Symud i'r prif gynnwys

Codi bwganod, ac atgyfodi'r gorffennol

31 Mawrth 2015

Datgelu cyfrinachau newydd mewn llawysgrif sy’n cynnwys rhai o’r cyfeiriadau cynharaf at y Brenin Arthur a Myrddin...

Mae gwaith ymchwil a delweddu newydd ar un o lawysgrifau canoloesol pwysicaf Cymru wedi arwain at ymddangosiad drychiolaethau rhyfedd a llinellau o farddoniaeth newydd ar y memrwn hynafol, arysgrifau oedd wedi eu dileu rywbryd yn y gorffennol.

Dyddia Llyfr Du Caerfyrddin yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru o’r flwyddyn 1250, a hi yw’r llawysgrif Gymraeg gynharaf a feddwn. Mae’r gyfrol yn cynnwys rhai o’r cyfeiriadau cynharaf at y Brenin Arthur a Myrddin, a hynny mewn barddoniaeth grefyddol a seciwlar sy’n dyddio o’r 9fed hyd y 12fed ganrif. Gellir olrhain gwreiddiau’r cerddi i draddodiadau am arwyr y Cymry, a chwedlau’r Oesoedd Tywyll.

Er i ysgolheigion astudio cynnwys y gyfrol ers degawdau, a sylweddoli ei phwysigrwydd, mae gwaith newydd gan fyfyrwraig PhD o Brifysgol Caergrawnt yn taflu goleuni newydd ar farddoniaeth y Llyfr Du. Cred Myriah Williams a’i chyfarwyddwr, yr Athro Paul Russell o Adran Eing-Sacsoneg, Norseg a Chelteg Caergrawnt fod un o berchnogion y Llyfr Du yn oes y Tuduriaid, sef gŵr o’r enw Jaspar Gryffyth o Ruthun yn ôl pob tebyg, wedi mynd ati’n fwriadol i ddileu o’r gyfrol gerddi ychwanegol, darluniau a nodiadau ymyl-y-ddalen. Roedd y darnau hyn wedi eu hychwanegu at y gyfrol tros y blynyddoedd wrth i’r llawysgrif dreiglo o law i law.

Trwy ddefnyddio cyfuniad o oleuni uwch-fioled a meddalwedd golygu lluniau, mae’r ymchwilwyr wedi mynd dan groen ymgais y perchennog Tuduraidd i gael gwared ar ychwanegiadau i’r llawysgrif. Trwy wneud hynny maent wedi dod a darnau o farddoniaeth i’r golwg unwaith eto, cerddi unigryw nad ydynt wedi eu cadw mewn llawysgrifau eraill. Ar hyn o bryd, darniog yw’r cerddi, ac mae angen eu dadansoddi ymhellach, ond ymddengys eu bod yn cynnwys diwedd un gerdd a dechrau un arall.

Yn ôl Williams: “Tueddwn i gymryd yn ganiataol ein bod yn gwybod popeth am lawysgrif fel y Llyfr Du, ond dychmygwch ein cyffro o weld ysbrydion o’r gorffennol yn raddol ymddangos o flaen ein llygaid. Mae’r darluniau a’r cerddi yr ydym yn eu graddol ddatgelu yn dangos yn eglur y pwysigrwydd o ail-gloriannu llyfrau o’r math yma.

Mae ymylon dail llawysgrifau’n aml yn cynnwys ymatebion canoloesol a modern i’r testun, ac mae’r rhain yn datgelu beth fyddai’n mynd trwy feddyliau ein hynafiaid wrth iddynt ddarllen. Ychwanegwyd nifer o nodiadau at y Llyfr Du cyn diwedd oes y Tuduriaid, ac mae datgelu’r testun cudd hwn yn dweud llawer wrthym am yr hyn oedd yn y llawysgrif. Yn wir, gall newid ein dirnadaeth o’i chynnwys.”

Bydd Williams a Russell yn traddodi darlith yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ddydd Mercher fel rhan o dymor arddangosfa ar fywyd a gwaith Syr Siôn Prys, un o gyn-berchnogion y Llyfr Du. Yn y ddarlith, byddant yn datgelu rhai o’u darganfyddiadau, ac yn pwysleisio’r angen i barhau i astudio’r llawysgrif.

