Datganiad gan Syr Deian Hopkin, Llywydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
“Mae Bwrdd Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi derbyn Barn Ohiriedig y Tribiwnlys Cyflogaeth a gynhaliwyd fis Awst a Hydref 2014 yn Hwlffordd. Yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd ar 13 Mawrth byddwn yn cynnig sefydlu archwiliad annibynnol i ystyried oblygiadau’r Farn hon ac er mwyn adolygu’r prosesau a arweiniodd at yr achos.”
Pedr ap Llwyd (pal@llgc.org.uk)
Ysgrifennydd a Phennaeth Llywodraethiant
LlGC
17 Chwefror 2015