Symud i'r prif gynnwys

Trysor annisgwyl: datgelu’r copi cynharaf o Chwedlau Caergaint

Pwy fyddai’n dychmygu fod un o drysorau mwyaf llenyddiaeth Saesneg yn ymgartrefu’n dawel ers blynyddoedd yn Aberystwyth?

Tros 600 mlynedd yn ôl, bu farw’r bardd Saesneg enwog Geoffrey Chaucer, a hynny heb iddo lwyddo i gwblhau ei gampwaith, Chwedlau Caergaint. Yn annisgwyl efallai, credir fod llawysgrif gynharaf y gwaith hwn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac iddi gael ei hysgrifennu gan ŵr o’r enw Adam Pinkhurst, scrifydd Chaucer ei hunan. Mae’r Llyfrgell newydd gyhoeddi’r gwaith ar-lein am y tro cyntaf erioed.

Mae ‘Chaucer Hengwrt’ yn glamp o gyfrol a gynhyrchwyd yn Llundain yn niwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg. Ynghyd â’r gyfrol harddach honno – Chaucer Ellesmere – a brynwyd gan Lyfrgell Huntington, a’i hallforio i’r Unol Daleithiau yn 1917, mae llawysgrif Hengwrt yn dwyn cyswllt agos gyda’r bardd ei hunan, ac yn adlewyrchu ymgais gynnar i ledaenu ei Chwedlau yn Llundain. Wedi i’r ysgolhaig Linne Mooney adnabod llaw y scrifydd yn 2006, mae pwysigrwydd (a gwerth) llawysgrif Aberystwyth wedi cynyddu’n sylweddol.

Yn ôl y Dr Aled Gruffydd Jones, Llyfrgellydd a Phrif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
‘Mae’n parhau i’m synnu, ac i’m bodloni, fod un o brif drysorau llenyddiaeth Saesneg gyda ni yma yng Nghymru, ac yn y Llyfrgell Genedlaethol. Mae presenoldeb y campwaith hwn yn tanlinellu statws ein sefydliad fel canolfan o bwysigrwydd rhyngwladol ar gyfer ymchwil a dysg. Rydym yn falch tu hwnt o allu rhannu’r delweddau hyn gyda’n defnyddwyr byd-eang.’

Cyhoeddwyd delweddau'r Hengwrt Chaucer i gyd-fynd â thymor o ddathlu bywyd a gwaith Chaucer yn y Llyfrgell Genedlaethol. Caiff ymwelwyr ag Aberystwyth weld llawysgrif wreiddiol y Chwedlau yn llawysgrif Hengwrt, ochr yn ochr â thrysorau Chauceraidd eraill, gan gynnwys llawysgrif arall sydd yn llaw Adam Pinkhurst, a hynny mewn arddangosfa arbennig.

Bydd cynhadledd wedi ei threfnu gan Ysgol Saesneg Prifysgol Bangor ar 14-16 Ebrill  yn denu cynulleidfa ryngwladol o ysgolheigion a myfyrwyr i’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth i ail-edrych ar arwyddocâd gwaith Chaucer, ac ar bwysigrwydd llawysgrifau o’i waith.

Dywedodd Dr Sue Niebrzydowski o Ysgol Saesneg Prifysgol Bangor:
 ‘Bu’n bleser bod yn rhan o brosiect sy’n darparu’r delweddau digidol hyn o Chwedlau Caergaint Chaucer yn rhydd i bawb. Mae straeon Chaucer, a adroddir gan gymysgfa ryfeddol o storïwyr, yn cynnig rhywbeth at ddant pob darllenydd. Amrywia’r straeon o rai sy’n sôn am geffylau mecanyddol efydd, i gywion ieir sy’n ymddwyn fel marchogion a boneddigesau. Hefyd, yn addas iawn yn achos Aberystwyth, ceir enghraifft o draflyncu creigiau arfordirol yn ystod llanw uchel!’

Delweddau o Chaucer Hengwrt


Bydd yr arddangosfa, ‘Dweud stori: Chaucer a Chwedlau Caergaint’, ar agor 29 Mawrth - 14 Mehefin 2014.

Gwybodaeth Bellach

Elin-Hâf, 01970 632534 neu post@llgc.org.uk