Symud i'r prif gynnwys

Anrhydedd i’r Llyfrgell Genedlaethol yng Ngwobrau ‘THELMA’

DATGANIAD I’R WASG
23.6.15
 
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, fel aelod o Gonsortiwm WHELF (Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru), wedi dod i’r brig yng Ngwobrau ‘THELMA’ 2015 - The Times Higher Education Leadership and Management Awards.

Enillodd Consortiwm WHELF – sy’n cynnwys prifysgolion Cymru a llyfrgelloedd GIG Cymru – y wobr ‘Tîm Llyfrgell Rhagorol’ am eu system unedig rheoli adnoddau fydd ar gael ledled Cymru.  

Aled Gruffydd Jones, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru sy’n cadeirio WHELF, sy’n hyrwyddo gwaith llyfrgelloedd addysg uwch yng Nghymru ac sy’n ganolbwynt ar gyfer datblygu syniadau a gwasanaethau newydd.

Prifysgol Caerdydd sy’n arwain prosiect buddugol y Consortiwm, sef System Rheoli Llyfrgelloedd unigol ‘cenhedlaeth nesaf’ yn seiliedig ar gwmwl.  Dyma’r cyntaf o’i fath i’w ddefnyddio o fewn byd addysg uwch ym Mhrydain.  

Mae’r prosiect wedi sicrhau cyllid gan Jisc, elusen sy’n hyrwyddo defnydd technolegau digidol ym myd addysg ac ymchwil ym Mhrydain, a CyMAL (Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru).

Mae aelodaeth Consortiwm WHELF ar hyn o bryd yn defnyddio amrywiaeth o Systemau Rheoli Llyfrgell, a sawl math o system darganfod. Bydd y system newydd yn galluogi defnyddwyr llyfrgell i ddarganfod a benthyg deunydd o bob llyfrgell addysg uwch, gyda gwasanaethau digidol a chorfforol hefyd yn cael eu trawsnewid.

Eglurodd y beirniaid fod prosiect WHELF yn un ‘uchelgeisiol’ sy’n dangos y ‘gallu i ddatblygu gweledigaeth ar y cyd a chyflawni cydweithrediad traws-sefydliadol trawiadol.’

Ychwanegodd y beirniaid: “Yn ogystal â’r arbedion ariannol o ran caffael a strwythurau mewnol, bydd y bartneriaeth yn gwella argaeledd adnoddau llyfrgell ar gyfer holl ddefnyddwyr prifysgolion Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a thu hwnt.”

Meddai cadeirydd WHELF Aled Gruffydd Jones: “Mae’r wobr hon yn cydnabod y cydweithio gwych sydd wedi datblygu rhwng timoedd llyfrgell sefydliadau gwahanol ym mhob cwr o Gymru. Mae seiliau cadarn y cydweithio hwn yn atgyfnerthu’r gwasanaethau ry’n ni’n cynnig i’n defnyddwyr, ar gost is, ac yn argoeli’n dda ar gyfer y dyfodol.”

Fe gynhaliwyd Gwobrau THELMA yng Ngwesty’r Grosvenor House yn Llundain.  Yr actor a’r comedïwr Jack Whitehall oedd yn llywio’r noson ac roedd mil o westeion yn bresennol. Mae’r gwobrau, sy’n un o uchafbwyntiau’r calendr academaidd, yn dathlu’r gorau o’r sector addysg uwch ym Mhrydain.

Roedd y panel beirniaid yn cynnwys Alison Johns, Prif Weithredwr y Sefydliad Arweinyddiaeth ar gyfer Addysg Uwch, David McBeth, Cyfarwyddwr Ymchwil a Gwasanaethau Cyfnewid Gwybodaeth Prifysgol Ystrad Clud (Strathclyde), a Maja Maricevic, Pennaeth Addysg Uwch y Llyfrgell Brydeinig.

Am fwy o wybodaeth am WHELF ewch i www.whelf.ac.uk, neu fe allwch ddilyn ffrwd Trydar y Consortiwm: @WHELFed

Diwedd

  • Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Lydia Whitfield yn Effective Communication: lwhitfield@effcom.co.uk ar 02920 838 315 neu 07890 953402