Symud i'r prif gynnwys

Datgelu 150 O Ffilmiau Am Fywyd Yng Nghymru Am Y Tro Cyntaf
Lansio Prydain Ar Ffilm Ar BFI Player

#BritainonFilm

7 Gorffennaf 2015

Heddiw mae’r BFI yn lansio Prydain Ar Ffilm, prosiect newydd sy’n datgelu hanesion cudd a straeon angof pobl a llefydd o brif archifau ffilm a theledu’r DU.  O heddiw ymlaen bydd yr archif yn ddigidol ar BFI Player, gan sicrhau bod pawb yn y DU yn gallu chwilio am filoedd o ffilmiau a rhaglenni teledu am ble maent wedi byw, tyfu i fyny, mynd i’r ysgol, eu teulu a’u ffrindiau – neu unrhyw bwnc o ddiddordeb – a’u gwylio. Erbyn 2017, diolch i gyllid y Loteri Genedlaethol a chefnogaeth Sefydliad Esmée Fairbairn, bydd 10,000 o ffilmiau a rhaglenni teledu sy’n dyddio o 1895 hyd heddiw ar gael yn ddigidol.

Drwy gyfrwng y prosiect, mae curaduron Prydain Ar Ffilm wedi canfod cynnwys rhyfeddol am bobl gyffredin, ac wedi ei droi’n ddigidol.

Dyma rai o uchafbwyntiau Cymru:

Men Against Death (1933) – y ffilm sain gyntaf erioed i gael ei gwneud a’i lleoli yng Nghymru, gyda Chwarel Dorothea a’i chwarelwyr sydd wedi’u dal “rhwng nef a daear”.                                                         

Tryweryn – A Story of a Valley (1969) – ffilm ddogfen gan blant ysgol am y digwyddiadau a arweiniodd at foddi Capel Celyn, gan gynnwys y diwrnod olaf un yn ysgol y pentref.

Letter from Wales (1953) – drama hyfryd yn yr iaith Gymraeg a gynhyrchwyd ar gyfer y Children’s Film Foundation, wedi’i lleoli yn Llandwrog a’r cyffiniau ac yn cynnwys cyfuniad hapus o blant, anifeiliaid ac oedolion hynaws.

Tiger Bay and the Rainbow Club (1960) – ffilm fud yn dangos bywyd yng nghymuned amrywiol Tiger Bay, yn dathlu priodasau a phlant yn mwynhau tripiau a gweithgareddau yn y Rainbow Club lleol.

Time of Change (1967) – stori am ddau weithiwr yn yr Anglo Celtic Watch Company yn Ystradgynlais, sy’n cael ei adnabod yn lleol fel ‘Y Tic Toc’.

Dulais Valley - casgliad syfrdanol o ddathliadau cymunedol yn ardal Onllwyn rhwng y 1950au a’r 1970au. Ffilmiwyd mewn lliw gan bobydd o fri, John Dillwyn Williams. Mae Hywel Francis, AS Aberafon rhwng 2001 a 2015, i’w weld yn y ffilm fel bachgen ifanc.

Babs’ Recovery (1969) – ffilm gan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn dangos y gwaith o dyllu am Babs, y car rasio, o dywod Pentywyn wedi’r gwrthdrawiad a laddodd John Godfrey Parry Thomas o Wrecsam yn 1927 wrth iddo geisio trechu’r record cyflymder ar y tir.

Mae’r casgliad newydd hygyrch yma o ffilmiau a rhaglenni teledu’n cyflwyno Prydain sy’n hyfyw, yn amrywiol ac yn ecsentrig ac mae’n taflu golau ar faterion a sefyllfaoedd sy’n effeithio ar bob cenhedlaeth. Nid yw llawer o’r ffilmiau hyn wedi cael eu gweld erioed – neu ddim ond ambell waith – ond nawr mae posib eu gweld a chwilio am leoliadau penodol yn y DU drwy gyfrwng Map Ffilm a Theledu newydd arloesol y BFI Player o’r DU.                                            

Drwy gyfrwng Prydain Ar Ffilm datgelir portread ingol ac agos o amrywiaeth bywyd Prydain gan luniau proffesiynol ac amatur o dirluniau coll, cymunedau trefol a gwledig, traddodiadau hanesyddol a llen gwerin, pobl wrth eu gwaith ac yn chwarae, a chymeriadau Prydeinig yn eu holl ogoniant. Mae ffilmiau newyddion, hysbysebion, ffilmiau cartref, sioeau teledu yr anghofiwyd amdanynt, a ffilmiau gan adrannau’r llywodraeth i gyd yn cynnig gwybodaeth ryfeddol am fywyd ym Mhrydain yn yr 20fed ganrif.  

