Symud i'r prif gynnwys

Dirprwy Weinidog yn ail-agor adeilad yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn dilyn gwaith adfer

Heddiw, ail-agorwyd rhan o drydydd adeilad y Llyfrgell yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth gan y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Ken Skates.

Bu i 6 llawr o swyddfeydd yn bennaf gael eu dinistrio yn rhannol gan dân a dorrodd allan ar do y Llyfrgell ar brynhawn dydd Gwener 26 Ebrill, 2013. Gyda chymorth gan Llywodraeth Cymru, mae’r Llyfrgell bellach yn medru defnyddio’r ardal hon yn dilyn proses o adfer dwys.

Bu i’r tân ennyn ton o bryder cyhoeddus ynghylch y Llyfrgell, sydd yn gofalu am ystod eang o eitemau aml-gyfrwng gan gynnwys cyhoeddiadau, archifau a threftadaeth ddogfennol; deunyddiau clywedol, ffilmiau a recordiau sain; peintiadau, ffotograffau a gweithiau celf. Mae’r Llyfrgell yn gartref hefyd i drysorau Cymru megis Cyfreithiau Hywel Dda, Llawysgrifau Peniarth, sy’n cynnwys y llawysgrif Gymraeg gynharaf, Llyfr Du Caerfyrddin, yn ogystal â llawysgrif gynnar o Chwedlau Caergaint Geoffrey Chaucer.

Wrth ddadorchuddio plac i nodi'r achlysur, dywedodd y Dirprwy Weinidog:

"Roedd y  don o bryder yn dilyn tân yn 2013 yn dangos gwerthfawrogiad a chefnogaeth y cyhoedd ar gyfer y Llyfrgell Genedlaethol fel un o'n sefydliadau cenedlaethol pwysig ac yn ei rôl wrth amddiffyn a gofalu am lawer o'n trysorau cenedlaethol.

"Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cyfrannu bron i £ 2.5 miliwn  i'r Llyfrgell wrth atgyweirio'r rhan yma o'r adeilad. Hoffwn ganmol staff y Llyfrgell am eu harbenigedd a'u hymroddiad i adferiad y Llyfrgell, ac wrth barhau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i ddefnyddwyr ac ymwelwyr drwy gydol cyfnod heriol.

"Rwy'n gobeithio y bydd y cyfleusterau newydd yma yn helpu i ddatblygu prosiectau newydd a chyffrous a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd a sicrhau fod y Llyfrgell yn mynd o nerth i nerth."


Ychwanegodd Syr Deian Hopkin, Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Mae’n bleser gen i fel Llywydd groesawu Ken Skates, y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i’r Llyfrgell heddiw i ailagor rhan o’r adeilad sydd wedi’u hadnewyddu yn dilyn y tân difrifol ar 26ain Ebrill 2013. Heb gymorth Llywodraeth Cymru ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl ac yr ydym yn ddiolchgar i'r Dirprwy Weinidog am ei gefnogaeth barhaus”.

“Rhaid hefyd i mi ddiolch i staff y Llyfrgell am eu hamynedd ac ewyllys da yn ystod y cyfnod ers y tân gan weithio’n ddygn dan amgylchiadau digon anodd ar adegau”

Mae’r gwaith adnewyddu yn gam mawr ymlaen i’r Llyfrgell wrth wella cyflwr yr adeilad, sydd angen buddsoddiad aruthrol. Mae gan y Llyfrgell gynlluniau eraill i ddatblygu'r adeilad
a’r gwasanaeth a gynigir ymhellach, ymgysylltu â’i chynulleidfaoedd presennol ac estyn allan i gynulleidfaoedd newydd yng Nghymru a thu hwnt.

Yn ystod ei ymweliad, bu i’r Gweinidog hefyd ymweld ag Ystafell Ddarllen y De i ddathlu Achrediad Gwasanaethau Archifau: cynllun safon ansawdd y DU gyfan.

Meddai Avril Jones, Cyfarwyddwraig Casgliadau a Rhaglenni Cyhoeddus y Llyfrgell:

“Mae’r achrediad yn gydnabyddiaeth sylweddol o’r ffordd y mae’r Llyfrgell yn llwyddo i warchod treftadaeth archifol gyfoethog Cymru a sicrhau mynediad i’r archif honno. Mae’r achrediad hefyd yn adlewyrchu sgiliau a gofal ein gweithlu ymroddedig.

“Fel rhan o’r broses o sicrhau’r achrediad, fe gafodd bob agwedd ar ein gwasanaeth rheoli casgliadau ei graffu - ac mae’n dda gennym ddweud i'r gwasanaeth hwnnw gyrraedd y safonau disgwyliedig. Mae’r achrediad hefyd yn gydnabyddiaeth o’r ffordd yr ydym yn cwrdd ag anghenion ein defnyddwyr, yn y Llyfrgell ei hun ac ar-lein.”

Gwybodaeth Bellach: Elin Hâf-01970 632471 neu post@llgc.org.uk
Cyfle am luniau: 12.15 p.m.