Siwrnai o ddarganfyddiadau - Gweinidog yn archwilio archif hanes lleol
Fe wnaeth John Griffiths, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, ymweld ag Archifau Gwent heddiw (14 Tachwedd) i lansio ymgyrch Archwiliwch Eich Archif a dysgu ychydig mwy am y lle y cafodd ei fagu.
Mae ymgyrch Archwiliwch Eich Archif yn annog pobl i ddarganfod y straeon, y ffeithiau, y lleoedd a’r bobl sydd wrth wraidd ein cymunedau. Mae archifau ar hyd a lled y Deyrnas Unedig ac Iwerddon yn cymryd rhan er mwyn pwysleisio gwerth archifau i gymdeithas a thynnu sylw at y cyfoeth o gynnwys amrywiol sy’n cael ei gadw, ei ddiogelu ac sydd ar gael i ddefnyddwyr.
Yn ystod y lansiad, fe wnaeth Archifau Gwent gyflwyno bocs straeon o ddogfennau i’r Gweinidog, gan gynnwys mapiau, cofnodion ysgolion, cofrestrau, ffotograffau a chyfeirlyfrau am fewnfudo i Billgwenlli, Casnewydd.
Dywedodd John Griffiths:
“Fe ofynnais am wybodaeth ar sail mewnfudo i ardal amlddiwylliannol a chosmopolitan Pillgwenlli gan mai yno y ces fy ngeni a’m magu. Mae’r stori yn datgelu nad rhywbeth modern yw’r amrywiaeth sydd i’w gael ym Mhillgwenlli, oherwydd ers i’r ardal ddechrau cael ei datblygu’n borthladd llongau, y mae wedi denu pobl o bedwar ban byd, a llawer ohonynt wedi ymgartrefu yma.
“Mae’r bocs stori rhyfeddol a gefais gan Archifau Gwent yn un enghraifft o’r cyfoeth o ddeunydd sydd dan ofal archifau ledled Cymru. Fe all unrhyw un gysylltu â’u harchif leol a dysgu am yr amrywiaeth o ddogfennau a delweddau sydd ar gael. Dyna’r cam cyntaf wrth ddechrau ar eich siwrnai o ddarganfyddiadau.”
Meddai John Chambers, Prif Weithredwr, Cymdeithas Archifau a Chofnodion (y Deyrnas Unedig ac Iwerddon):
“Mae Archwiliwch Eich Archif yn mynd i newid pethau’n sylweddol yn y sector. Wrth i archifau ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig ac Iwerddon ddod at ei gilydd am y tro cyntaf i gyfathrebu â’r cyhoedd, mae gennym gyfle gwirioneddol i ysbrydoli pobl sydd heb gerdded na chlicio eu ffordd i’n byd ni.”
Ychwanegodd Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aled Gruffydd Jones, sy’n cefnogi’r ymgyrch i ysbrydoli pobl i archwilio archifau:
“Mae ymweld ag archif yn gallu bod yn ddechrau ar antur – mae’n ddigon posib y byddwch yn darganfod mwy na’r disgwyl. Mae archifau yn llawn i’r ymylon o bethau rhyfeddol i’w darllen, eu cyffwrdd a’u harchwilio. Cymerwch eich amser i archwilio archifau – boed gennych ddiddordeb mewn ffasiwn, chwaraeon, bwyd neu UFOs, fe fydd rhywbeth yn yr archifau i’ch ysbrydoli.”
Gwybodaeth bellach
Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk