Galw am wirfoddolwyr i gefnogi prosiect mapiau degwm Cynefin
DATGANIAD I’R WASG
3-6-2015
Yn ystod Wythnos y Gwirfoddolwyr – 1-7 Mehefin – mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn galw ar fwy o bobl i gymryd rhan ym mhrosiect mapiau degwm Cynefin (cynefin.cymru).
Nod Cynefin yw digido dros fil o fapiau degwm – mapiau plwyf neu dref manwl a gynhyrchwyd rhwng 1838 ac 1947 – er mwyn creu map degwm unedig o Gymru fydd ar gael i’r cyhoedd fel adnodd ar-lein.
Mae angen cymorth i geogyfeirio’r mapiau – i gydlynu data i leoli’r mapiau yn ddaearyddol gywir. Mae angen trawsgrifio dros 36,000 o ddogfennau sy’n cynnwys manylion tirfeddiannwyr, enwau caeau a defnydd o’r tir a’u cysylltu â’r lleoliad perthnasol ar y mapiau. Mae angen cymorth hefyd i dwrio i hanes lleol i ddarganfod straeon yn gysylltiedig â’r mapiau.
Mae’r prosiect, sydd wedi’i gofrestru ar wefan Gwirfoddoli Cymru, ar agor i wirfoddolwyr 12 oed ac yn hŷn. Mae modd i wirfoddolwyr wneud cais am dystysgrif sy’n cydnabod eu cyfraniad i’r prosiect.
Bydd Rheolwr Prosiect Cynefin, Einion Gruffudd, yn cynnal sesiwn am y prosiect yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth ddydd Mercher 1 Gorffennaf am 1.15pm. Mae mynediad yn rhad ac am ddim drwy docyn – cysylltwch â cynefin@llgc.org.uk neu 01970 632 416 am fwy o fanylion.
Mae gwirfoddolwyr yn rhydd i gwblhau’r gwaith ar eu liwt eu hun ac o adref, ond mae cefnogaeth ar gael os oes angen, gan gynnwys gweithdai grŵp, canllawiau defnyddwyr a sesiynau tiwtorial un-wrth-un gyda staff y Llyfrgell.
Meddai Einion Gruffudd: “Ry’n ni’n gobeithio bydd Cynefin yn apelio at gynulleidfa eang gan fod y prosiect yn ymwneud ag ystod o bynciau diddorol, o ddaearyddiaeth ac enwau lleoedd i hanes cymdeithasol a hanes lleol. Ar ben hynny, mae gwirfoddolwyr yn gallu gweithio adref, pryd bynnag sy’n gyfleus iddyn nhw.
“Ry’n ni’n falch dros ben fod Cynefin wedi’i gofrestru ar wefan Gwirfoddoli Cymru ac ry’n ni’n edrych ymlaen at gyrraedd cynulleidfaoedd newydd yn ystod Wythnos y Gwirfoddolwyr.”
Diwedd
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Lydia Whitfield ar LWhitfield@effcom.co.uk neu 02920 838 315
Nodiadau i’r golygydd
- Mae prosiect Cynefin yn cael ei arwain gan Archifau Cymru mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chasgliad y Werin. Arienir y prosiect yn bennaf gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru trwy CyMAL, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Archifau Cymru.
- Lansiwyd Cynefin ym mis Tachwedd 2014 a’r bwriad yw cwblhau’r prosiect erbyn diwedd Medi 2016. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar cynefin.cymru neu fe allwch ddilyn y prosiect ar Trydar, @ProsiectCynefin, neu mae croeso i chi gysylltu â cynefin@llgc.org.uk neu 01970 632 416.
- Mae mwy o fanylion am Wythnos y Gwirfoddolwyr
- Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth yn gartref i dros bedair miliwn o gyfrolau printiedig, gan gynnwys sawl llyfr prin megis y cyfieithiad Cymraeg cyntaf o’r Beibl cyflawn (1588).