Amddiffynnydd y Brenin Arthur yn dychwel i’r gad
DATGANIAD I’R WASG
15.06.15
Mae llyfr gan un o amddiffynwyr mwyaf glew y Brenin Arthur ar fin cael ei ail gyhoeddi, a hynny dros 400 mlynedd ar ôl ei ymddangosiad cyntaf.
Cyhoeddwyd Historiae Britannicae Defensio (‘Amddiffyniad Hanes Prydain’), gwaith Lladin gan Syr Siôn Prys o Aberhonddu am y tro cyntaf yn 1573. Roedd yn amddiffyniad eofn i’r stori am darddiad chwedlonol y Cymry a adroddwyd yn wreiddiol gan Sieffre o Fynwy yn y ddeuddegfed ganrif. Honnai Sieffre fod modd olrhain hanes Cymru yn ôl i Frutus o Gaerdroea yn yr unfed ganrif ar ddeg Cyn Crist.
Yn 1534, cyhoeddodd dyneiddiwr Eidalaidd o’r enw Polydore Vergil gyfrol ag iddi’r teitl Anglica Historia (‘Hanes Lloegr’), oedd yn cynnwys ymgais - lwyddiannus fel mae’n digwydd - i fwrw amheuaeth ar eirwiredd y fytholeg Gymreig. Amheuai fodolaeth hanesyddol arwyr y Cymry, gan gynnwys y Brenin Arthur. Un a safodd a derbyn yr her i amddiffyn y traddodiad brodorol oedd Syr Siôn Prys, twrnai a gweinyddwr fu’n diddymu mynachlogydd yn Lloegr ar ran Thomas Cromwell a’r Brenin Harri VIII, ac a oedd yn gryn ysgolhaig. Fe luniodd ei amddiffyniad gofalus mewn modd tra fforensig.
Dechreuodd Prys ysgrifennu ei Defensio yn ystod y 1540au, gan seilio llawer o’i ddadleuon ar y llawysgrifau Cymraeg hynny yr oedd wedi eu gweld, neu a oedd yn ei feddiant. Yn eu mysg yr oedd Llyfr Du Caerfyrddin, y llawysgrif honno o’r drydedd ganrif ar ddeg sydd bellach yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac sy’n cynnwys rhai o’r cyfeiriadau cynharaf at Arthur a Myrddin. Er ei fod yn ofalus i beidio honni fod pob gair o’r chwedlau am Arthur a Brutus yn wir, daliai Prys mai gwan oedd dadleuon y dyneiddiwr Eidalaidd a’i debyg, gan na allent ddarllen ffynonellau’r Cymry eu hunain. I Prys, roedd y ffynonellau hyn yn profi fod Arthur yn gymeriad hanesyddol real.
Bu farw Syr Siôn Prys yn 1555, heb weld cyhoeddi ei waith, ond gadawodd ei lawysgrif i’w fab Richard (a enwyd ar ôl nai i Cromwell). Ef aeth ati i gyhoeddi’r Defensio yn 1573, a gellir dweud i’r gyfrol ennyn diddordeb newydd yn hanes Cymru, a hynny ar sail astudiaeth fanylach o darddellau dogfennol. Yn ei sgil, bu mytholeg Sieffre o Fynwy o bwys mawr yng ngolwg cenedlaethau o ysgolheigion Cymreig, gan gynnwys Charles Edwards, Robert Vaughan a Theophilus Evans.
Dros bedwar can mlynedd yn ddiweddarach, ac i gyd-fynd â thymor ac arddangosfa ar Syr Siôn Prys a’i waith yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, fe gyhoeddir yr Historiae Britannicae Defensio eto, ond y tro hwn ynghyd â chyfieithiad i’r Saesneg. Mae un o’n hysgolheigion cyfoes praffaf, yr Athro Ceri Davies, Athro Emeritws yn y Clasuron ym Mhrifysgol Abertawe, wedi golygu a chyfieithu’r gwaith, ac wedi ychwanegu cyflwyniad a nodiadau er mwyn gosod y Defensio yn ei gyd-destun priodol.
Meddai’r Athro Davies: ‘Mae Siôn Prys yn gymeriad hynod o ddiddorol: gwas sifil, yn sicr, ond llwyddodd i gyfuno ei ddyletswyddau cyhoeddus gydag ymrwymiad dwfn i ysgolheictod a byd llên. Mae’n sefyll ar y ffin honno rhwng y cyfnod canoloesol a’r cyfnod modern cynnar, a tharddodd ei ysgolheictod o’r tensiwn hwn rhwng dau fyd tra gwahanol - rhwng byd ‘hynafiaethau’r Brytaniaid’ (fel y galwodd hwy) ar y naill law, a byd dyneiddiaeth y Dadeni Dysg ar y llall. Rwy’n gobeithio y bydd y llyfr, ynghyd ag arddangosfa ragorol y Llyfrgell Genedlaethol, yn tanio diddordeb newydd yn y gwaith Lladin nodedig hwn ac yn ei awdur.’
Y gyfrol hon o 390 tudalen fydd y chweched i ymddangos mewn cyfres o’r enw British Writers of the Middle Ages and the Early Modern Period, cyfres a olygir gan James P. Carley, Anne Hudson, Richard Sharpe, a James Willoughby. Cyhoeddir hi yn y Deyrnas Gyfunol ac Ewrop gan Bodleian Library Publishing, Rhydychen, ac yng Ngogledd America gan y Pontifical Institute of Mediaeval Studies, Toronto. Bydd y llyfr yn cael ei lansio, yn dilyn darlith gan yr Athro Davies, yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ddydd Sadwrn, 20 Mehefin.
Wythnos yn ddiweddarach, ar 27 Mehefin, bydd arddangosfa Llenor a lleidr? Syr Siôn Prys a’r llyfrau Cymraeg cyntaf yn dod i ben.
Gwybodaeth Ychwanegol
Delweddau a ddarperir:
- Darlun, o ddechrau’r bedwaredd ganrif ar ddeg, o’r Brenin Arthur (NLW, Peniarth MS 23C, f. 75v).
- Dalen-deitl Historiae Brytannicae Defensio Siôn Prys, 1573.
- Wyneb-ddalen llyfr newydd yr Athro Davies.
Hawliau delweddau 1-2: ©Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales, Aberystwyth.
Hawliau delwedd 3: ©The Pontifical Institute of Mediaeval Studies, Toronto.
Gellir cysylltu â’r Athro Ceri Davies trwy Swyddfa’r Wasg yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru: post@llgc.org.uk NEU 01970 632 534