Symud i'r prif gynnwys

Prosiect Cynefin yn ailddarganfod lleoedd coll Cymru

06/08/2015

Mae prosiect Cynefin, a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, yn brosiect arloesol sy'n digido mapiau degwm Cymru. Wrth baratoi ar gyfer arddangosfa yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, daeth staff y prosiect ar draws mapiau degwm sy'n dangos lleoedd o'r 1840au nad ydynt bellach yn bodoli.

Mae mapiau degwm yn ffynhonnell wybodaeth bwysig am bentrefi a phlastai coll Cymru.  Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos hon gwelir rhan o fap degwm Cegidfa, sy’n dangos Plas Garth. Plasty gothig oedd Garth, a oedd yn sefyll nid ymhell o faes yr Eisteddfod cyn iddo gael ei ddymchwel yn 1947.

Mae’r mapiau degwm sydd yn cael eu harddangos yn ‘Y Lle Hanes’ ac ar stondin Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn yr Eisteddfod hefyd yn dangos pentref Llanwddyn ac ardal Capel Celyn cyn iddynt gael eu boddi i greu cronfeydd dŵr Llyn Efyrnwy a Llyn Celyn.

Mae’r mapiau hyn yn cael eu harddangos ynghyd â thudalennau o ddogfennau pennu’r degwm, sy'n enwi'r tirfeddianwyr, perchnogion y tir, defnydd tir ac enwau caeau o'r 1840au pan gafodd y mapiau degwm eu llunio.

Dywedodd Einion Gruffudd, Rheolwr Prosiect Cynefin;  "Mae'n gyffrous dod a hanes Cymru yn fyw drwy ddefnyddio mapiau degwm yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Mae'r straeon yma o leoedd coll yn cyfleu pa mor bwysig yw mapiau degwm a dogfennau degwm fel ffynonellau ymchwil ar gyfer hanes lleol a hanes teulu. "

Mae'r mapiau degwm yn cael eu digido yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru a gellir eu gweld ar wefan cynefin.cymru.

Mae prosiect Cynefin yn awyddus i bobl Cymru gyfrannu i’r prosiect drwy helpu i drawsgrifio’r mapiau degwm a’r dogfennau pennu’r degwm. Bydd hyn yn gymorth tuag at greu ffynhonnell ymchwil arloesol a chynhwysfawr ar-lein er mwyn i bobl allu cael mynediad at, ac ymchwilio’r mapiau degwm a’r dogfennau. I ddarganfod mwy am brosiect Cynefin ac am y cyfleoedd gwirfoddoli, ewch i wefan cynefin.cymru neu galwch yn stondin Llyfrgell Genedlaethol Cymru (601 – 605) yn yr Eisteddfod Genedlaethol wythnos yma.

Diwedd.

Am wybodaeth bellach cysylltwch ag Einion Gruffudd neu Carys Evans
Einion Gruffudd: 01970 632 842 einion.gruffudd@llgc.org.uk
Carys Evans: 01970 632 416 carys.evans@llgc.org.uk 07988 750 415

Nodiadau i Olygyddion

  • Cynefin: Mapio Ymdeimlad o Le yng Nghymru
  • Arweinir y prosiect hwn gan Archifau Cymru mewn partneriaeth gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chasgliad y Werin Cymru. Arienir y prosiect yn bennaf gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru trwy Adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd (AAALl), Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Archifau Cymru.
  • Dechreuodd prosiect Cynefin ym mis Tachwedd 2014, a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Medi 2016. I gael rhagor o wybodaeth ewch i'r wefan cynefin.cymru; dilynwch Cynefin ar twitter,@ProsiectCynefin, neu cysylltwch â cynefin@llgc.org.uk neu 01970 632 416.
  • Mae mwy o wybodaeth am yr Eisteddfod Genedlaethol