Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn derbyn dyddiaduron Yr Arglwydd Roberts o Gonwy
Mae’r Archif Wleidyddol Gymreig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn falch iawn o fod wedi derbyn dyddiaduron gwleidyddol yr Arglwydd Roberts o Gonwy (Wyn Roberts) .
Mae’r 18 cyfrol yn cynnwys deunydd o’r cyfnod 1970 - 1995 tra roedd yn y Swyddfa Gymreig ac yn llefarydd yr wrthblaid ar faterion Cymreig. Mae’r casgliad yn cynnwys ei fyfyrdodau ar ddigwyddiadau’r dydd gyda llythyron rhwng yr Arglwydd Roberts a ffigyrau amlwg fel Arglwyddes Thatcher, Syr John Major a Syr Edward Heath, nodiadau amrywiol a thoriadau o’r wasg.
Mae’r dyddiaduron yn cyfeirio at ystod eang o bynciau gan gynnwys Etholiadau Cyffredinol, ymddiswyddiad Arglwyddes Thatcher a Rhyfel y Falkland, ond mae llawer iawn yn ymwneud â materion Cymreig. Yn eu plith mae rhai o brif newidiadau’r 1980au a dechrau’r 90au fel sefydlu S4C, dysgu Cymraeg mewn ysgolion, buddsoddi yng Nghymru gan gwmnïau tramor a Deddf yr Iaith Gymraeg.
Dywedodd Rob Phillips, Archifydd Cynorthwyol yr Archif Wleidyddol Gymreig:
“Mae’r casgliad arbennig hwn yn rhoi dealltwriaeth i ni o nifer o brif ddadleuon gwleidyddol Cymru a Phrydain yn y 1970au a thrwy gyfnodau Thatcher a Major. Mae’n rhoi barn bersonol yr Arglwydd Roberts ar brif ddigwyddiadau’r cyfnod ac yn olrhain hanes trafodaethau a negodi o fewn y llywodraeth a gyda’r pleidiau eraill i sicrhau bod mesurau’n llwyddo. Rydym yn disgwyl llawer o ddiddordeb yn y casgliad.”
Gwybodaeth Bellach
Elin- Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk
Nodiadau i olygyddion
- Mae’r Archif Wleidyddol Gymreig yn rhaglen o fewn Llyfrgell Genedlaethol Cymru i gasglu, storio, catalogio a hyrwyddo deunydd archifol sy’n adlewyrchu bywyd gwleidyddol Cymru. Mae’r Llyfrgell yn dal archifau prif bleidiau gwleidyddol Cymru, gwleidyddion a mudiadau ymgyrchu.
- Roedd yr Arglwydd Roberts o Gonwy yn Aelod Seneddol Conwy o 1970 i 1997. Roedd yn ysgrifennydd seneddol preifat i Ysgrifennydd Gwladol Cymru o 1970 i 1974 ac yn llefarydd yr wrthblaid ar faterion Cymreig rhwng 1974 ac 1979. Roedd yn Is Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidog yn y Swyddfa Gymreig rhwng 1979 a 1995. Cyn cael ei ethol roedd yn ffigwr amlwg yn y byd teledu yng Nghymru gyda chwmnïau TWW a HTV.
- Archif Wleidyddol Gymreig
- Welsh Political Archive on Twitter