Noddwyd hwy gan raglen Eluned Gymraes Davies - roedd Eluned Gymraes (1910-2004) yn frwd dros hyrwyddo crefftau o fewn Dysgu Oedolion.

Gadawodd ei hystâd swm o arian i'r Llyfrgell Genedlaethol iddi allu cyflwyno prosiectau crefft mewn amrywiol ranbarthau ar hyd a lled Cymru er cof amdani.

"Hoffem ddiolch i Gyngor Sir Penfro am ganiatáu cyflwyno'r gweithdai gwydr lliw fel rhan o'i brosiect Sbardun, gan roi cyfle i unigolion ddysgu ac ymarfer crefft newydd, sy'n greiddiol i raglen Eluned Gymraes Davies," meddai Rhodri Morgan, Swyddog Addysg yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

"Mae'r sgiliau a thechnegau a fabwysiadodd y myfyrwyr dan gyfarwyddyd arbenigol Pandora Hughes wedi arwain at ffenestr gwydr lliw drawiadol a gafodd le blaenllaw yn Neuadd Ganolog y Llyfrgell - fel bod pawb sy'n ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru'n gallu ei gwerthfawrogi yn ei holl ogoniant."

Dywedodd Laura Phillips, Cydgysylltydd Sbardun, eu bod yn teimlo'n freintiedig iawn o fod wedi cael ein dewis gan y Llyfrgell Genedlaethol i fod yn rhan o'r prosiect.

"Gweithiodd ein myfyrwyr Sbardun yn wyrthiol i greu'r gwydr lliw ar y cyd yn ystod tymor yr haf," meddai.

"Mae'r ffenestr yn werth ei gweld ac roedd holl fyfyrwyr a staff Sbardun yn llawn balchder wrth weld gosod y darn gorffenedig."

Mae Sbardun yn un o brosiectau Sir Benfro yn Dysgu sy'n cynnal amrywiaeth eang o gyrsiau llawn hwyl, am ddim a chyffrous ar gyfer oedolion a theuluoedd mewn ardaloedd a dargedwyd ledled Sir Benfro.
Mae'r prosiect yn gweithio mewn partneriaeth ag wyth o ysgolion Sir Benfro - Glannau Gwaun, Golden Grove, Hakin, Hubberston, Doc Penfro, Pennar, Sant Marc a'r Santes Fair Gymunedol.

Gwybodaeth Bellach:
Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk