Galw Gwirfoddolwyr
Ydych chi wedi dechrau meddwl am eich adduned blwyddyn newydd?
Oes gennych chi ychydig o amser yn rhydd pob wythnos?
Beth am wirfoddoli yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth?
Rydym yn chwilio am dîm o wirfoddolwyr dwyieithog, brwd, sy’n hoff o gwrdd â phobl newydd ac sy’n medru ymdrin â phobl o gefndiroedd gwahanol a chydag anghenion amrywiol.
Cewch gyflawni tasgau fel:
- Croesawu a sgwrsio gydag ymwelwyr;
- Cyfeirio ymwelwyr at yr amryw gyfleusterau o fewn yr adeilad;
- Cynorthwyo gyda digwyddiadau;
- Rhannu taflenni, cynnal arolygon barn ac ymgynghoriadau;
- Cefnogi teithiau tywys o gylch yr adeilad.
Yn 2015 bu’r Llyfrgell yn llwyddiannus wrth dderbyn Gwobr Aur Croeso Cymru. Mae Gwobr Aur Croeso Cymru yw gwobrwyo ansawdd eithriadol a lletygarwch yn y sector gwasanaeth yng Nghymru. Mae'r wobr hefyd yn rhoi cydnabyddiaeth i fusnesau a fu'n llwyddiannus mewn ymarfer Cwsmer Cudd a oedd yn profi eu sgiliau wrth ddelio â chwsmeriaid. Dyma eich cyfle chi i gyfrannu at gynnal y safon uchel yma.
Byddwch yn ein cynorthwyo i gyfoethogi profiad y rhai sy’n ymweld â’r adeilad a cheisio eu hadborth am ein gwasanaeth.
Am ragor o wybodaeth am gynllun gwirfoddoli’r Llyfrgell Genedlaethol, cysylltwch â Gwyneth Davies, Cydlynydd Gwirfoddoli, 01970 632991 neu gwd@llgc.org.uk