Cymharu’r degwm gydag amaethyddiaeth fodern
Yn ddiweddar mae prosiect Cynefin, sy’n digido holl fapiau degwm Cymru, wedi bod yn cydweithio gydag Undeb Amaethwyr Cymru i gymharu system y degwm gyda gwefannau amaethyddol modern.
Mae ffermwyr heddiw yn gallu cofnodi enwau caeau ar systemau fel Taliadau Gwledig Cymru Ar-lein neu IACS, tra yn yr 1840au roedd enwau caeau yn cael eu cofnodi ar restrau pennu’r degwm. Roedd y dogfennau yma’n cyfeirio at y mapiau degwm a gafodd eu creu yn dilyn deddf Cymudo’r Degwm yn 1836. Mae’r wybodaeth yma ar gael i bawb i’w weld heddiw ar wefan cynefin.cymru.
Fe grëwyd y mapiau degwm i bennu faint o ddegwm roedd yn rhaid i ddefnyddwyr tir ei dalu. Mae gan bob map degwm restr pennu sy’n nodi pwy oedd yn byw ar y tir, pwy oedd yn berchen arno, a hefyd pa ddefnydd wnaed o’r tir. Wrth edrych ar y dogfennau a’r mapiau yma heddiw gallwch weld tystiolaeth o ffermio sylweddol oedd yn digwydd ar draws Cymru yn yr 1840au, gan gynnwys rhannau helaeth o’r ucheldiroedd. Mae tiroedd coediog yn cael eu dangos yn glir a gellir gweld er enghraifft ble mae coedwigoedd heddiw ar ardaloedd a arferid ei amaethu yn y gorffennol.
Dywedodd Rheolwr Prosiect Cynefin, Einion Gruffudd “Mae enwau’r caeau yn adrodd hanesion o’r gorffennol, gan gynnwys cyfeiriadau at hen ddulliau o amaethu, neu gnydau a arferwyd eu tyfu ar y tir. Gallwch gymharu defnydd tir presennol gyda’r gorffennol ar y wefan. Amcan prosiect Cynefin ydy casglu’r holl wybodaeth am enwau pobl a chaeau a defnydd tir yn yr 1840au a’i wneud yn hawdd i’w chwilio ar draws Cymru gyfan.”
Mewn partneriaeth gydag Undeb Amaethwyr Cymru, mae mapiau degwm Cymru wedi bod ar daith drwy’r wlad, drwy gael eu harddangos mewn sioeau amaethyddol lleol dros yr haf. Bydd taith y mapiau degwm yn gorffen yn Sioe Brynbuga/Usk ddydd Sadwrn y 12fed o Fedi, lle bydd cyfle i weld y map degwm lleol ar stondin Undeb Amaethwyr Cymru.
Am wybodaeth bellach cysylltwch ag Einion Gruffudd neu Carys Evans
Einion Gruffudd: 01970 632 842 einion.gruffudd@llgc.org.uk
Carys Evans: 01970 632 416 carys.evans@llgc.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
- Mae delweddau i gyd-fynd a’r erthygl ar gael ar gais.
- Cynefin: Mapio Ymdeimlad o Le yng Nghymru
- Arweinir y prosiect hwn gan Archifau Cymru mewn partneriaeth gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chasgliad y Werin. Ariennir y prosiect yn bennaf gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru trwy’r Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Archifau Cymru.
- Dechreuodd prosiect Cynefin ym mis Tachwedd 2014, a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Medi 2016. I gael rhagor o wybodaeth ewch i'r wefan cynefin.cymru; dilynwch Cynefin ar twitter,@ProsiectCynefin, neu cysylltwch â cynefin@llgc.org.uk neu 01970 632 416.
- Mae mwy o wybodaeth am Undeb Amaethwyr Cymru