DATGANIAD I’R WASG
28-7-2015
Myfyrdodau Mathrafal: plant y canolbarth yn cael
blas ar fywyd cythryblus tywysogion Cymru
Mae disgyblion yng nghanolbarth Cymru wedi cael blas ar fywyd cythryblus tywysogion yr Oesoedd Canol diolch i Brosiect Addysg Estyn Allan a drefnwyd gan y Llyfrgell Genedlaethol i gyd-fynd ag Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau 2015.
Mae’r prosiect, a noddwyd gan Sefydliad ScottishPower (ScottishPower Foundation - SPF), wedi canolbwyntio ar Fathrafal, cartref hynafol Tywysogion Powys. Dinistriwyd Castell Mathrafal, cartref teuluol Gruffydd ap Gwenwynwyn, Arglwydd Powys Uchaf, ym 1212, ac mae’r domen castell gerllaw maes yr Eisteddfod ym Meifod eleni.
Fe gynllwyniodd Gruffydd ap Gwenwynwyn gyda Brenin Lloegr, Edward I, i ddisodli Llywelyn ap Gruffydd (y ‘Llyw Olaf’), a laddwyd ger Cilmeri ym 1282.
Mae’r prosiect, a gafodd ei gynnal gan Wasanaeth Addysg y Llyfrgell, hefyd wedi cyflwyno’r disgyblion i Gyfreithiau Hywel Dda (bu farw 950). Hywel oedd yn gyfrifol am roi trefn ar arferion a chyfreithiau gwahanol ranbarthau Cymru a chreu un gyfundrefn gyfreithiol.
Fel rhan o’r prosiect, fe wnaeth 270 o ddisgyblion o wyth o ysgolion cynradd ac un ysgol gyfun yn ardal Meifod ymweld â’r Llyfrgell Genedlaethol i weld y llawysgrifau amhrisiadwy sy’n cofnodi’r cyfnod cyfareddol hwn yn hanes Cymru.
Mae ‘Brut y Tywysogion’, y cronicl cynharaf o hanes Cymru, a Chyfreithiau Hywel Dda yn cael eu cadw yng Nghasgliad Llawysgrifau Peniarth y Llyfrgell, a gafodd ei gynnwys yng Nghofrestr Cof y Byd UNESCO ar gyfer y DU yn 2010.
Fe gafodd y disgyblion gyfle i drafod y cyfreithiau, i astudio gwaith llysoedd y tywysogion a dysgu sut y cynhyrchwyd llawysgrifau yn yr Oesoedd Canol.
Fe wnaeth yr artistiaid Hilary a Graham Roberts hefyd gynnal gweithdai celf yn yr ysgolion a bydd ffrwyth llafur y disgyblion, wyth o faneri, yn cael eu harddangos ar stondin y Llyfrgell yn yr Eisteddfod (rhif stondin 601-605 ar y maes).
Mae’r baneri yn adlewyrchu gwahanol agweddau ar fywyd y Gymru ganoloesol, gan gynnwys digwyddiadau sy’n cael eu crybwyll ym Mrut y Tywysogion. Defnyddiodd y disgyblion ddulliau amrywiol i greu’r baneri, gan gynnwys gwaith print, papur wedi’i wneud â llaw ac addurniadau. Cyfansoddwyd cerddi hefyd i adlewyrchu thema a delweddau pob baner.
Meddai Hilary Roberts: “Mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi rhoi profiad gwych i’r plant trwy ddod â hanes a phersonoliaethau’r cyfnod yn fyw fel adnodd artistig.”
Eglurodd Rhodri Morgan, Swyddog Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru: “Bwriad y prosiect oedd cyflwyno’r disgyblion i gyfnod cythryblus yn hanes Cymru ac i dynnu sylw at y deunyddiau sy’n berthnasol i’w milltir sgwâr nhw yn y Llyfrgell. Roedd hefyd yn gyfle i godi ymwybyddiaeth ymhlith y disgyblion o rôl y Llyfrgell Genedlaethol a’r casgliadau
anhygoel sydd yn ei gofal.”
Meddai Ann Loughrey, Ymddiriedolwr a Swyddog Gweithredol Sefydliad ScottishPower:
"Mae Sefydliad ScottishPower wedi ymrwymo i gefnogi rhaglenni cymunedol sy’n ysbrydoli pobl ifanc i gael y budd gorau posibl o fyd addysg, y celfyddydau, diwylliant a gwyddoniaeth. Rydym wrth ein bodd i gefnogi Rhaglen Estyn Allan Llyfrgell Genedlaethol Cymru sy’n galluogi’r gymuned ehangach i gael mynediad i’r casgliadau unigryw sydd yng ngofal y Llyfrgell yn Aberystwyth.”
Diwedd
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Lydia Whitfield yn Effective Communications ar LWhitfield@effcom.co.uk neu 07890 953402
Nodiadau’r golygydd
- Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi’i lleoli ar Allt Penglais, Aberystwyth. Mae arwyddion i’r Llyfrgell o’r prif ffyrdd i mewn i’r dref.
- Mae mynediad i’r Llyfrgell yn rhad ac am ddim. Mae’r Llyfrgell ar agor Llun-Gwener, 9.30am-6.00pm a rhwng 9.30am-5.00pm ar ddydd Sadwrn.
- Mae mwy o wybodaeth am y Llyfrgell.
- Fe wnaeth wyth ysgol gynradd gymryd rhan yn y prosiect: Ysgol Llanerfyl, Ysgol Llanfair Caereinion, Ysgol Pontrobert, Ysgol Dafydd Llwyd, Ysgol Castell Caereinion, Ysgol Meifod, Ysgol Rhiw Bechan, Ysgol Dyffryn Banw ac un ysgol gyfun, sef Ysgol Caereinion.
- Mae mwy o wybodaeth am Eisteddfod Genedlaethol Cymru