Gwasanaeth Llyfrgell Digidol Cenedlaethol i Gymru
28 Ebrill 2015
Dyfarnwyd grant o £255,000 i Lyfrgell Genedlaethol Cymru gan Lywodraeth Cymru i arwain y gwaith o ddatblygu Gwasanaeth Llyfrgell Digidol i Gymru. Gwnaethpwyd y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf (Ebrill 17) gan Ken Skates, y Diprwy Weinidog Dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.
Bydd y nawdd yn galluogi’r Llyfrgell i weithio mewn partneriaeth â llyfrgelloedd eraill Cymru i ddarparu mynediad rhad ac am ddim at ystod eang o ddeunydd ar-lein gan gynnwys adnoddau hanes teulu, papurau newydd a deunyddiau cyfeiriadol cyffredinol. Bydd y bartneriaeth hefyd yn darparu mynediad ar-lein yn rhad ac am ddim at e-lyfrau ac e-gylchgronau.
Mae’r porth Cymru-gyfan yn rhan ganolog o’r Gwasanaeth Llyfrgell Digidol ac yn darpau gwybodaeth am yr hyn sydd ar gael a’r hyn sy’n digwydd mewn llyfrgelloedd lleol ledled Cymru. Mae’r gwasanaeth ‘Ffeindio Llyfr’ ar y wefan yn chwilio’r holl gatalogau llyfrgell yng Nghymru ag un chwiliad.
Meddai’r Dr Aled Gruffydd Jones, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, am bwysigrwydd y Gwasanaeth Llyfrgell Digidol:
“Pleser mawr i mi yw bod y Llyfrgell Genedlaethol yn arwain ar y darn angenrheidiol hwn o waith. Bydd lledaenu mynediad ar-lein am ddim yn sicrhau bod mwy fyth o bobl yn gallu mwynhau’r casgliadau cyfoethog ac amrywiol sydd ar gael yn ein llyfrgelloedd.”
Mae’r nawdd yn rhan o becyn £2.7 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd ar draws Cymru, ac yn eu cynorthwyo i wireddu’r argymhellion yn adroddiad y Farwnes Andrews ar ddiwylliant a thlodi.
Am fanylion pellach cysyllter â: post@llgc.org.uk