Symud i'r prif gynnwys

Gwelliannau'n datblygu'n dda – Gweithredu ar bob argymhelliad yn dilyn adroddiad PwC ar y Llyfrgell Genedlaethol

Fe gyflwynodd Tricia Carter, Is Lywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chadeirydd Tasglu Gwelliant Llywodraethiant a sefydlwyd yn dilyn adolygiad beirniadol gan Pricewaterhouse Coopers (PwC) ym mis Gorffennaf, adroddiad cynnydd i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a gyfarfu heddiw (dydd Gwener, 18 Medi 2015 yn Aberystwyth).

Dangosodd yr adroddiad fod pob un o 11 argymhelliad PwC a fabwysiadwyd gan y Bwrdd yn datblygu’n dda iawn ac ar eu ffordd i gael eu cyflawni’n llwyr.

Sefydlodd y Bwrdd Dasglu arbennig er mwyn hwyluso’r ffordd y byddai’r Llyfrgell yn ymateb i’r Adroddiad, cyflawni’r argymhellion a rhoi yn eu lle’r camau angenrheidiol ar gyfer gwelliant.

Wrth gyflwyno’i hadroddiad, dywedodd Tricia Carter:
 “Mae'r Tasglu wedi bod yn gyfrifol am gyflwyno nifer o bolisïau a gweithdrefnau newydd, sy'n cael eu trafod ar hyn o bryd gyda'r Undebau a staff, ac yn gobeithio y byddant yn cael eu mabwysiadu'n ffurfiol gan y Llyfrgell ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori y cytunwyd arno”.

Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd Syr Deian Hopkin, Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Mae’r gwaith sylweddol sydd wedi’i gyflawni’n barod gan y Tasglu’n dangos yn glir ymrwymiad llwyr y Bwrdd i roi ar waith y gwelliannau angenrheidiol sydd eu hangen i lywodraethiant a diwylliant y Llyfrgell”.

“Rydym hefyd wedi gofyn i’r Tasglu nid yn unig edrych ar argymhellion yr Adolygiad, ond hefyd i ystyried materion pwysig eraill y cyfeiriwyd atynt gan PwC, ac awgrymu pa welliannau pellach y gellir ei wneud i drefniadaeth y Llyfrgell Genedlaethol”.

Ychwanegodd Tricia Carter:

“Mae'r Adolygiad hwn yn dod ar adeg bwysig yn hanes  Llyfrgell Genedlaethol Cymru”.
“Byddwn yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod gwelliant parhaus a’r newidiadau angenrheidiol sydd eu hangen yn ein llywodraethiant a diwylliant yn darparu’r budd cyhoeddus mwyaf”

Hefyd yng nghyfarfod yr Ymddiriedolwyr heddiw fe drafodwyd yn fanwl y trefniadau ar gyfer penodi Prif Weithredwr a Llyfrgellydd i olynu Dr Aled Gruffydd Jones a ymddeolodd yn ddiweddar. Gobeithir gallu cyhoeddi rhagor o fanylion ynghylch hyn yn fuan.