Symud i'r prif gynnwys

Archwilio Archifau

Bu’r Cyflwynydd Teledu Sara Edwards yn ymchwilio i hanes ei theulu fel rhan o ymgyrch Archwiliwch Eich Archif a fydd ymlaen rhwng 14-22 Tachwedd mewn archifau ledled y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.

Mae’r ymgyrch yn annog pawb i ddarganfod y straeon, y ffeithiau, y lleoedd a’r bobl sydd wrth galon ein cymunedau, gyda llawer o archifau yn agor eu drysau a gwahodd y cyhoedd i brofi, deall ac ymfalchïo yng nghyfoeth ac amrywiaeth y deunydd sydd ganddynt.

Bydd diwrnod llawn o weithgareddau yn digwydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru dydd Iau 19eg o Dachwedd, fydd yn rhoi cyfle i’r cyhoedd ddysgu mwy am brosiect Wicipedia’r Llyfrgell; prosiect Cynefin, yn cynnwys taith tywys o’r adran gadwraeth a digido; taith Casgliad y Werin i Patagonia a sganio gyda gwirfoddolwyr y Llyfrgell.

Meddai Linda Tomos Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

‘Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn drysorfa i unrhyw un sydd â diddordeb mewn hanes teulu a hanes lleol – gyda miliynau o lyfrau, llawysgrifau, mapiau, ffotograffau, celf, ffilm a sain yn ein harchif. Mae nifer o’r adnoddau hyn ar gael am ddim ar ein gwefan, gan gynnwys miloedd o erthyglau wedi eu digido mewn papurau newydd Cymraeg. Rwyf yn croesawu ymgyrch Archwilio Archifau er mwyn pwysleisio’r cyfoeth sydd ar gael i bawb yn y Llyfrgell’

Meddai Sara Edwards, sy’n cefnogi ymgyrch eleni,

“Rwy’n credu bod llyfrgelloedd yn lleoedd cyffrous…ac rwyf wedi treulio sawl awr hapus ynddyn nhw dros y blynyddoedd. Fel myfyrwraig, hawdd iawn y byddwn yn dilyn ambell ysgyfarnog a darganfod rhywbeth hollol annisgwyl. Yn fwy diweddar bûm yn ymchwilio i hanes fy nheulu, ac fe ymddangosodd y pethau mwyaf rhyfeddol, fel hen enwau ar feysydd a ffermydd… nid pobl yn unig! Mae’n fonws fod staff yr archifdy mor wybodus a chyfeillgar ac mor barod eu cymwynas!”

Dywedodd Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth,

“Mae archifau yn chwarae rhan ganolog wrth siapio ein cymunedau yng Nghymru a’n cynorthwyo i feithrin teimlad dwfn o le a hunaniaeth. Maen nhw’n unigryw gan eu bod yn dal cofnodion gwreiddiol pobl leol, teuluoedd, busnesau a sefydliadau y gallwch eu darllen yn eu geiriau eu hunain. Rwyf wrth fy modd yn cefnogi’r ymgyrch a byddwn yn annog pob un i ymweld â’u harchif leol.”

Nodiadau i Olygyddion

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk
#archwilioarchifau

  1. Datblygwyd Archwiliwch Eich Archif gan yr Archifau Gwladol a’r Gymdeithas Archifau a Chofnodion (y Deyrnas Unedig ac Iwerddon) ac mae’n cael ei gefnogi yng Nghymru gan Is-adran Amgueddfeydd, Archifau, a Llyfrgelloedd, Llywodraeth Cymru.
  2. Mae’r sector archifau yng Nghymru yn cynnwys:
  • 13 gwasanaeth archif awdurdodau lleol (swyddfeydd cofnodion) gan gynnwys 3 gwasanaeth ar y cyd, gyda 15 man gwasanaeth
  • 5 gwasanaeth archif addysg uwch
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  • Amgueddfa Cymru – National Museum Wales
  • Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (RCAHMW)

Mae’r sefydliadau hyn yn gweithio gyda’i gilydd trwy’r corff partneriaeth strategol, Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru (ARCW) i gyflawni prosiectau datblygu Cymru gyfan.