Yn ôl yr Athro Russell: “Prin godi’r clawr yr ydym ar yr hyn y gellir ei ganfod wrth i dechnegau delweddu gael eu datblygu yn y dyfodol. Fe wyddom fod y llawysgrif hon yn werthfawr ac yn bwysig iawn, ond mae lle i amau nad ydym eto’n deall llawer amdani.”

Nid creadigaeth ysblennydd mo’r Llyfr Du, er mor werthfawr ydyw. Cafodd ei enwi oherwydd lliw ei glawr, ac mae’n waith un ysgrifydd a oedd yn casglu a chofnodi trwy gydol oes faith, yn ôl pob tebyg. Gellir gweld olion hynny ar ddail y llawysgrif: mae script ffurfiol y dalennau cyntaf yn fawr o ran maint, ac yn gorffwys ar linellau rhiwl. Mewn rhannau eraill o’r llawysgrif - efallai oherwydd prinder memrwn – mae’r llawysgrifen yn llawer llai, ac mae llawer o linellau tynn i bob tudalen.

Llafur cariad oedd y Llyfr Du yn ôl pob tebyg, ac adlewyrchir hynny yn yr amrywiaeth sydd ynddo, o ganu crefyddol i ganu mawl, a hefyd ganu chwedlonol. Un enghraifft o’r categori olaf hwn yw’r gerdd gynharaf i adrodd am helyntion yr Arthur chwedlonol. Ynddi, mae’r arwr enwog yn ceisio mynediad i lys dienw, ac yn canmol priodoleddau ei wŷr er mwyn cael mynediad.

Canmolir a choffeir arwyr eraill yn Englynion y Beddau, cadwyn hir o englynion gan fardd sy’n hawlio ei fod yn gwybod am fannau claddu tros 80 o filwyr. Gwna Arthur ymddangosiad yn y gadwyn, gyda’r bardd yn honni nad oes modd canfod bedd hwnnw: annoeth bid bet y arthur.

Mae cymeriadau enwog eraill yn ymddangos yn y Llyfr Du, gan gynnwys Myrddin. Tadogir dwy gerdd broffwydol arno yng nghanol y llawysgrif, a’r ddwy’n deillio o’r cyfnod pan ymddangosai fel ‘dyn gwyllt’. Mae cerdd gynta’r gyfrol yn ymddangos ar ffurf sgwrs rhyngddo â’r bardd Cymraeg enwog, Taliesin. Bu cyswllt rhwng Caerfyrddin a Myrddin ers i Sieffre o Fynwy ysgrifennu ei Historia Regum Britanniae yn y 12fed ganrif, ac efallai nad cyd-ddigwyddiad mo’r ffaith mai’r gerdd hon sydd ar ddechrau’r Llyfr Du.

Bychan yw’r Llyfr, gan fesur tua 17cm wrth 12.5 cm, ac fe’i gwnaed o 54 dalen o femrwn (sef croen anifail). Daeth y gyfrol i’r Llyfrgell Genedlaethol yn 1909 wedi iddi gael ei phrynu ymysg llawysgrifau eraill gan sylfaenydd y Llyfrgell, Syr John Williams.

Dywedodd Dr Aled Gruffydd Jones, Llyfrgellydd a Phrif Weithredwr y Llyfrgell Genedlaethol: “Mae’r darganfyddiad newydd hwn yn hynod gyffrous, ac yn dangos pa fath o ddarganfyddiadau y gellir eu gwneud ymysg hen gasgliadau, a chasgliadau newydd yma yn Aberystwyth. Rydym yn falch o fod yn rhan o’r ymchwil arloesol hwn, a rhannwn falchder tîm Caergrawnt yn eu darganfyddiad.”

Gellir gweld Llyfr Du Caerfyrddin yn arddangosfa gyfredol y Llyfrgell Genedlaethol, ‘Llenor a lleidr? Syr Siôn Prys a’r llyfrau Cymraeg cyntaf’, hyd at 27 Mehefin 2015.

Am ragor o fanylion cysylltwch â post@llgc.org.uk