Symud i'r prif gynnwys

DATGANIAD I’R WASG
21 Mai 2015

Beibl o'r Mimosa ymhlith trysorau'r
Llyfrgell Genedlaethol ar Ŵyl Banc y Sulgwyn


Bydd Beibl Cymraeg a gludwyd ar y Mimosa gan y Cymry cyntaf hynny a deithiodd i Batagonia ym 1865 ymhlith y trysorau fydd i'w gweld yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth ar Ddydd Llun Gŵyl Banc y Sulgwyn, 25 Mai.

Mae'r Beibl ar fenthyg i’r Llyfrgell ar gyfer arddangosfa newydd o’r enw 'Gwladfa' sy'n agor ddydd Sadwrn, 23 Mai.

Mae 'Gwladfa' yn cofio 150 mlynedd ers sefydlu cymuned Gymraeg Patagonia.  Mae'n dilyn hynt a helynt yr ymfudwyr cyntaf, o’u breuddwydion am fywyd gwell i’r glaniad ym Mhorth Madryn ar 26 Gorffennaf 1865 a sialensiau eu blynyddoedd cynnar ar y paith.

Mae’r arddangosfa yn cynnwys llawysgrifau a gwaith celf o gasgliadau’r Llyfrgell.  Ar 19 Mehefin bydd cyfle i aelodau’r cyhoedd ddod â deunydd perthnasol am Batagonia i’r Llyfrgell er mwyn cael cryfhau’r wybodaeth am y Wladfa ar wefannau Wicipedia a Chasgliad y Werin Cymru.

Gwersyll yr Urdd, Llangrannog

Mae hanes mwy diweddar Cymru yn cael ei ddathlu yn 'Llangrannog: Cyfnod Mewn Amser – Jôcs, Jeriws a Joio!' sydd hefyd ar agor i'r cyhoedd ar Ŵyl y Banc.

Mae’r arddangosfa yn dwyn i gof yr hud a lledrith a brofodd cenedlaethau o blant yn y 'gwersyll yn ymyl y lli' trwy gyfrwng ffotograffau o archif yr Urdd sydd wedi’u digido gyda chymorth Casgliad y Werin.

Cofio T. Llew

Fe fyddai un o lenorion mwyaf adnabyddus ac annwyl Cymru, y diweddar T. Llew Jones, yn aml yn ymweld â chriwiau o blant yn Llangrannog i drafod ei lyfrau antur, a bydd cyfle i ddysgu mwy am ei fywyd a’i waith mewn arddangosfa sy'n dathlu canmlwyddiant ei eni.

Yn 'Swyn y Storïwr: Canmlwyddiant T. Llew Jones', mae modd darllen ei ddyddiaduron a dysgu mwy am ei gariad at griced a gwyddbwyll a’i berthynas gyda rhai o fawrion ei oes.

Dilyn y rheilffordd rhwng Aber a Birmingham

I'r rheiny sydd wrth eu bodd â hanes y rheilffyrdd a threnau bydd ffilm arbenning yn cael ei dangos yn rhad ac am ddim yn awditoriwm y Drwm yn y Llyfrgell am 2:00pm Ddydd Llun Gŵyl y Banc.

Mae ‘Of time and the railway’ gan Robert Davies yn dilyn y daith ar dren rhwng Birmingham ac Aberystwyth.  Fe’i recordiwyd o gaban y gyrrwr trên rhwng mis Hydref 2013 a mis Chwefror 2015 ar 86 o wahanol ddyddiau.  Golygwyd y cyfan yn un daith sy’n dangos effaith treigl y tymhorau ar y dirwedd yn ogystal â'r newidiadau i’r ddaearyddiaeth ddynol gerllaw’r trac.
Bydd Robert Davies yn cyflwyno’r ffilm ac mae tocynnau ar gyfer y dangosiad ar gael o siop y Llyfrgell, rhif ffôn 01970 632548.

Syr Siôn Prys

Ymhlith atyniadau eraill y Llyfrgell mae’r arddangosfa 'Llenor a lleidr?' sy'n olrhain hanes Syr Siôn Prys (1502?-1555) a gasglodd lyfrgell bersonol ragorol, gan gynnwys Llyfr Du Caerfyrddin, y llawysgrif Gymraeg hynaf.

Yn yr arddangosfa mae cyfle prin i weld cyfrolau arbennig a ddaeth i feddiant Prys yn dilyn diddymu’r mynachlogydd, sydd ar fenthyg gan Lyfrgell Cadeirlan Henffordd.

Cyfle olaf i fwynhau arddangosfa Shani Rhys James

Bydd ‘Distillation: 30 Mlynedd o Beintio’, arddangosfa gynhwysfawr o waith yr artist Shani Rhys James, yn dirwyn i ben ddiwedd y mis, 30 Mai.  
Mae’r arddangosfa wedi casglu ynghyd gwaith Shani dros y degawdau diwethaf, o’r paentiadau cynnar gwobrwyedig i ddatblygiadau diweddaraf yr artist, gyda darnau wedi’u dewis o blith amgueddfeydd a chasgliadau preifat.  

Bydd Ystafell Ddarllen y Gogledd, Ystafell Ddarllen y De, y siop a'r Caffi Bach hefyd ar agor i'r cyhoedd ar ddydd Llun 25 Mai.  Bydd y Llyfrgell ar agor rhwng 9.30am-5.00pm.

Meddai Dr Aled Gruffydd Jones, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

"Mae hanes yr antur fawr i Batagonia yn un sydd wedi cydio yn nychymyg y Cymry erioed, a bydd ‘Gwladfa’ yn dod â’r hanes hynny’n fyw trwy gyfrwng dyddiaduron, lluniau, llythyrau a mwy.
“Mae Gwladfa yn un o nifer o arddangosfeydd difyr sy’n cael eu cynnal ar hyn o bryd yn y Llyfrgell.  Yn sicr mae rhywbeth at ddant pawb, ac edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr dros Ŵyl Banc y Sulgwyn. "
Diwedd

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: Lydia Whitfield ar lwhitfield@effcom.co.uk