Dywedodd Robin Baker, Prif Guradur y BFI: ‘Ers 120 o flynyddoedd mae camerâu wedi bod yn tynnu lluniau o bob agwedd ar fywyd y DU mewn ffilm, ond yn rhy aml nid yw’r rhain wedi bod ar gael. Nawr mae Prydain Ar Ffilm yn trawsnewid y mynediad at ffilmiau archifau’r DU ac yn sicrhau eu bod ar gael, dim ots ble rydych chi’n byw’.

Mae Archif Sgrin a Sain Cymru wedi ymuno â’r BFI i weithio ar y prosiect Prydain Ar Ffilm. Dywedodd y Swyddog Datblygu Ffilmiau, Iola Baines:

“Mae darnau anhygoel o ffilm am Gymru yma, prin wedi’u gweld tan rŵan, ac maen nhw hefyd yn dweud cymaint wrthym ni am ein hanes a’n cymunedau. Mae Prydain Ar Ffilm wedi galluogi i ni ddatgloi treftadaeth byd y ffilmiau a rhannu’r lluniau pwerus hyn gyda’r cyhoedd yn gyffredinol. Nawr bydd posib i ni astudio’r tirluniau a’r strydoedd ble cawsom ni ein magu, cymunedau’r genhedlaeth a fu, a diwylliannau a thraddodiadau sydd wedi hen ddiflannu bellach.”

Ychwanegodd Heather Stewart, Cyfarwyddwr Creadigol y BFI: ‘Mae pŵer emosiynol ffilm yn enfawr ac mae Prydain Ar Ffilm yn gallu cyffwrdd pawb yn y DU. Mae’n hanfodol bod yr archifau ffilm a theledu yn y DU – casgliad cenedlaethol Prydain – yn cael eu mwynhau gan bawb. Mae Prydain Ar Ffilm yn newid y tirlun archif ffilm a theledu am byth. Nawr rydyn ni wedi creu ffordd i’r cyhoedd ym Mhrydain ddarganfod a gweithio gyda’u treftadaeth mewn ffordd na welwyd ei thebyg o’r blaen.

Mae graddfa unigryw y prosiect hwn yn dyst i’r ymdrech a’r sgiliau ar y cyd gan Archif Genedlaethol y BFI ac archifau rhanbarthol a chenedlaethol y DU.”

Mae Prydain Ar Ffilm yn ganlyniad i uno Archif Genedlaethol y BFI â’r naw archif sgrin cenedlaethol a rhanbarthol yn y DU er mwyn dod â’r ffilmiau hyn at ei gilydd gyda rhaglen gasglu a digideiddio fawr a ddechreuodd yn 2012 ac sy’n para tan ddiwedd 2017.

DANGOSIADAU RHANBARTHOL

Mae Canolfan Ffilm Cymru - un o naw Canolfan Ffilm (Film Hubs) ar draws y DU sy'n rhan o Rwydwaith Cynulleidfaoedd Ffilm y BFI (menter FAN) - yn trefnu cyfres o ddangosiadau 'Gwnaed yng Nghymru' er mwyn rhannu ffilmiau byr Prydain ar Ffilm, i'w cynnal o Dachwedd 2015 hyd Ionawr 2016. Trefnir dangosiadau a digwyddiadau yng Nghanolfan Celfyddydau'r Memo, Y Barri; Chapter,Caerdydd; Neuadd Gwyn, Castell Nedd; Canolfan Gelfyddydau Glan yr Afon, Casnewydd; Canolfan Gelfyddydau Taliesin, Abertawe a rhagor o ganolfannau i'w cadanrhau.

PRYDAIN AR FFILM A DATGLOI’R DREFTADAETH O FFILMIAU

Prydain ar Ffilm yw un o’r prosiectau archifol mwyaf, a mwyaf cymhleth, i’w roi ar waith erioed ac mae’n rhan o raglen Datgloi Treftadaeth Ffilm y BFI (2013-17). Mae datgloi treftadaeth ffilm i bawb yn y DU ei mwynhau yn flaenoriaeth strategol allweddol i'r BFI a ‘Prydain ar Ffilm’ yw lansiad cyhoeddus y rhaglen waith helaeth, sydd wedi bod ar droed ers dros dair blynedd. Mae’r gwaith hwn wedi cynnwys rhaglen soffistigedig o gasglu data a’u catalogio, copïo i safonau archifol, gwarchod manwl ar ddeunyddiau gwreiddiol, chwilio’n drwyadl drwy archifau ledled y wlad, offer newydd cwbl fodem a chyfleusterau storio digidol, a throsglwyddo ffilmiau i lwyfan ar-lein y BFI, sef BFI Player.  
Mae Datgloi Treftadaeth Ffilm a Phrydain Ar Ffilm yn digwydd diolch i gyllid o £15 miliwn gan y Loteri Genedlaethol a chefnogaeth ychwanegol gan Fudiad Esmée Fairbairn.

DIWEDD

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Jane Thomas ar 07967 351 827 neu hello@janethomaspr.com.

Mae posib lawrlwytho clipiau a lluniau. Cysylltwch â Jane Thomas i drefnu hynny.

