Symud i'r prif gynnwys

LENS 2015: Philip Jones Griffiths

Ar ddydd Sadwrn 7 Tachwedd 2015, cynhelir LENS 2015 yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Gŵyl ffotograffiaeth na ddylai neb sydd â diddordeb mewn ffotograffiaeth ei methu, a fydd yn canolbwyntio eleni ar Philip Jones Griffiths a'i waith.

O’i dyddiau cynnar fel digwyddiad i hyrwyddo casgliadau delweddau gweledol y Llyfrgell,  mae’r Ŵyl wedi tyfu a datblygu dros y ddegawd a fu i fod yn fforwm drafod bwysig i ffotograffwyr proffesiynol a lleug, ac yn gyfle i fwynhau cyflwyniadau gan rai o gewri’r lens.  

Ymysg siaradwyr yr ŵyl mae Martin Woollacott, cyn-ohebydd tramor, golygydd tramor a sylwebydd ar faterion rhyngwladol ar gyfer y Guardian; Jason Walford Davies fydd yn trafod cerddi mewn ymateb i waith y ffotograffydd; George Petry fydd yn trafod ei ymchwil PhD ar Philip Jones Griffiths a’r ffotograffydd Marian Delyth fydd yn cadeirio sesiwn holi ac ateb gyda Katherine Holden, merch Philip Jones Griffiths. I orffen, bydd William Troughton Curadur Ffotograffau Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cyflwyno sgwrs oriel ar yr arddangosfa.

Mae Griffiths, a fu farw yn 2008, yn enwog yn fyd eang am ei bortreadau o ddioddefaint y bobl gyffredin yn ystod y rhyfel yn Fietnam. Fe gyhoeddodd gyfrol ddylanwadol o'r delweddau hynny ym 1971, ‘Vietnam Inc.’, a gyfranodd at wyrdroi'r farn boblogaidd am y rhyfel.

Mae sleidiau a ffotograffau o'r llyfr ymhlith 100 o ddelweddau sy'n cael eu cyflwyno yn yr arddangosfa, Philip Jones Griffiths – Ffocws Cymreig ar Ryfel a Heddwch. Mae enghreifftiau o'i waith cynnar a diweddar hefyd yn rhan o'r arddangosfa, yn ogystal ag eiddo personol Griffiths, megis ei gamerâu, papurau a thrugareddau eraill.

Meddai William Troughton sydd wedi curadu'r arddangosfa, sy'n cael ei chynnal ar y cyd gan y Llyfrgell ac Ymddiriedolaeth Philip Jones Griffiths:

“Nid ffotograffydd rhyfel traddodiadol oedd Philip Jones Griffiths. Ei ddiddordeb pennaf oedd dangos effeithiau ac anghyfiawnderau rhyfel ar y trigolion cyffredin - mae ‘Vietnam Inc.’ yn glasur o gyfrol ac fe gafodd ddylanwad enfawr pan gafodd ei chyhoeddi gyntaf.

“Roedd Griffiths yn paratoi'n fanwl a bydd yr arddangosfa yn bwrw golau newydd ar ei waith. Fe deithiodd yn helaeth yn ystod ei yrfa - i dros gant o wledydd - a bydd yr arddangosfa hefyd yn dathlu agweddau eraill ar ei yrfa ryfeddol."

Gwybodaeth Bellach

Elin-Hâf 01970 632471 and post@llgc.org.uk

Philip Jones Griffiths - Ffocws Cymreig ar Ryfel a Heddwch
Oriel Gregynog, Llyfrgell Genedlaethol Cymru tan dydd Sadwrn 12ed o Rhagfyr 2015
Llun -  Sadwrn (9.30 y.b. - 5.00 y.p.)