Comisiynu Adolygiad Annibynnol Allanol
Bwrdd Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Datganiad i’r Wasg
13 Mawrth 2015
Comisiynu Adolygiad Annibynnol Allanol
Mae Bwrdd Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ei gyfarfod heddiw (13 Mawrth 2015) wedi comisiynu adolygiad annibynnol allanol mewn perthynas â gweithredu polisi disgyblu’r Llyfrgell a arweiniodd at wrandawiad tribiwnlys cyflogaeth yn ddiweddar.
Yn ôl Syr Deian Hopkin, Llywydd:
“Pwrpas yr adolygiad yw asesu’n feirniadol y prosesau a’r penderfyniadau a wnaed gan staff y Llyfrgell a gan y rhai a gynrychiolai’r sefydliad a arweiniodd at Ddyfarniad Gohiriedig y Tribiwnlys a ddyfarnodd o blaid y ddau hawlydd.”
Bydd yr adolygiad yn:
- Cloriannu’r dyfarniad a barn y Barnwr Cyflogaeth gan roi sylw penodol i weithdrefnau’r Llyfrgell ac i ymddygiad ei swyddogion.
- Asesu ymchwiliadau’r Llyfrgell a’r modd y cafodd ei pholisi disgyblu ei ddehongli a’i weithredu gan yr uned Adnoddau Dynol a’r Prif Weithredwr a Llyfrgellydd.
- Asesu ymddygiad y Llyfrgell yn ystod y broses a arweiniodd at yr achos tribiwnlys ac yn ystod gwrandawiad ei hun.
- Edrych ar y cyngor a dderbyniodd y Llyfrgell gan ei ymgynghorwyr cyfreithiol yng ngoleuni’r sylwadau a fynegwyd gan y Barnwr Cyflogaeth.
- Nodi’r gwersi gallai’r Llyfrgell ei dysgu o’r profiad hwn ac edrych a yw’r gweithdrefnau presennol yn addas i’r diben.
- Cadarnhau, er gwaetha’r dyfarniad a gaed, a oedd y camau a gymerwyd gan y Llyfrgell yn rhesymol ai peidio.
Fe ddylai’r adolygiad gael ei gynnal o fewn cyfnod byr ac o fewn yr amserlen a gytunwyd ac yna’i gyflwyno i’r Bwrdd Ymddiriedolwyr.
Pedr ap Llwyd
Ysgrifennydd, Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
Manylion cyswllt:
Rhiain Williams
Rhiain.williams@llgc.org.uk
01970 632 534