Ymunwch â’r sgwrs ar #BritainOnFilm

Prosiect gan Archif Genedlaethol y BFI ac Archifau Ffilm Rhanbarthol a Chenedlaethol y DU yw Prydain Ar Ffilm

Am yr Archifau Ffilm Rhanbarthol a Chenedlaethol

Mae gan Archifau Ffilm Rhanbarthol Lloegr ac Archifau Ffilm Cenedlaethol eraill (a restrir isod) gasgliadau sylweddol o ddeunyddiau ffilm a fideo sy’n benodol berthnasol i’w rhanbarthau. Hefyd  mae ganddynt gasgliadau penodol, fel Amgueddfeydd Coffa’r Rhyfel, wedi’u cadw mewn cyfleusterau storio arbenigol ac ar gael yn eang ar gyfer addysg, ymchwil, cymunedau a’r cyhoedd yn ehangach.  

Archif Ffilm Dwyrain Anglia
Amgueddfeydd Coffa’r Rhyfel     
Archifau Sgrin Llundain                     
Archif Cyfryngau ar gyfer Canolbarth Lloegr ym Mhrifysgol Lincoln    
Archif Ffilm Gogledd Ddwyrain Lloegr
Archif Ffilm Gogledd Orllewin Lloegr ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion
Archif Ffilm Ddigidol a Sgrin Gogledd Iwerddon                    
Archif Sgrin yr Alban                    
Archif Sgrin De Ddwyrain Lloegr             
Archif Ffilm a Theledu De Orllewin Lloegr  
Archif Sgrin a Sain Genedlaethol Cymru                 
Archif Ffilm a Sain Wessex                    
Archif Ffilm Swydd Efrog

Am y BFI

Y BFI yw’r prif sefydliad ffilm yn y DU a’i uchelgais yw creu amgylchedd ffilm ffyniannus ble mae arloesi, cyfle a chreadigrwydd yn gallu ffynnu, drwy wneud y canlynol:

  • Cysylltu cynulleidfaoedd â’r dewis ehangaf o sinema o Brydain a’r Byd
  • Gwarchod ac adfer y casgliadau ffilm mwyaf arwyddocaol yn y byd ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol    
  • Hyrwyddo gwneuthurwyr ffilmiau newydd o safon byd yn y DU – buddsoddi mewn gwaith creadigol, nodedig ac adloniadol           
  • Hybu ffilmiau a thalent Prydain ledled y byd    
  • Meithrin y genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr ffilmiau a’r gynulleidfa

Mae’r BFI yn gorff hyd braich i’r Llywodraeth ac mae’n dosbarthu cyllid y Loteri i’r byd ffilm. Mae’r BFI yn cyflawni rôl gyhoeddus sy’n cynnwys yr agweddau diwylliannol, creadigol ac economaidd ar ffilm yn y DU. Mae’n cyflawni’r rôl hon:

  • Fel y sefydliad ledled y DU ar gyfer ffilm ac elusen sy’n cael cyllid craidd gan y Llywodraeth
  • Drwy ddarparu arian y Loteri a’r Llywodraeth i ffilmiau ledled y DU
  • Drwy weithio gyda phartneriaid er mwyn hybu sefyllfa’r byd ffilmiau yn y DU.

Sylfaenwyd y BFI yn 1933 ac mae’n elusen gofrestredig a lywodraethir gan Siarter Brenhinol.

Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr y BFI yw Greg Dyke.

Am Archif Genedlaethol y BFI  

Am Fudiad Esmée Fairbairn               
Nod Mudiad Esmée Fairbairn yw gwella ansawdd bywyd pobl a chymunedau ledled y DU nawr ac yn y dyfodol. Rydym yn gwneud hyn drwy gyllido gwaith elusennol sefydliadau sydd â syniadau a gallu i greu newid cadarnhaol. Rydym yn falch o fod yn cefnogi Prydain Ar Ffilm - prosiect archif ffilm arwyddocaol ledled y DU. Bydd yn sicrhau bod teitlau o Archif Genedlaethol y BFI a’r archifau sgrin cenedlaethol a rhanbarthol ar gael i’r cyhoedd ym Mhrydain, gan gynnig cyfle unigryw am wybodaeth ac adlewyrchu ar lefydd, cymunedau a hanes ledled y DU.                                

Y Mudiad yw un o’r dyfarnwyr grantiau annibynnol mwyaf yn y DU. Rydym yn rhoi grantiau rhwng £30 a £35 miliwn bob blwyddyn tuag at amrywiaeth eang o waith ym myd y celfyddydau, gyda phlant a phobl ifanc, yr amgylchedd a newid cymdeithasol. Hefyd rydym yn gweithredu Cronfa Gyllid o £26 miliwn sy’n buddsoddi mewn sefydliadau sy’n ceisio sicrhau elw ariannol a budd cymdeithasol.