Dewch â'ch straeon, lluniau a llythyrau am y Wladfa i'r Llyfrgell Genedlaethol
DATGANIAD I’R WASG
10.06.15
Mae gwahoddiad i aelodau'r cyhoedd fynychu digwyddiad arbennig yn y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth ar ddydd Gwener 19 Mehefin i rannu unrhyw straeon, lluniau, dogfennau a gwrthrychau sy’n gysylltiedig â Phatagonia.
Bwriad y digwyddiad - sy'n rhan o arddangosfa newydd sy'n cofio 150 mlynedd ers sefydlu cymuned Gymraeg Patagonia - yw cryfhau’r wybodaeth am y Wladfa sydd eisoes ar gael ar-lein, ar wyddoniadur Wicipedia a gwefan Casgliad y Werin Cymru.
Yn ystod y digwyddiad, sy’n cychwyn am 10.00am, bydd staff y Llyfrgell ar gael i ddangos sut i olygu erthyglau Wicipedia yn y Gymraeg a'r Saesneg. Bydd peiriant sganio hefyd ar gael i wneud copïau digidol o unrhyw ddogfennau er mwyn eu cyhoeddi ar-lein.
Mae cynlluniau ar y gweill i gysylltu â golygyddion Wicipedia ym Mhatagonia er mwyn cryfhau erthyglau Sbaeneg perthnasol.
Jason Evans, Wicipediwr preswyl y Llyfrgell Genedlaethol, sy’n cydlynu'r digwyddiad. Yn ei rôl blwyddyn o hyd, sy’n cael ei hariannu gan y Llyfrgell a Wikimedia UK, mae Jason yn trefnu cyfres o ddigwyddiadau i gryfhau cynnwys am Gymru ar Wicipedia. Mae Jason hefyd yn cydweithio gyda'r Llyfrgell i rannu cynnwys digidol gyda Wicipedia.
Meddai Jason Evans: “Mae cryn ddiddordeb wedi bod yn arddangosfa ‘Gwladfa’ ac mae aelodau'r cyhoedd eisoes wedi dechrau cynnig hen ffotograffau ac ati sy'n gysylltiedig â Phatagonia.
“Mae'r digwyddiad yma yn gyfle arall i ddarganfod deunydd newydd ar gyfer Wicipedia a Chasgliad y Werin. Mae’n gyfle, hefyd, i aelodau'r cyhoedd sydd â diddordeb mewn datblygu adnoddau 'gwybodaeth agored' ar gyfer y we i dderbyn cefnogaeth a hyfforddiant yn rhad ac am ddim."
Mae arddangosfa ‘Gwladfa’ yn dilyn hynt a helynt yr ymfudwyr cyntaf i Batagonia, o’u breuddwydion am fywyd gwell a mordaith y Mimosa i’r glaniad ar 26 Gorffennaf 1865 a sialensiau eu blynyddoedd cynnar ar y paith.
Mae Beibl Cymraeg a gludwyd ar y Mimosa ar fenthyg i’r Llyfrgell ar gyfer yr arddangosfa, sy’n parhau hyd at 12 Rhagfyr. Mae llawysgrifau a gwaith celf o gasgliadau’r Llyfrgell ei hun hefyd yn rhan o’r arddangosfa.
Cysylltwch â Jason Evans jje@llgc.org.uk er mwyn cyfrannu at y digwyddiad.
Diwedd
Am fwy o wybodaeth y wasg cysylltwch â Hannah Thomas ar hannehelinor@googlemail.com neu 07810 794853 neu Lydia Whitfield yn Effective Communications ar LWhitfield@effcom.co.uk neu 07890 953402
Nodiadau i’r golygydd
- Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi’i lleoli ar Allt Penglais, Aberystwyth. Mae arwyddion i’r Llyfrgell o’r brif ffyrdd i mewn i’r dref.
- Mae’r Llyfrgell yn gartref i dros bedair miliwn o gyfrolau printiedig, gan gynnwys sawl llyfr prin megis y cyfieithiad Cymraeg cyntaf o’r Beibl cyflawn (1588).
- Mae modd i aelodau’r cyhoedd olygu’r gwyddoniadur arlein rhydd, Wikipedia
- Gwefan yw Casgliad y Werin Cymru sy’n llawn lluniau diddorol, recordiau sain, dogfennau, ffilmiau fideo a straeon am hanes ac etifeddiaeth Cymru a’i phobl.
- Mae mwy o wybodaeth am hanes y Cymry ym Mhatagonia ar gael ar y wefan dairieithog, Glaniad