Symud i'r prif gynnwys

Prifysgolion Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Llyfrgelloedd GIG yng Nghymru yn dewis System Rheoli Llyfrgelloedd a rennir

Rydym yn falch o gyhoeddi bod consortiwm o Brifysgolion Cymru, gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a Llyfrgelloedd GIG Cymru, wedi dewis y system unedig rheoli adnoddau Ex Libris Alma, a system unedig ar gyfer darganfod a chyflwyno adnoddau Ex Libris Primo er mwyn darparu System Rheoli Llyfrgelloedd newydd a rennir ar gyfer y sector.


Mae Consortiwm WHELF (Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru ) wedi dewis systemau Alma a Primo, yn dilyn proses dewis ac asesu drwyadl.  Y 10 llyfrgell yng nghonsortiwm WHELF yw Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Glyndŵr, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru a Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Llyfrgelloedd GIG Cymru drwy Gonsortiwm AWHILES .


Meddai Aled Gruffydd Jones, sef Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chadeirydd WHELF: “mae holl aelodau WHELF yn disgwyl gwireddu buddion trawsffurfiannol yn sgil ein cydweithredu ar system Llyfrgelloedd a rennir, gan gynnwys darparu rhyngwyneb dwyieithog unigol ar gyfer Addysg Uwch yng Nghymru ac ymchwil, yn ogystal â’r potensial ar gyfer cydweithio mwy dwys o ran datblygu a rheoli casgliadau ”.


Ar hyn o bryd, mae aelodau Consortiwm WHELF yn defnyddio amrywiaeth o Systemau Rheoli Llyfrgelloedd unigol, a nifer o systemau darganfod gwahanol.  Wrth ddewis Ex Libris fel darparwr unigol, bydd y Consortiwm yn darparu system llyfrgell unigol seiliedig ar gwmwl, y genhedlaeth nesaf, wedi’i chyflwyno ar sail meddalwedd fel gwasanaeth (SaaS).


Bydd Alma a Primo yn darparu system unedig ar gyfer rheoli a darganfod adnoddau, ac yn galluogi aelodau WHELF i fabwysiadau llifoedd gwaith a rennir, wedi’u symleiddio, wrth ehangu cyfleoedd ar gyfer cydweithio ar draws y Consortiwm.


-Diwedd-


Am fanylion pellach cysylltwch â post@llgc.org.uk
neu
Gareth Owen
Rheolwr Rhaglen
System Rheoli Llyfrgell a Rennir WHELF (LMS)
OwenG12@cardiff.ac.uk / 029 20874014

Nodiadau i Olygyddion

Ynglŷn â WHELF


Mae WHELF (Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru) yn grŵp cydweithredol o’r holl lyfrgelloedd addysg uwch yng Nghymru, ynghyd â Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r Brifysgol Agored. Caiff ei gadeirio gan Brif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac mae ei aelodau’n cynnwys Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Gwybodaeth a Phenaethiaid Gwasanaethau Llyfrgelloedd.


Mae WHELF yn hyrwyddo gwaith llyfrgelloedd addysg uwch yng Nghymru ac yn darparu ffocws ar gyfer datblygu syniadau a gwasanaethau newydd.


Cenhadaeth WHELF yw hyrwyddo cydweithredu o ran gwasanaethau llyfrgell a gwybodaeth, ceisio buddiannau cost ar gyfer gwasanaethau a rennir a gwasanaethau consortiwm, annog cyfnewid syniadau, darparu fforwm ar gyfer cefnogi’r naill a’r llall a helpu i hyrwyddo mentrau newydd o ran darparu gwasanaethau llyfrgell.


Ar hyn o bryd, mae aelodau Consortiwm WHELF yn defnyddio amrywiaeth o Systemau Rheoli Llyfrgelloedd unigol, a nifer o systemau darganfod gwahanol.  Wrth ddewis Ex Libris fel darparwr unigol, bydd y Consortiwm yn darparu system llyfrgell unigol seiliedig ar gwmwl, y genhedlaeth nesaf, wedi’i chyflwyno ar sail meddalwedd fel gwasanaeth (SaaS).


Bydd Alma a Primo yn darparu system unedig ar gyfer rheoli a darganfod adnoddau, ac yn galluogi aelodau WHELF i fabwysiadau llifoedd gwaith a rennir, wedi’u symleiddio, wrth ehangu cyfleoedd ar gyfer cydweithio ar draws y Consortiwm.


I gael rhagor o wybodaeth am WHELF,  gweler y wefan www.whelf.ac.uk , neu  Twitter @WHELFed

Ynglŷn ag Ex Libris


Mae Ex Libris yn ddarparwr blaenllaw atebion awtomeiddio ar gyfer llyfrgelloedd academaidd, cenedlaethol ac ymchwil. Mae Ex Libris, sy’n cynnig yr unig gyfres gynhwysfawr o gynnyrch ar gyfer deunydd electronig, digidol a phrint, yn darparu cynhyrchion effeithlon sy’n gyfeillgar i’r defnyddiwr ac yn gwasanaethu anghenion llyfrgelloedd heddiw ac a fydd yn hyrwyddo eu pontio i’r dyfodol. Mae Ex Libris yn cynnal cronfa fawr o gwsmeriaid sy’n cynnwys miloedd o safleoedd mewn mwy na 90 o wledydd ar chwe chyfandir.


Mae Ex Libris, sydd wedi’i ymroi i ddatblygu atebion creadigol mewn cydweithrediad agos gyda chwsmeriaid, yn galluogi llyfrgelloedd i fwyafu cynhyrchiant ac effeithlonrwydd ac, ar yr un pryd, yn gwella profiad y defnyddwyr yn fawr. Trwy rymuso defnyddwyr i ddarganfod a chael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt, mae llyfrgelloedd yn sicrhau eu sefyllfa fel y bont at wybodaeth.


I gael rhagor o wybodaeth am y Grŵp, gweler y wefan www.exlibrisgroup.com